Adolygu’r flwyddyn: bwrw golwg yn ôl ar gynnydd a llwyddiannau Cartrefi Cymunedol Cymru yn 2023
Bu sylwadau a barn ein haelodau yn werthfawr tu hwnt unwaith eto ac wrth galon popeth yr aethom ato i’w gyflawni yn 2023.
O’n gwaith dylanwadu gwleidyddol i esblygiad ein gwasanaeth i aelodau, buom yn ymroddedig i sicrhau cynnydd go iawn ar gyfer cymdeithasau tai ar draws Cymru.
Gyda 2023 yn tynnu at ei therfyn, edrychwn yn ôl ar sut y gwnaethom wahaniaeth i’r sector eleni.
Mis Ionawr a mis Chwefror: cynllunio ar gyfer y dyfodol
Ar ddechrau pob blwyddyn mae ein ffocws ar sut y gallwn sicrhau’r effaith fwyaf ar gyfer cymdeithasau tai a’u tenantiaid ar draws Cymru yn y 12 mis nesaf. Felly, wrth i ni ddechrau 2023, fe wnaethom wrando ar adborth a sylwadau ein haelodau, a dechrau cynnwys eu sylwadau yn sut y bwriadem weithio eleni. Dechreuwyd mireinio ein cynllun corfforaethol ar gyfer 2023-27, cyn ei gyhoeddi ym mis Mawrth.
I sicrhau fod ein cynllun corfforaethol newydd yn diffinio ein rôl o fewn ac ymrwymiad i’r sector yn llawn dros y pedair blynedd nesaf, cyflwynwyd y camau rhagweithiol y byddem yn eu cymryd i gefnogi cymdeithasau tai i gyflawni eu nodau eang. O’r cynllun corfforaethol datblygwyd ein cynllun cyflenwi ar gyfer 2023-24, gan nodi’r camau gweithredu a’r tactegau y byddem yn eu cymryd yn ystod y flwyddyn gyntaf.
Gwelodd misoedd cyntaf y flwyddyn ni hefyd ein datblygu ein strwythur mewnol yn CHC i gryfhau ein trefniadaeth. Fe wnaethom ddechrau adeiladu uwch dîm rheoli newydd, gan ddod â phenaethiaid gwasanaeth i mewn i symleiddio ein strwythur rheoli cyffredinol. Fe wnaethom hefyd ychwanegu capasiti ac adnoddau i’n timau, a’r sgiliau a all dyfu ein galluoedd masnachol.
Mis Mawrth: Llywodraethiant a chynllun corfforaethol newydd
Ym mis Mawrth fe wnaethom groesawu cynrychiolwyr yn ôl i’n Cynhadledd Llywodraethiant wyneb yn wyneb am y tro cyntaf ers pandemig Covid-19. Fe’i cynhaliwyd yng Ngwesty Radisson yng Nghaerdydd a roedd yn gyfle i gydweithwyr ddod ynghyd ac ymchwilio sut y gallem wella llywodraethiant drwy edrych ar ba mor effeithol yr ydym wrth wrando, sicrhau dealltwriaaeth ac integreiddio hyn i’n gwasanaethau.
Fel y nodir uchod, yn y mis hwn cafodd ein cynllun corfforaethol ei lansio hefyd, sy’n nodi’r camau y byddwn yn eu cymryd i gefnogi ein haelodau i gynnal eu cymunedau, tra byddwn yn parhau i frwydro dros y newidiadau sydd eu hangen i gyflawni ein gweledigaeth a rannwn o Gymru lle mae tai da yn hawl sylfaenol i bawb.
Dan y cynllun, mae gennym set glir o nodau i’w cyflawni erbyn 2027, yr ydym yn hyderus y byddant yn cefnogi’r sector i gamu ymlaen unwaith eto - darllenwch fwy am ein nodau a’r cynllun yma.
Mis Ebrill – mis Medi: siapio’r sector
Wrth i ni barhau i weithio i esblygu a chryfhau ein cynnig i aelodau, fe wnaethom gyhoeddi ein hadroddiad effaith oedd yn edrych ar yr hyn a gafodd ei wneud yn ystod y chwe mis diwethaf a pha gynnydd a wnaethom fel sefydliad.
Yn ystod y cyfnod hwn, fe wnaethom hefyd barhau ein gwaith gydag aelodau i ddynodi’r dulliau a’r cymorth yr oeddent eu hangen i gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) newydd.
Bu ein tîm polisi yn gweithio gydag aelodau i baratoi’r sector a helpu siapio’r safon cyn ei gyhoeddi ym mis Hydref. Er mwyn eu helpu i gyrraedd y nodau yma, rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a chymdeithasau tai tuag at weithredu.
