Rydym yn awr yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu’r Grant Cymorth Tai yn ei chyllideb ar gyfer 2024/25.
Y Grant Cymorth Tai yw prif ffrwd cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer atal digartrefedd a chefnogi byw annibynnol. Bob blwyddyn, mae’r gwasanaethau y mae’r grant yn eu hariannu yn helpu mwy na 60,000 o bobl i osgoi digartrefedd, dianc rhag cam-driniaeth, byw yn eu cartrefi eu hunain a ffynnu yn eu cymunedau.
Drwy ddarparu gwasanaethau lloches, llety â chymorth a chefnogi tenantiaid, mae’r Grant Cymorth Tai hefyd yn atal pobl rhag cysgu allan, yn galluogi pobl i adael perthynas lle mae camdriniaeth, helpu pobl i oresgyn problemau iechyd meddwl a gweithio gyda phobl i adeiladu ar eu cryfderau a chyflawni eu huchelgais.
Fodd bynnag, mae ein hymchwil diweddaraf am wasanaethau digartrefedd a chymorth tai yn dangos fod y diffyg cyllid presennol yn cael effaith negyddol ar ddarpariaeth gwasanaeth, ac nad yw gwasanaethau bellach yn medru gwrthsefyll toriadau. Yn y pen draw, mae hyn yn golygu fod risg real iawn y bydd gwasanaethau yn dymchwel heb gynnydd mewn cyllid Grant Cymorth Tai.
Wrth i ni wynebu’r rhagolwg real iawn yma, mae’r gwasanaethau eu hunain yn wynebu galw cynyddol a chymhlethdod. Mewn gwirionedd, ni fu’r galw am wasanaethau digartrefedd a chymorth tai yng Nghymru erioed yn fyw.
Os nad oes unrhyw gynnydd mewn cyllid, canfu ein hymchwil ei bod yn debygol y bydd:
- 77% o ddarparwyr cymorth yn gostwng capasiti yn eu gwasanaethau
- 40% yn cyflwyno contractau presennol yn ôl;
- 67% yn peidio cynnig am gontractau newydd neu ail-dendro.
Wrth i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniadau am ei chyllideb ar gyfer 2024/25, mae’r neges gan ein sector yn glir: mae gan wasanaethau angen dybryd am chwistrelliad cyllid i sicrhau y gall y degau o filoedd o bobl sy’n dibynnu ar wasanaethau hanfodol cymorth tenantiaeth gael yr help hanfodol maent eu hangen.
Darllenwch adroddiad ymchwil Materion Tai 2024/255 drwy’r ddolen isod.
Cymryd rhan yn yr ymgyrch
Dymunwn ychwanegu cynifer o leisiau i’n hymgyrch ag sy’n bosibl eleni, i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn clywed profiadau ein sector a’r hyn y gofynnwn amdano.
Ddydd Gwener 1 Rhagfyr fe wnaethom gynnal diwrnod gweithredu Materion Tai, gan ddechrau gyda briffiad ar-lein ar gyfer aelodau’r Senedd.
Rydym wedi cynhyrchu pecyn ymgyrch gyda manylion ar yr hyn a wnaethom hyd yma, beth sydd nesaf, sut y gallwch helpu a negeseuon allweddol i’w rhannu. Cliciwch i lawrlwytho isod i gael y pecyn, ac ymwelwch â gwefan Cymorth i lawrlwytho dylunwaith cyfryngau cymdeithasol #MaterionTaiCymru.