Jump to content

20 Tachwedd 2023

Angen gweithredu ‘ar frys’ i helpu miloedd o denantiaid cymdeithasau tai sy’n cael trafferthion gyda’r cynnydd mewn costau byw

Angen gweithredu  ‘ar frys’ i helpu miloedd o denantiaid cymdeithasau tai sy’n cael trafferthion gyda’r cynnydd mewn costau byw

Cafodd mwy na 14,000 o denantiaid tai cymdeithasol Cymru gymorth ariannol hollbwysig gan eu cymdeithas tai yn chwe mis cyntaf y flwyddyn, yn ôl adroddiad diweddaraf Cartrefi Cymunedol Cymru.

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru, sy’n cynrychioli 34 cymdeithas tai ar draws Cymru, yn galw am weithredu ar frys gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru i gefnogi tenantiaid tai cymdeithasol, a fu ymysg y rhai a gafodd eu taro waethaf gan yr argyfwng costau byw.

Daw’r galwad wrth iddo gyhoeddi ei adroddiad costau byw Methu dod â deupen llinyn ynghyd, a wnaeth arolygu cymdeithasau tai ar draws Cymru i ganfod sut mae costau byw cynyddol yn effeithio ar denantiaid, a sut mae cymdeithasau tai yn cefnogi’r bobl sy’n byw yn eu cartrefi.

Dengys y canfyddiadau y gwelodd 74% o gymdeithasau tai Cymru gynnydd yn nifer y bobl a gysylltodd â nhw i gael cymorth ariannol yn ystod chwe mis cyntaf 2023, o gymharu gyda’r chwe mis blaenorol yn 2022.

Canfuwyd mai rhieni sengl a chartrefi un person oedd fwyaf tebygol i fod wedi bod angen cymorth ariannol yn ystod y cyfnod hwn.

“Mae’r rhan fwyaf o ddigon o fy ngwaith ar hyn o bryd yn ymwneud â’r argyfwng costau byw a chaledi ariannol... Rwy’n falch iawn o’n gwaith a’r gwahaniaeth a wnawn i fywydau pobl. Mae mwy a mwy o breswylwyr yn troi atom gan nad ydynt yn gwybod ble arall i fynd rwy’n pryderu pa mor hir y gallwn gynnal hyn.”

Gweithiwr rheng flaen



Y rheswm mwyaf cyffredin y gwnaeth tenantiaid gysylltu â’u cymdeithasau tai oedd i gael help gyda’r cynnydd mawr mewn costau ynni, gyda 50% o’r cymdeithasau tai a gafodd eu harolygu yn dweud iddynt gynnig y math yma o gymorth. Dywedodd 38% hefyd fod tenantiaid wedi cysylltu â nhw i gael help i fforddio bwyd, gyda 20% angen cymorth gyda dyledion.

Bu timau cymdeithiau tai arbenigol yn cefnogi tenantiaid a gysylltodd â nhw gyda phryderon eraill am arian hefyd, gan eu helpu i gynyddu eu hincwm, adeiladu gwytnwch ariannol hirdymor a chynnig cymorth ariannol arall.

Yn ychwanegol, canfu’r arolwg fod cymdeithasau tai rhwng Ionawr a Mehefin wedi cynyddu incwm tenantiaid gan £1,000 yr unigolyn ar gyfartaledd, gyda 14 cymdeithas tai yn cefnogi tenantiaid i dderbyn cyfanswm o fwy na £9 miliwn mewn incwm ychwanegol yn ystod yr un cyfnod.

Mae mwyafrif cymdeithasau tai hefyd yn cynnig rhaff fywyd drwy gronfa caledi ar gyfer tenantiaid sydd mewn argyfwng ariannol. Rhyngddynt, mae cymdeithasau tai yn rhoi mynediad i dros £1.3 miliwn mewn cymorth caledi, ac mae mwy na hanner (59%) wedi cynyddu swm y cyllid sydd ar gael ar gyfer y flwyddyn ariannol yma.

“Mae tenantiaid yn gorfod dewis rhwng rent, tanwydd a bwyd ... mae hyn yn cael effaith fawr ar les a iechyd meddwl preswylwyr.”

Gweithiwr rheng flaen

Galwodd Hayley Macnamara, arweinydd costau byw Cartrefi Cymunedol Cymru, am weithredu ar frys i gefnogi tenantiaid tai cymdeithasol a allai fod yn wynebu gaeaf cynyddol anodd.

Dywedodd: ”Rydym yn awr ddwy flynedd i mewn i’r argyfwng costau byw ac mae tenantiaid cymdeithasau tai yn wynebu canlyniadau ariannol misoedd a misoedd o bwysau a chaledi ariannol.

“Mae ein hadroddiad yn dangos yr effaith andwyol y mae costau byw cynyddol yn parhau i’w gael ar bobl ar yr incwm isaf, yn cynnwys llawer sy’n byw mewn cartrefi cymdeithasau tai.

“Er fod cymdeithasau tai yn gwneud popeth a fedrant i helpu pobl sy’n wynebu anawsterau, mae’n hollol hanfodol eu bod yn cael y cymorth ariannol brys maent ei angen i fforddio’r hanfodion sylfaenol.

“Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ymrwymo i gefnogi pobl sy’n byw mewn cartrefi cymdeithasau tai yn awr i’w hatal rhag cael eu gorfodi i wneud penderfyniadau torcalonnus y gaeaf hwn.

“Byddem yn annog unrhyw un sy’n byw mewn cartref cymdeithas tai sy’n bryderus am gymorth ariannol i gysylltu gyda’u landlord i gael cymorth.”

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn awr yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru i gymryd y camau gweithredu hyn ar unwaith:

Dylai Llywodraeth y DU:

  • Gadarnhau y caiff budd-daliadau eu cynyddu yn unol â chwyddiant o fis Ebrill.
  • Rhoi blaenoriaeth i greu tariff cymdeithasol ynni a darparu opsiynau ad-dalu fforddiadwy ar gyfer y rhai sydd â dyledion ynni, gan symud ymlaen â galwadau gan National Energy Action (NEA) Cymru ac a gymeradwywyd gan lawer o elusennau a sefydliadau defnyddwyr eraill.

  • Sicrhau nad yw gorfodi gosod mesuryddion blaendalu yn ailddechrau ar gyfer aelwydydd sy’n fregus yn ariannol.
  • Ymrwymo i adolygu a chynyddu’r Credyd Cynhwysol i sicrhau bod isafswm lefel y cymorth yn gwarantu y gall pobl dalu am hanfodion, gan weithredu galwadau gan Sefydliad Joseph Rowntree ac Ymddiriedolaeth Trussell am Warant Hanfodion.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • Warchod cronfeydd argyfwng presennol a sicrhau fod llwybrau cymorth yn hygyrch ac wedi’u targedu at y rhai sydd fwyaf ei angen.
  • Parhau i ariannu cynlluniau hanfodol sy’n targedu tlodi tanwydd a bwyd. ac sy’n cefnogi cyfraddau uwch o ddefnydd budd-daliadau gan y rhai sydd â hawl iddynt

Mae adroddiad llawn Methu dod â deupen llinyn ynghyd Cartrefi Cymunedol ar gael yma.

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau cysylltwch â Gemma Gwilym ar gemma-gwilym@chcymru.org.uk neu Ruth Dawson ar ruth-dawson@chcymru.org.uk