Jump to content

Ymunwch â'n Bwrdd

Hoffech chi fod yn rhan o fwrdd sy’n defnyddio nerth ei brofiad a gweledigaeth torfol i wneud Cymru yn wlad lle mae tai da yn hawl sylfaenol i bawb.

Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) yw llais cymdeithasau tai yng Nghymru ac fel y corff aelodaeth sy’n cynrychioli cymdeithasau tai, rydym yn dylanwadu ar newid polisi cadarnhaol sy’n annog cyllido cynaliadwy a sefydlog, arferion llywodraethiant da a gwelliannau sector. Gweithredwn fel hyb i ddod ag aelodau ynghyd i ddysgu, tyfu, herio a mynd i’r afael ar y cyd â’r cyfleoedd a’r heriau yn ein sector.

Rydym yn gweithredu’n gydnaws ag arferion llywodraethiant da y sector, ac felly rydym yn parhau ein recriwtio cyfredol ar gyfer nifer o swyddi Bwrdd i olynu cydweithwyr sydd wedi gwasanaethu eu cyfnod llawn.

I sicrhau ein bod yn parhau i weithredu fel bwrdd cytbwys ac yn dod ag amrywiaeth syniadau, rydym yn ceisio nid yn unig i ddenu unigolion proffesiynol uwch neu lefel bwrdd, ond hefyd aelodau bwrdd tro cyntaf o unrhyw LCC yng Nghymru sy’n cynnig trosolwg da o sut olwg sydd ar lywodraethiant da a sut mae bwrdd proffesiynol yn gweithredu.

Os ydych yn gyffrous am rôl CHC wrth lunio dyfodol tai yng Nghymru, yna cysylltwch â Kelly Shaw ar 07900 363803 neu e-bost kelly.shaw@campbelltickell.com.

Dyddiad Cau ceisiadau yw dydd Llun 19 Chwefror 2024 am 9am.