Jump to content

Am CHC

Cartrefi Cymunedol Cymru yw llais cymdeithasau tai yng Nghymru.

Rydym yn cynrychioli 34 cymdeithas tai dim-er-elw sy’n darparu bron 165,000 o gartrefi i 10% o boblogaeth Cymru.

Y weledigaeth a rannwn yw gwneud Cymru yn wlad lle mae tŷ da yn hawl sylfaenol i bawb.

Aelodau Cartrefi Cymunedol Cymru yn rhwydweithio mewn digwyddiad

Yr hyn a wnawn

Mae ein haelodau yn gweithio ledled Cymru, yn darparu cartrefi a gwasanaethau i ystod eang o bobl. Fel eu corff masnach, rydym yn ymladd dros y pethau maent eu hangen i gefnogi eu cymunedau a sicrhau y gallwn gyda’n gilydd gyflawni ein gweledigaeth.

Fel llais dylanwadol, gweithiwn i sicrhau cyllid sefydlog a digonol, wrth ochr fframwaith polisi sy’n cefnogi buddsoddiad mewn cartrefi newydd a phresennol a gwasanaethau cymorth. Mae mwy o wybodaeth am ein meysydd ffocws polisi cyfredol yma, a mae ein hymgyrchoedd cyfredol ac ymgyrchoedd y gorffennol ar gael yma.

Rydym hefyd yn gweithredu fel canolbwynt i ddod ag aelodau ynghyd i ganfod datrysiadau ar y cyd i’r heriau a wynebwn.

Cyhoeddwn ddiweddariadau ar ein gwaith a’n heffaith mewn adroddiadau chwe misol, sydd ar gael i’w darllen yma.

Llun aelodau CHC
Lluniau diolch i: chwith uchaf – United Welsh; chwith gwaelod – Newydd; de – United Welsh

Pam y gwnawn hyn

Mae cartref yn ganolog i fywyd pob un ohonom a dyna pam y credwn ni a’n haelodau y dylai helpu pobl i fyw bywyd iach, llewyrchus a chysylltiedig fod wrth graidd cynlluniau cenedlaethol Cymru.

Gwyddom fod cartref diogel, fforddiadwy ac addas yn dal i fod allan o gyrraedd gormod o bobl yng Nghymru.

Mae cymdeithasau tai yn darparu math hanfodol o wasanaeth i bobl Cymru. Ond maent yn fwy na dim ond landlordiaid cymdeithasol cofrestredig sy’n darparu tai; aiff eu diben tu hwnt i frics a morter.

Mae cymdeithasau tai yn gweithio i sicrhau fod y bobl sy’n byw yn ein cartref wedi paratoi ar gyfer tenantiaethau llwyddiannus o’r diwrnod cyntaf un, a chefnogwn nhw drwy rai o’r gwahanol heriau bywyd y gall pawb eu hwynebu. Mae rhai yn darparu gwasanaethau gofal a chymorth tebyg i gartrefi gofal a llety hygyrch yn cynnwys tai gwarchod.

Cânt hefyd eu staffio gan dimau o weithwyr angerddol ym mhob maes o’u busnes.

Cynrychiolwn farn cymdeithasau tai ar lefel genedlaethol, i sicrhau y gallant barhau i wneud eu gwaith hanfodol, a chael cefnogaeth partneriaid, rhanddeiliaid a gwneuthurwyr polisi.

Drwy gydweithio gallwn wneud yn siŵr fod gan bobl Cymru y cartrefi maent eu hangen; y caiff arian ei fuddsoddi yn economi Cymru, ac y caiff swyddi a chyfleoedd hyfforddiant ein creu; a bod ein sector yn chwarae ei ran wrth gyrraedd nodau sero net y wlad.

Darluniad clawr Cynllun Corfforaethol CHC

Ein cynllun corfforaethol: 2023–24 i 2026–27

Mae ein cynllun corfforaethol am y pedair blynedd hyd at 2026-27 yn nodi’r camau gweithredu y byddwn yn canolbwyntio arnynt i gefnogi ein haelodau i wneud y gwahaniaeth mwyaf yn eu cymunedau.

Mae gennym set glir o nodau i’w cyflawni, a rydym yn hyderus y byddant yn cefnogi’r sector i gymryd camau breision ymlaen unwaith eto.

Gallwch weld mwy am y nodau hyn a darllen ein cynllun llawn yma.

Diwrnod cwrdd i ffwrdd staff Cartrefi Cymunedol Cymru yn cynllunio

Ein gwerthoedd gwaith

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn sefydliad sy’n gweithio o bell, gyda staff ar draws gogledd a de Cymru, ac yn Lloegr. Mae gan staff y rhyddid i gyflawni eu swydd pryd a lle y gweithiant orau.

Mae ein diwylliant a gwerthoedd yn bwysig i ni a rydym yn falch i gael tîm staff sy’n ymroddedig i’n cenhadaeth a hefyd yn angerddol am y gwaith sydd ei angen i symud ymlaen. Rydym yn annog arloesedd a bob amser yn ymchwilio sut y gallwn wneud pethau yn well.

Mae ein gwerthoedd yn adlewyrchu sut y gweithiwn gyda’n gilydd, yn ogystal â’n haelodau a rhanddeiliaid.

Rhif cofrestru elusen: 1128527