Jump to content

Ein Bwrdd

Bwrdd Cartrefi Cymunedol Cymru sy’n gosod cyfeiriad strategol y sefydliad ac mae’n gweithio gyda’r grŵp uwch reolwyr i oruchwylio gweithrediad effeithlon y busnes.

Rydym yn atebol i’n haelodau. Gweithiwn i sicrhau newid ac i ddylanwadu ar eu hamgylchedd gweithredu. Mae ein bwrdd yn ein dal i gyfrif i sicrhau ein bod yn cynrychioli eu barn amrywiol? mewn ffordd briodol.

Mae ein cadeirydd yn annibynnol ac nid yw’n gweithio yn y sector. Mae 12 o bobl ar ein bwrdd o’r tu mewn a’r tu allan i’r sector cymdeithasau tai.

Caiff aelodau bwrdd eu penodi yn seiliedig ar eu sgiliau a chânt eu hethol yn ffurfiol yn ein cyfarfod cyffredinol blynyddol (CCB). Mae eu tymor dechreuol am dair blynedd gyda’r cyfle i sefyll am dair blynedd bellach ar ôl hynny.

Cynhelir cyfarfodydd Bwrdd bob chwarter gyda dwy sesiwn strategol ychwanegol hefyd yn cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn.

Crynodeb llawn

Aelod Bwrdd