Wrth i ni fynd ati i wella safon y cartrefi a adeiledir, roeddem hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau dealltwriaeth ddyfnach o gynnydd ar y targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy. Mae’n amlwg fod pobl Cymru angen mwy o gartrefi fforddiadwy ac felly buom yn parhau i weithio gyda’n haelodau ac yn galw am gymorth fel bo angen i ddileu unrhyw rwystrau posibl.
Gan fod gan gymdeithasau tai rôl hollbwysig wrth liniaru ac atal digartrefedd, fe wnaethom hefyd ymuno â’r Panel Adolygu Arbenigol a roddodd gyngor yn nes ymlaen i’r Gweinidog ar newidiadau deddfwriaethol i roi diwedd ar ddigartrefedd.
Mis Gorffennaf: Pennaeth newydd gwasanaethau aelodau ac Un Gynhadledd Fawr
Gyda chymaint o waith yn mynd rhagddo i gyfoethogi pob agwedd o’n gwaith fel sector, roedd CHC yn hynod falch i ddod ag aelodau o bob rhan o Gymru ynghyd ym mis Gorffennaf i’n Un Cynhadledd Fawr yng Nghaerdydd. Roedd hyn yn cynnwys nifer o drafodaethau dylanwadol i sbarduno’r meddwl gan brif siaradwyr yn cynnwys yr anturiaethwraig Tori James.
Wrth i ni barhau i ymgorffori barn ein haelodau yn sut mae CHC gweithio, fe wnaethom groesawu Louise Price-David fel ein pennaeth aelodaeth a phartneriaethau i yrru ymlaen gyda’n dull gweithredu gyda ffocws ar yr aelodau.
Mae Louise, a ymunodd â CHC ar ôl gyrfa 15 mlynedd yn y sector elusennol a chyhoeddus, wedi cyfoethogi ein cynnig yn sylweddol ar gyfer aelodau a phartneriaid masnachol.
Mis Awst: Pennaeth polisi newydd
Fe wnaethom hefyd groesawu Elly Lock fel ein cyd-bennaeth polisi a materion allanol newydd ym mis Awst, wrth i’n gwaith polisi a materion allanol barhau i fod â rôl allweddol yn ein taith yn 2023.
Bu Elly yn ganolog fel arweinydd ar feysydd allweddol drwy gydol y flwyddyn, yn cynnwys datblygu tai cymdeithasol a datgarboneiddio.
Mis Medi: Cymunedau Aelodau
Ym mis Medi fe wnaethom ddechrau cyflwyno fersiwn newydd ein gwasanaethau aelodau. Gan adeiladu ar sylwadau ac adborth uniongyrchol gan ein haelodau, a gafwyd dros y 18 mis blaenorol, cafodd ein gwasanaethau presennol eu cyfoethogi i roi mwy o gyfleoedd i’n cydweithwyr mewn cymdeithasau tai i gysylltu gyda’i gilydd a gydag arbenigwyr; gweithio gyda’n gilydd ar broblemau a defnyddio adnoddau eraill. Mae mwy o wybodaeth am gwmpas ein cynnig i aelodau ar gael yma.
Gan adeiladu ar fformat y Grwpiau Cyflenwi Strategol poblogaidd blaenorol, fe wnaethom gyflwyno Cymunedau Aelodau, gan ddechrau gyda’n grŵp cyfathrebu ym mis Medi. Gan ategu ein model grŵp gorchwyl a gorffen, mae’r cymunedau hyn yn lle i gysylltu, rhwydweithio a gwylio’r gorwel gyda’n gilydd. Yn y fformat yma, gall aelodau lunio mwy ar y sgwrs i sicrhau fod gennym ffocws ar y cyd ar y materion hirdymor pwysicaf o safbwynt cymdeithasau tai.
Mis Hydref: Cefnogi’r sector gyda RAAC
Roedd ein perthynas gryf gyda’n haelodau yn hanfodol wrth gydlynu ein hymateb wrth i’r risgiau a ddynodwyd am ddefnyddio concrit awyredig awtoclafiedig cydnerth (RAAC) gael eu hamlygu ym mis Hydref.
Fe wnaethom gefnogi cymdeithasau tai wrth iddynt asesu eu cartrefi yng ngoleuni’r risgiau newydd hyn ac fe wnaethant barhau i sicrhau fod tenantiaid yn teimlo’n ddiogel ac yn cael gwybodaeth lawn. Darllenwch fwy am ein gwaith ar RAAC yma.
