Cynnig i aelodau
Caiff CHC ei yrru gan y materion sy’n bwysig i gymdeithasau tai Cymru. Ein rôl yw cefnogi ein haelodau i gynnal ein cymunedau tra byddwn yn parhau i ymladd dros y newidiadau sydd eu hangen i wneud Cymru yn wlad lle mae tai da yn hawl sylfaenol i bawb.
Gyda phwy i siarad...
Jonathan Conway
Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau cyllid a fframwaith polisi digonol i gefnogi buddsoddiad mewn cartrefi newydd a phresennol a gwasanaethau cymorth. Rydym hefyd yn cynrychioli ein haelodau, gan weithredu fel llais dylanwadol i sicrhau newid. A rydym yn gweithredu fel canolbwynt i ddod â nhw ynghyd i ganfod datrysiadau ar y cyd i’r heriau a wynebwn.
Mae llu o fanteision i aelodaeth a’n nod yw cysylltu ein haelodau gyda’r ymarfer, y cynnwys a’r arbenigedd maent ei angen, i wneud a dylanwadu ar benderfyniadau fydd yn parhau i wella’r sector cymdeithasau tai yng Nghymru. Gwnawn hyn drwy roi cyfleoedd i aelodau drwy gydol y flwyddyn i ddysgu, rhwydweithio a chydweithredu, drwy’r cynlluniau a amlinellir isod.
Byddwn yn parhau i adolygu ein cynnig, i sicrhau ei fod yn diwallu a chefnogi eich anghenion.
I weld canllawiau gweledol ar sut y darparwn ein gwasanaethau aelodau, edrychwch yma.
Cymunedau aelodau
Er mwyn rhoi mwy o gyfleoedd am gyfarfodydd wyneb-i-wyneb a gofod i aelodau edrych ar yr hirdymor, yn 2023 fe wnaethom addasu ein model grŵp cyflenwi strategol poblogaidd i fod yn gymunedau aelodau.
Mae’r gymuned aelodau yn golygu y gallwn gynyddu cyfleoedd rhwydweithio, gan roi gofod mwy penodol i geisio cymorth gan gymheiriaid a rhannu arfer da, a chanolbwyntio’n llawn ar y dyfodol i ffwrdd o ofynion dydd i ddydd.
Mae’r cymunedau hyn yn ymroddedig i’r meysydd gwaith thema dilynol:
- Gofal a chymorth
- Prif weithredwyr
- Cadeiryddion ac is-gadeiryddion bwrdd
- Cyfathrebu
- Cyllid
- Cartrefi’r dyfodol
- Llywodraethiant a rheoleiddio
- Rheoli tai
- Adnoddau dynol
- Diogelwch
Mae gan bob cymuned aelodau grŵp trafodaeth ar-lein a gynhelir ar WhatsApp, i helpu cyfranogwyr i gadw mewn cysylltiad gyda chydweithwyr o bob rhan o’r sector a pharhau trafodaethau, cydweithio a chefnogaeth drwy’r flwyddyn gron.
Ewch i’r dudalen hon i ganfod mwy am gymunedau aelodau.
Cynnig i aelodau bwrdd
Rydym wedi creu tri rhwydwaith rhanbarthol newydd ar gyfer aelodau bwrdd cymdeithasau tai. Mae’r gofodau hyn ar gyfer aelodau bwrdd i ddysgu gan ei gilydd ac ymchwilio pynciau hanfodol busnesau mewn ffordd sy’n ategu yr hyfforddiant, cymorth a datblygiad a gynigir gan gymdeithasau tai.
Yn ychwanegol, rydym yn datblygu ein diweddariadau a’n hyfforddiant i roi mynediad i aelodau bwrdd i gyrsiau byr sy’n rhoi gwybodaeth allweddol yn gyflym ac effeithiol, gan barchu’r ffaith fod eu hamser yn werthfawr. Bwriadwn hefyd recordio’r sesiynau hyn, fel y gall y rhai na all fynychu ar y dydd gael mynediad iddynt yn ddiweddarach.
Mae mwy o fanylion ar gael ar ein tudalen cynnig i aelodau bwrdd.
Grwpiau gorchwyl a gorffen
Mae gan y grwpiau hyn, a sefydlir am gyfnod penodol, her a ddiffiniwyd yn glir sydd â’r capasiti rhyngddynt i ddatblygu ymateb neu ddatrysiad. Mae gan bob un hefyd gylch gorchwyl, deilliannau mesuradwy a mynediad i gyfres o ddulliau fydd yn cefnogi wrth ddadansoddi’r broblem a’i effaith, a dynodi datrysiadau.
