Cynhadledd Flynyddol 2023
Yn ôl ar gyfer 2023!

Caiff Cynhadledd Flynyddol bwysig Cartrefi Cymunedol Cymru ei chynnal yn Techniquest ym mis Tachwedd!
Bydd y weledigaeth a rannwn o Gymru lle mae tai da yn hawl sylfaenol i bawb wrth galon Cynhadledd Flynyddol 2023.
Yn ystod y gynhadledd, byddwn yn creu gofodau i ystyried a defnyddio’r penderfyniad a’r arloesi hollbwysig i ddarparu’r cartrefi a’r cymorth y mae gan denantiaid a chymunedau eu hangen fel mater o frys.

Am beth mae’r cyfan?
Mae cymdeithasau tai yng Nghymru dan fwy o bwysau nag erioed, eto maent yn parhau’n ganolog i fywyd yng Nghymru, gan ddarparu cartrefi hanfodol i 10% o’r boblogaeth, adeiladu cymunedau sy’n ffynnu a chefnogi pobl i fyw’n dda.
Ymunwch â ni ar 28 a 29 Tachwedd 2023 lle byddwn, ynghyd â dadansoddiad cyfredol gan leisiau arbenigol ac amrywiol, yn creu gofod i ymchwilio, trafod ac arloesi, cryfhau partneriaethau a chreu’r datrysiadau gorau ar gyfer dyfodol ein cymunedau.
I gael mwy o wybodaeth ac i ganfod pa siaradwyr fydd yn ymddangos, cliciwch yma.
Pwy ddylai fynychu?
Mae cynulleidfa amrywiol o arweinwyr tai, yn cynnwys prif weithredwyr, cadeiryddion ac aelodau bwrdd cymdeithasau tai yn mynychu ein Cynhadledd Flynyddol – ynghyd â phartneriaid y sector a sefydliadau cysylltiedig.


