Jump to content

08 Rhagfyr 2023

67% o gymdeithasau tai Cymru yn sôn am gynnydd mewn atgyfeiriadau i fanciau bwyd

67% o gymdeithasau tai Cymru yn sôn am gynnydd mewn atgyfeiriadau i fanciau bwyd

Gwelodd 67 y cant o gymdeithasau tai Cymru gynnydd yn nifer y bobl y gwnaethant eu hatgyfeirio at fanciau bwyd yn chwe mis cyntaf y flwyddyn.

Datgelodd Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC), sy’n cynrychioli 34 o gymdeithasau tai nid-er-elw ar draws Cymru, y ffigurau llwm yn ei adroddiad ymchwil ar gostau byw Methu Dod â Deupen Llinyn Ynghyd a lansiwyd yn ddiweddar.

Fe wnaeth CHC arolygu cymdeithasau tai Cymru ar effaith yr argyfwng parhaus mewn costau byw ar denantiaid a gwasanaethau hanfodol, a chanfu y cafodd mwy na 1,800 o bobl oedd yn byw mewn cartrefi cymdeithasau tai eu hatgyfeirio gan eu landlord i fanciau bwyd argyfwng rhwng Ionawr a Mehefin 2023.

Mae bwyd ymysg y prif resymau pam y cysylltodd pobl gyda’u landlord i ofyn am gymorth ariannol yn chwe mis cyntaf 2023, gan gyfrif am 38% o geisiadau am gymorth. Roedd cynnydd mawr mewn prisiau ynni (50% ‘r rhai a gysylltodd â’u landlord) a dyledion eraill (59% o’r rhai a gysylltodd â’u landlord).

Rhyngddynt, fe gefnogodd cymdeithasau tai fwy na 14,000 o bobl oedd yn cael trafferthion gyda’r cynnydd mewn costau byw yn chwe mis cyntaf 2023.

Mae timau arbenigol cymdeithasau tai yn parhau i gynnig cymorth i denantiaid mewn angen mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd, yn cynnwys darparu talebau bwyd a pharseli bwyd brys, cynnal cyrsiau coginio ar gyfer rhai sydd ar gyllideb a gweithio gyda phartneriaethau bwyd lleol i ddosbarthu cyflenwadau.

Maent hefyd yn cefnogi tenantiaid drwy eu cronfeydd caledi neilltuol, gyda dros £1.3 miliwn mewn cyllid argyfwng ar gael ar gyfer y rhai mewn angen i gael mynediad iddynt yn y flwyddyn arian gyfredol.

Bwyd hefyd yw’r prif reswm pam fod tenantiaid angen cymorth cyllid caledi, fodd bynnag, gyda 63% o gymdeithasau tai yn cael mynediad i’r cronfeydd hyn i gefnogi pobl sy’n cael trafferthion gyda’r cynnydd mewn costau bwyd.

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn awr yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i weithredu ar frys i gefnogi tenantiaid tai cymdeithasol sydd ymysg y rhai gafodd eu taro waethaf gan yr argyfwng parhaus mewn costau byw.

Dywedodd Hayley Macnamara, arweinydd costau byw Cartrefi Cymunedol Cymru: “Mae’r cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau brys i fanciau bwyd yn dorcalonnus.

“Mae’n rhaid i fwyd fod yn fforddiadwy, ac mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn parhau i gyllido cynlluniau hollbwysig sy’n targedu tlodi bwyd a chefnogi cyfraddau uwch o pobl i hawlio’r budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt.

“Mae hefyd yn hanfodol ar yr amser heriol tu hwnt yma y caiff cronfeydd argyfwng presennol eu diogelu a bod llwybrau i gymorth yn hygyrch ac wedi eu targedu at y rhai sydd fwyaf eu hangen.

“Rydym yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru i weithredu nawr i sicrhau y caiff pobl sy’n byw mewn cartrefi cymdeithasau tai eu cefnogi i ddod â deupen llinyn ynghyd.

“Rydym yn annog unrhyw un sy’n byw mewn cartref cymdeithas tai i gysylltu gyda’u landlord os ydynt yn bryderus am eu sefyllfa ariannol.”

Gallwch ddarllen adroddiad Methu Dod â Deupen Llinyn Ynghyd gan Cartrefi Cymunedol Cymru yma.

Ar gyfer ymholiadau’r cyfryngau cysylltwch comms@chcymru.org.uk