Cyhoeddwyd Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC2| yn nes ymlaen yn y mis. Ar ôl gweithio gyda’n haelodau ar hyn drwy gydol y flwyddyn, fe wnaethom barhau i’w cefnogi drwy annog a rhannu gwybodaeth i’w helpu i weithio tuag at gyflawni’r safon newydd. Darllenwch fwy yma.
Mis Tachwedd: Mynd i’r afael â lleithder a llwydni
Roedd mis Tachwedd 2023 yn nodi blwyddyn ers casgliad y cwest i farwolaeth drasig Awaab Ishak. Ers adrodd y newyddion trasig yr achoswyd ei farwolaeth oherwydd iddo ddod i gysylltiad â lleithder a llwydni yn ei gartref, bu cymdeithasau tai Cymru yn edrych yn feiriadol ar sut y maent yn trin y math yma o gyflwr gwael yng nghartref eu tenantiaid eu hunain.
I sicrhau fod ein gwaith y maes hwn yn dryloyw, fe wnaethom gyhoeddi a diweddaru yn esbonio sut olwg oedd ar y 12 mis diwethaf i’n sector, ac yn edrych ymlaen at yr hyn fydd yn digwydd nesaf – gallwch ei ddarllen yma.
Mis Tachwedd: Cynhadledd Flynyddol, Methu Dod â Deupen Llinyn Ynghyd ac ymgyrch Materion Tai
Roeddem wrth ein bodd i groesawu ein haelodau a phartneriaid o bob rhan o’r sector i Techniquest ar gyfer ein Cynhadledd Flynyddol lwyddiannus ym mis Tachwedd. Mynychodd cannoedd o bobl y gynhadledd ddeuddydd a chlywed gan siaradwyr a phanelwyr blaenllaw. Gallwch weld oriel o luniau o’r digwyddiad yma.
Cafodd ein hadroddiad ymchwil ar gostau byw, Methu Dod â Deupen Llinyn Ynghyd, hefyd ei lansio ym mis Tachwedd. Mae hyn yn rhoi sylw i’r effaith drychinebus mae’r argyfwng costau byw yn parhau i’w gael ar bobl ar incwm is, yn cynnwys pobl sy’n byw mewn cartrefi cymdeithasau tai.
Mae ystadegau allweddol o’r ymchwil yn cynnwys:
- Y rheswm mwyaf cyffredin y cysylltodd tenantiaid â’u cymdeithas tai oedd i gael help gyda chostau ynni.
- Fe wnaeth 14 cymdeithas tai gefnogi tenantiaid i dderbyn dros naw miliwn o bunnau o incwm ychwanegol yn ystod yr un cyfnod.
Darllenwch yr adroddiad a chanfod mwy am ein galwadau i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yma.
Yn dilyn y gynhadledd fe wnaethom eto lansio ein hymgyrch Materion Tai ar y cyd gyda Cymorth Cymru, yn galw am gynnydd yn y Grant Cymorth Tai i alluogi gwasanaethau cymorth digartrefedd a chymorth tai i barhau eu gwaith hollbwysig.
Canfu ein harolwg o gymdeithasau tai a darparwyr gwasanaeth digartrefedd:
- Bu’n rhaid i 27% o ddarparwyr cymorth ostwng capasiti gwasanaeth ers y gyllideb arian aros-yn-ei-hunfan ar gyfer 2023/24;
- Nid yw 45% wedi cynnig am gontractau newydd neu wedi aildendro am gontractau;
- Mae 10% wedi dileu swyddi..
Darllenwch fwy am ymgyrch ac ymchwil Materion Tai yma.
Mis Rhagfyr: Hyb Tai Newydd
Cafodd rhan arall o’n cynnig newydd i aelodau ei lansio ym mis Rhagfyr: yr Hyb Tai. Mae’r adran newydd hon, a warchodir gyda chyfrinair ar ein gwefan, yn golygu y gall ein haelodau ac aelodau byrddau cymdeithasau tai ganfod yr wybodaeth ddiweddaraf ar ein gwaith, papurau gwybodaeth polisi, gwybodaeth am grwpiau gorchwyl a gorffen, adnoddau defnyddiol a mwy o fewn clic neu ddau. Darllenwch mwy am yr Hyb yma.
Bu’n 2023 prysur, llawn cynnydd a dysgu pellach ar gyfer sector tai cymdeithasol Cymru. Hoffem ddiolch i aelodau a phartneriaid am eu cefnogaeth barhaus ac am gymryd rhan, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw yn 2024.