Hyfforddiant: Cyflwyniad i Gymdeithasau Tai
Ydych chi wedi ymuno â staff neu fwrdd cymdeithas tai yng Nghymru yn ddiweddar? Ydych chi’n newydd i sefydliad sy’n gweithio’n agos gyda chymdeithasau tai Cymru neu sy’n awyddus i ddatblygu perthynas barhaus gyda nhw? Os felly mae’r cwrs hwn ar eich cyfer chi.
Dyddiadau 24/25
Ar gyfer pwy mae hyn?
Mae’r hyfforddiant hwn yn berffaith ar gyfer rhai sydd heb fawr o wybodaeth ymlaen llaw o gymdeithasau tai a’u rôl yng Nghymru, gan ei fod yn rhoi golwg gyffredinol ar sut y gweithiant ac yn helpu i esbonio peth o’r jargon.
Mae’r cwrs yn agored i staff cymdeithasau tai ar bob lefel, aelodau bwrdd ac aelodau pwyllgor, yn ogystal â staff o sefydliadau sy’n gweithio gyda’r sector tai cymdeithasol yng Nghymru.
Trosolwg o’r cwrs
Nod y cwrs hwn yw roi dealltwriaeth eang a chrwn i’r sawl sy’n cymryd rhan o rôl cymdeithasau tai mewn darparu tai cymdeithasol yng Nghymru.
Erbyn diwedd y cwrs bydd y sawl sy’n cymryd rhan wedi:
Edrych ar bwysigrwydd cynnwys tenantiaid yn narpariaeth tai cymdeithasol
Adnabod y materion ariannol a chyfreithiol allweddol sy’n wynebu cymdeithasau tai
Trafod hanes a llywodraethiant cymdeithasau tai
Strwythur y cwrs
Rhannwyd yr hyfforddiant yn bump adran:
Hanes, diben ac ethos
O ble daw’r arian ac i ble mae’n mynd
Cymuned, landlordiaid a thenantiaid
Adeiladu a chynnal a chadw chartrefi
Risgiau a rheoliadau
Caiff y strwythur a hefyd y cynnwys eu hadolygu’n gyfnodol i sicrhau eu bod yn ymgorffori y datblygiadau diweddaraf mewn tai cymdeithasol a’r amgylchedd gweithredu ehangach.
Cyflwynir y cwrs dros ddau hanner diwrnod.
Frequency & delivery method
Mae hwn yn gwrs ar-lein a gyflwynir unwaith y chwarter drwy Zoom. Caiff manylion ymuno Zoom ar gyfer y deuddydd eu cynnwys yng nghadarnhad yr archeb.
Lleoedd a Phrisiau
Mae 20 lle ar gael ym mhob rhifyn o’r cwrs.
Mae gan gymdeithasau tai Cymru hawl i bris aelodau o £150 fesul cynrychiolydd a’r ffi ar gyfer cynrychiolwyr allanol yw £200.
Am yr hyfforddwr
Mae Deborah yn ymgynghorydd newid a datrysydd problemau effeithlon gyda 35 mlynedd o brofiad mewn tai cymdeithasol a’r sector cyhoeddus; dylanwadu ar lefel arweinydd i gefnogi sefydliadau ac unigolion i weithredu newid parhaus – o egluro gweledigaeth a diffinio strategaethau drwy roi cynlluniau ar waith.
Bu ganddi swyddi uwch mewn nifer o gymdeithasau tai, yn cynnwys rolau gweithredol ac anweithredol.
Mae Deborah wedi gweithio gyda Cartrefi Cymunedol Cymru fel hyfforddydd ac ymgynghorydd cysylltiedig am dros 15 mlynedd.