Jump to content

Telerau ac Amodau

Mae prynu tocyn neu gofrestru ar gyfer unrhyw un o gynadleddau, cyrsiau hyfforddiant, gweminarau neu ddigwyddiad arall gan Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) yn golygu eich bod wedi derbyn ein telerau ac amodau isod.

Gallwn ddiweddaru neu ddiwygio’r Telerau hyn o bryd i’w gilydd i adlewyrchu newidiadau yn ein rheolaeth digwyddiadau, ein gwasanaethau, anghenion ein defnyddwyr a blaenoriaethau ein busnes. Byddwn yn ceisio rhoi rhybudd rhesymol i chi am unrhyw newidiadau mawr.

Mae’n ofynnol i bob cynrychiolydd ac eraill cysylltiedig (y cyfeirir atynt o hyn ymlaen fel ‘y Cyfranogydd’) sy’n mynychu digwyddiadau Cartrefi Cymunedol Cymru (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel ‘y Trefnydd’) gydymffurfio gyda’r Telerau ac Amodau dilynol.

Mae pob parti yn gwarantu i’r llall fod ganddo yr hawl, teitl ac awdurdod llawn i ymrwymo i a chyflawni ei oblygiadau dan y Telerau ac Amodau hyn.

Os na nodir fel arall, mae pob Ffi yn cynnwys TAW. Ni chaiff unrhyw Ffi ei ad-dalu (heblaw fel y nodir fel arall yma).

Mae taliad i’r Trefnydd yn unol â’r telerau dilynol:

Cynadleddau

    • Rhaid gwneud pob taliad adeg archebu neu ar ôl derbyn anfoneb cyn y gynhadledd a fynychir.

    • Cedwir 50% o gost tocyn os canslir rhwng 22 – 30 diwrnod cyn y cynhelir y digwyddiad.

    • Cedwir 100% o gost tocyn os canslir lai na 21 diwrnod cyn y cynhelir y digwyddiad.

    • Cynrychiolwyr sydd wedi cofrestru nad ydynt yn mynychu’r cwrs: Ffi llawn yn daladwy.

Cyrsiau Hyfforddiant

    • Rhaid gwneud pob taliad adeg archebu neu pan dderbynnir anfoneb cyn y cwrs hyfforddi.

    • Cedwir 50% o gost tocyn os canslir rhwng 14-30 diwrnod cyn y cynhelir y digwyddiad.

    • Cedwir 100% o gost tocyn os canslir lai na 14 diwrnod cyn cynnal y digwyddiad.

    • Cynrychiolwyr sydd wedi cofrestru nad ydynt yn mynychu’r cwrs: Ffi llawn yn daladwy.

Conditions

  1. Mae prynu tocyn ar gyfer unrhyw un o’r uchod yn caniatáu i’r cyfranogydd a enwir yn unig i fynychu’r digwyddiad y mae’r tocyn ar ei gyfer. Byddwn yn derbyn trosglwyddo tocynnau i gyfranogydd arall hyd at ddiwrnod y digwyddiad. Codir £30 fesul newid tocyn i newidiadau i enwau deiliad/deiliaid tocyn o fewn 7 diwrnod o’r digwyddiad.

  2. Os yw cyfranogydd gwahanol i’r un a enwir ar y ffurflen archebu yn mynychu’r digwyddiad, heb ganiatâd ymlaen llaw gan CHC, rydym yn cadw’r hawl i (a) drin y cyfranogydd yma fel cyfranogydd ychwanegol a chodi anfoneb yn unol â hynny neu (b) ofyn i’r cyfranogydd adael y digwyddiad.

  3. Rhaid i unrhyw ganslad gan y Cyfranogydd gael ei dderbyn gan y Trefnydd drwy e-bost.

  4. Mae’r Trefnydd yn cadw’r hawl i wrthod mynediad i unrhyw Gyfranogydd i ddigwyddiad ac i ddileu unrhyw ddeunyddiau cysylltiedig os na dderbynnir y ffioedd yn llawn.

  5. Nid yw’r Trefnydd dan unrhyw reidrwydd i ad-dalu y cyfan neu unrhyw ran o’r Ffioedd a dderbyniwyd neu ffioedd sy’n ddyledus oherwydd Force Majeure. Ar ddisgresiwn llwyr y Trefnydd, os yw safle yn anaddas neu heb fod ar gael i’w ddefnyddio, neu ei bod yn dod yn amhosibl neu’n anymarferol cynnal digwyddiad am resymau tu hwnt i reolaeth y Trefnydd (yn cynnwys heb gyfyngiad, rhyfel, streiciau, llifogydd, clefydau trosglwyddadwy, cyfyngiadau llywodraeth, methiannau pŵer, telathrebu neu ryngrwyd neu ddifrod maleisus neu unrhyw achos arall); mae’r Trefnydd yn cadw’r hawl (ond ni fydd yn rheidrwydd arno) i:

  • newid y lleoliad a/neu ddyddiad

  • cwtogi’r digwyddiad

  • amrywio amserlen y rhaglen, neu

  • ganslo’r digwyddiad

6. Mae’r Trefnydd yn cadw’r hawl i dynnu, diwygio neu newid unrhyw siaradwyr y rhoddwyd cyhoeddusrwydd iddynt ymlaen llaw neu ar ddiwrnod y digwyddiad mewn ymateb i amgylchiadau tu hwnt i’w rheolaeth.

