Jump to content

Cynadleddau 24/25

Mae ein cynadleddau yn denu cannoedd o staff o blith cymdeithasau tai Cymru a thu hwnt. Cânt eu datblygu mewn cysylltiad â’r sector i sicrhau eu bod yn berthnasol ac amserol.

Rydym yn falch i ddweud y bydd ein holl gynadleddau yn 2024/25 yn rhai wyneb yn wyneb ac edrychwn ymlaen at eich croesawu i’n digwyddiad nesaf.

Y cynadleddau sydd ar y rhaglen ar gyfer y flwyddyn i ddod yw:

Caiff ein digwyddiadau eu datblygu i rannu arfer gorau, syniadau newydd, datrysiadau a chyfleoedd rhwydweithio.

Hoffech chi arddangos neu noddi digwyddiad? Mae’r holl opsiynau ar gael yma . Cysylltwch â Terryanne O'Connell, ein Cynhrychydd Digwyddiadau, gydag unrhyw ymholiadau.

Cynhadledd Cyllid 2024
Cynadleddau 1,5 diwrnod Metropole Hotel & Spa, Llandrindod Wells
Hydref 3, 2024 @ 12:30yh

Cynhadledd Cyllid 2024

Mae cwestiynau allweddol yn parhau. Sut fyddwn ni’n ariannu datgarboneiddio ein cartrefi presennol? Sut mae mynd i’r afael â’r gwaith parhaus sydd ei angen i sicrhau diogelwch adeiladau? A beth yw goblygiadau’r heriau hyn ar gyfer swyddogion cyllid y dyfodol?

Mae’r gynhadledd hon yn cynnig cyfle i gyfarwyddwyr, rheolwyr a swyddogion i ymchwilio’r themâu hyn a mwy, yn cynnwys sut y gallwch chi a’ch busnes feithrin cydnerthedd. Bydd cydweithwyr o bob rhan o’r sector, llywodraeth a’r diwydiant cyllid yn canfod digon o gyfleoedd i ddysgu, rhannu profiadau a chlywed gan raglen o arbenigwyr amlwg ar amrywiaeth o bynciau.