Jump to content

04 Rhagfyr 2023

Newydd: Lansio Hyb Tai i aelodau yn unig ar wefan CHC

Newydd: Lansio Hyb Tai i aelodau yn unig ar wefan CHC

Yn gynharach eleni fe wnaethom rannu sut y buom yn gwella’r ffyrdd yr ydym yn ymgysylltu gyda’n haelodau, a defnyddio eich adborth i esblygu ein gwasanaethau.

Fe wnaethoch ddweud wrthym y gallai’r wefan fod yn adnodd fwy defnyddiol, a’ch bod eisiau mynediad rhwyddach i’r wybodaeth hanfodol a ddarparwn. Mewn ymateb i hynny, rydym yn falch i fod yn lansio Hyb Tai newydd ar ein gwefan.

Bydd yr adran hon, a ddiogelir gan gyfrinair, yn golygu y gall ein haelodau ganfod diweddariadau amserol ar ein gwaith, briffiadau polisi, gwybodaeth am y grwpiau gorchwyl a gorffen, adnoddau defnyddiol a mwy o fewn ychydig gliciau.

Mae’r Hyb Tai yn lansio gyda thudalennau gyda ffocws ar y meysydd dilynol:

  • yr argyfwng costau byw;
  • datgarboneiddio/SATC;
  • digartrefedd;
  • cartrefi mewn cyflwr gwael;
  • RAAC;
  • rhent a fforddiadwyedd.

Cafodd y pynciau eu dewis ar gyfer y lansiad gan mai nhw yw rhai o’r meysydd sy’n symud gyflymaf ar hyn o bryd, ond byddwn yn ychwanegu mwy o dudalennau yn yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

Fel storfa wybodaeth ganolog, bydd yn llawer rhwyddach a chyflymach i aelodau gael yr wybodaeth ddiweddaraf, papurau gwybodaeth, gwybodaeth ar ddigwyddiadau o ddiddordeb ac yn ymwneud mwy â’u maes ffocws.

Byddwch yn dal i fod â chefnogaeth ein tîm polisi ond drwy ddefnyddio’r Hyb Tai, gallwch glicio a chasglu fel y mynnwch.

Bydd yr hyb yn cefnogi tryloywder ein gwasanaethau eraill estynedig i aelodau, yn arbennig, roi sylw i wybodaeth yn ymwneud â’n grwpiau gorchwyl a gorffen newydd arfaethedig a chamau gweithredu a gytunwyd o gyfarfodydd diweddar.

Mynediad i’r hyb

Gall aelodau yn awr gael mynediad yn uniongyrchol i’r Hyb Tai o’n tudalen gartref, a drwy’r ddolen hon. Bydd angen i chi greu cyfrif i fewngodi, a bydd gwneud hynny yn rhoi cyfle i chi gofrestru ar gyfer ein Cymunedau Aelodau ac e-bost Bwletin CHC bob bythefnos.

I wneud yn siŵr fod yr Hyb Tai yn gweithio i’n haelodau, gallwch rannu unrhyw adborth sydd gennych gyda’r arweinwyr polisi a restrir ar dudalennau’r hyb neu e-bost comms@chcymru.org.uk.