Jump to content

04 Awst 2023

Mae ein Gwasanaethau yn esblygu

Mae ein Gwasanaethau yn esblygu

Dros y 18 mis diwethaf buom yn gweithio ar gynllun i wella sut ydym yn ymgysylltu gyda’n haelodau. Rydym wedi siarad gyda llawer ohonoch am yr hyn a deimlwch sy’n bwysig ac wedi defnyddio eich adborth i lunio cynigion i wneud ein gwasanaethau hyd yn oed yn well.

Derbyniodd ein Bwrdd y cynigion hyn ym mis Gorffennaf a rhoi’r golau gwyrdd i gyflwyno’r cynnig estynedig o fis Medi.

Gall pethau edrych ychydig yn wahanol ond byddwn yn parhau i sicrhau fod yr hyn a ddarparwn yn diwallu eich anghenion.

Rydym wedi llunio’r briffiad gweledol hwn i’ch helpu i ddeall y newidiadau hyn.

Fel rhan o’n hymagwedd newydd, byddwn hefyd yn rhoi mwy o gyfleoedd i chi gwrdd wyneb yn wyneb gyda chydweithwyr o bob rhan o’r sector. Ynghyd â hyn, byddwn yn darparu gofodau ar-lein hyblyg ar gyfer trafodaeth drwy gydol y flwyddyn, sesiynau ar-lein wedi eu targedu i gynyddu eich gwybodaeth a gweithgaredd Gorchwyl a Gorffen clir.

Bydd hefyd gynnig pwrpasol i aelodau Bwrdd ac adnoddau ar-lein ar feysydd allweddol ar gael drwy ein gwefan.

Mae’r twf o Grwpiau Cyflenwi Strategol i Gymunedau Aelodau yn rhan fawr o’r cynnig. Bydd y Cymunedau Aelodau yn symud ymaith o’r fformat ar-lein, gan yn lle hynny gwrdd wyneb yn wyneb ddwywaith y flwyddyn, gan roi gofod i aelodau ar gyfer trafod ac, yn bwysig, wylio’r gorwel.

Caiff y cyfarfodydd hyn eu hymestyn ar draws y flwyddyn, felly efallai na fydd rhai o’r cymunedau yn cwrdd am dipyn. I bontio’r bwlch hwnnw, byddwn yn darparu cynnwys ar-lein sy’n berthnasol i’r Cymunedau Aelodau. Bydd hyn yn cefnogi eich gwaith ac yn eich cysylltu gyda’r bobl a’r wybodaeth gywir.

Oes unrhyw gwestiynau gennych chi?

Cysylltwch os gwelwch yn dda â jonathan-conway@chcymu.org.uk