Jump to content

19 Hydref 2023

Cynhadledd Flynyddol 2023: Cyflwyno ein prif siaradwr Linda Moir 

Rydym yn falch iawn mai Linda Moir yw’r prif siaradwr cyntaf i ni gyhoeddi ei henw ar gyfer ein Cynhadledd Flynyddol.

Mae Linda yn arbenigo mewn adnoddau dynol a gwasanaeth cwsmeriaid a hi oedd yn arwain y tîm gwasanaethau cynulleidfa blaen tŷ yng Nghemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012, gan oruchwylio 15,000 o wirfoddolwyr a ddarparodd wasanaethau i naw miliwn o bobl.

Bu Linda hefyd yn gweithio’n flaenorol gyda Virgin Atlantic fel cyfarwyddwr gwasanaethau wrth-hedfan, lle’r oedd yn gyfrifol am wasanaeth gwobrwyol y cwmni a’r cynllun ‘gwneud hedfan yn hwyl’.

Yma mae Linda yn siarad gyda thîm digwyddiadau CHC cyn ei sesiwn yn y gynhadledd ...

Dywedwch ychydig wrthym amdanoch eich hun a’ch gyrfa hyd yma

Rwy’n angerddol am greu amgylchedd tu mewn i sefydliadau sy’n gyrru gwasanaethau gwych i gwsmeriaid. Rwyf wedi gweithio gydag amrywiaeth o gyrff sydd wedi sicrhau enw da am wasanaeth rhagorol – yn aml mewn amgylchiadau heriol. Rwy’n credu y caiff yr hinsawdd sy’n bodoli tu mewn i sefydliadau ei adlewyrchu’n llwyr yn arddull y gwasanaeth a dderbynnir gan gwsmeriaid.


Pa gyngor fyddech chi’n ei gynnig i’r sector tai am brofiad cwsmeriaid?

Ni allaf hawlio fy mod yn arbenigo yn y sector tai ond mae gen i brofiad o weithio mewn sefydliadau sy’n wynebu cwsmeriaid, sy’n cael eu rheoleiddio’n fanwl gyda chyllideb gyfyngedig. Drwy feithrin diwylliant o gydweithio ac ymgysylltu, dysgais y gall timau gynnig gwasanaeth sy’n aml yn ‘gost isel ond gwerth uchel’ i’r cwsmer.

Beth yw’r un atgof gyrfa sy’n gwneud i chi wenu bob amser?

Mae gennyf lawer o atgofion o fy ngyrfa sy’n dod â gwen i fy wyneb! Mae’n debyg mai un o’r ffefrynnau yw pan feddyliaf pa mor wych y cyflawnodd gwirfoddolwyr yn y gemau Olymapidd a Pharalympaidd. Roeddem yn eu galw yn ‘gamesmakers’ oherwydd dyna’n union beth oedden nhw.

Roedd rhai wedi mynegi pryderon cyn y gemau na fyddai’r gwirfoddolwyr yn troi lan neu na fedrent ymdopi gyda’r tasgau a roddwyd iddyn nhw, ond fel y dengys hanes fe wnaethant gyflawni hynny a mwy ganwaith trosodd.

Ydych chi’n edrych ymlaen i siarad yn y gynhadledd a pham?

Mae cymaint i gael ei ennill drwy edrych tu allan i’r sector yr ydych yn gweithredu ynddo. Dywedodd rheolwr doeth wrthyf unwaith ‘dysgwch gan y rhai yr ydych yn cymharu eich hunan â nhw ac nid y rhai sy’n cystadlu yn eich erbyn’.

Mae mwy o wybodaeth am agenda’r Gynhadledd Flynyddol a sut i archebu eich tocynnau ar gael yma.

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau cysylltwch â comms@chcymru.co.uk