Mae gan aelodau hefyd wybodaeth glir ar sut i gymryd rhan, blaenoriaethau pob grŵp a’i gynnydd, gyda diweddariadau’n cael eu rhannu drwy e-bost a rhannau perthnasol ein gwefan.
Mae mwy o wybodaeth am ein grwpiau gorchwyl a gorffen cyfredol yma.
Hyb Tai
Mae’r Hyb Tai yn adran newydd a warchodir gan gyfrinair ar ein gwefan sy’n rhoi mynediad i wybodaeth hanfodol i chi, ein haelodau, pan fyddwch ei hangen. Bydd gan adrannau yr hyb thema i ganolbwyntio ar faterion unigol - er enghraifft, datgarboneiddio, a rhent. Caiff pob un ei datblygu gydag anghenion gwahanol ddefnyddwyr dan sylw, ond bydd yn fras yn cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf ar ein grŵp, adnoddau defnyddiol a mwy.
Ewch i’r dudalen yma i gael mynediad i’r Hyb Tai.
Cymorth ychwanegol
Ar-lein
Rydym yn parhau i gynnal rhaglen gref o ddigwyddiadau sbotolau a gweminarau ar-lein, gan gysylltu gyda meysydd polisi allweddol, gwybodaeth a chefnogi gwaith ein cymunedau aelodau a’n grwpiau gorchwyl a gorffen. Peidiwch â phoeni os na allwch ddod i un o’r sesiynau – caiff y rhan fwyaf o’n gweminarau a’n sesiynau sbotolau eu recordio a maent ar gael i aelodau edrych arnynt.
Rydym hefyd yn dosbarthu ein bwletin aelodau yn uniongyrchol i’ch mewnflwch, gan eich cadw mewn cysylltiad gyda’n gwaith ni, gwaith ein partneriaid ac unrhyw ddatblygiadau diddorol sy’n effeithio ar y sector. Cliciwch yma i danysgrifio.
Cynadleddau
Rydym yn ymroddedig i gynnal rhaglen heriol a diddorol o gynadleddau ar eich cyfer. Gyda’n Cynhadledd Flynyddol, Un Gynhadledd Fawr, cynhadledd Llywodraethiant a’r gynhadledd Cyllid, byddwch yn cael digonedd o ddewisiadau drwy gydol y flwyddyn i gefnogi eich holl anghenion dysgu a rhwydweithio.
Ewch i’n tudalen Beth Sydd Ymlaen i ganfod mwy.
Hyfforddiant
Mae ein hyfforddiant poblogaidd Cyflwyniad i Dai yn parhau i redeg drwy gydol y flwyddyn.
Cadwch lygad ar ein tudalen Beth Sydd Ymlaen i weld pa weithgareddau ar y gweill y gallwch gymryd rhan ynddynt.
Cynlluniau eraill
Recriwtio effeithiol
Mae Swyddi Tai Cymru yn gynllun ar y cyd rhwng Charity Job Finder a Cartrefi Cymunedol Cymru ac mae’n arbennig ar gyfer hysbysebu swyddi tai cymdeithasol, gan arddangos y dewis eang o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael yn ein sector.
Mae’r bartneriaeth yn manteisio o gynulleidfa cyfryngau cymdeithasol fawr a chyrraedd digidol eang i’ch helpu i ddenu’r bobl orau i’ch sefydliad.
Ymunwch â’n cynllun Awdurdod Tân Sylfaenol ar gyfer Tai
Gallwch dderbyn cyngor cadarn gan un Gwasanaeth Tân ac Achub pa bynnag ardal ddaearyddol yr ydych yn gweithio ynddi drwy Gynllun Awdurdod Tân Sylfaenol y sector. Wedi’i gydlynu gan Cartrefi Cymunedol Cymru, caiff y gwaith sydd yn yr arfaeth ei gytuno gan aelodau cymdeithasau tai sy’n ymuno â’r cynllun.
Mwy mwy o wybodaeth am y cynllun a’i waith yma.
Yswiriant cynnwys My Home
Mae cynllun ‘My Home’ Thistle Insurance yn cynnig yswiriant cynnwys cartref ar gyfer tenantiaid mewn ffordd rwydd a fforddiadwy. Heb unrhyw ordal a thaliadau premiwm rheolaidd hyblyg, mae’r cynllun ar agor i bob tenant sy’n byw mewn tai cymdeithasol. Darganfyddwch fwy