7. Os caiff y digwyddiad ei ganslo, mae’r partïon yn cytuno ac yn cydnabod na fydd gan y Trefnydd unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu’r Ffioedd; treuliau ychwanegol neu wneud taliad am unrhyw golled neu niwed arall a ddioddefodd y Cyfranogydd

8. Mae’r partïon yn cytuno ac yn cydnabod na fydd gan y Cyfranogydd unrhyw hawliad ychwanegol o gwbl yn erbyn y Trefnydd yng nghyswllt newidiadau i ddigwyddiad

9. Bydd y Trefnydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyfranogydd ddileu ar unwaith unrhyw negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol yn gysylltiedig â digwyddiad y Trefnydd y tybir ei fod yn sarhaus, difrïol neu o natur rywiol neu wahaniaethol. Gall y Trefnydd wneud cais am iawndal yn yr achos hwn.

11. Cynnwys

  • Mae’r holl hawliau ym mhob cyflwyniad, dogfen a deunyddiau a gyhoeddwyd neu a wnaed ar gael fel arall fel rhan o’r digwyddiad (yn cynnwys ond heb ei gyfyngu i unrhyw becynnau dogfennau neu recordiad sain neu glywedol o’r digwyddiad) (“Cynnwys”) yn eiddo i ni neu cânt eu cynnwys gyda chaniatâd perchennog yr hawliau hynny.

  • Ni chaniateir unrhyw ailgyhoeddi, darlledu na lledaenu’r Cynnwys mewn modd arall.

  • Ni chewch ddosbarthu, atgynhyrchu, addasu, storio, trosglwyddo neu mewn unrhyw ffordd arall ddefnyddio dim o’r Cynnwys (heblaw caniatáu’r defnydd hwnnw gan y cynrychiolydd perthnasol ar gyfer dibenion busnes mewnol) ac yn neilltuol (ond heb gyfyngiad) ni chewch (a byddwch yn sicrhau na fydd pob un o’ch cynrychiolwyr yn):

  • lanlwytho unrhyw Gynnwys ar system a gaiff ei rhannu;

  • cynnwys unrhyw Gynnwys mewn cronfa ddata;

  • cynnwys unrhyw Gynnwys mewn gwefan neu ar unrhyw fewnrwyd;

  • trosglwyddo, ailgylchredeg neu fel arall wneud ar gael unrhyw Gynnwys i unrhyw un arall; gwneud unrhyw ddefnydd masnachol o gwbl o’r Cynnwys; neu ddefnyddio’r Cynnwys mewn unrhyw ffordd a fedrai dorri hawliau trydydd parti neu a allai ddod ag anfri i ni neu unrhyw un o’n cymdeithion.

  • Nid yw’r Cynnwys o reidrwydd yn adlewyrchu barn neu safbwynt CHC.

  • Ni ddylid dibynnu ar awgrymiadau neu gyngor a gynhwysir yn y Cynnwys yn lle cyngor proffesiynol neu gyngor arall. Er ein bod yn cymryd gofal rhesymol i sicrhau fod y Cynnwys yr ydym yn ei greu yn gywir ac yn gyflawn, caiff peth ohono ei gyflenwi gan drydydd parti ac ni allwn wirio ei fod yn gywir nac yn gyflawn. Dylech wirio cywirdeb unrhyw wybodaeth (p’un ai a gafodd ei gyflenwi gennym ni neu gan drydydd parti) cyn dibynnu arno. Caiff y Cynnwys ei ddarparu ar sail “FEL Y MAE” heb unrhyw warant o unrhyw fath (datganedig neu oblygiedig). Rydym drwy hyn yn eithrio i’r graddau llawnaf a ganiateir gan y gyfraith bob rhwymedigaeth, costau, hawliadau, iawndal, colledion a/neu dreuliau yn deillio o unrhyw anghywirdeb neu wall yn y Cynnwys neu yn deillio o unrhyw ddeunydd sy’n torri, yn sarhaus neu fel arall yn anghyfreithlon yn y Cynnwys.

  • I’r graddau y caiff unrhyw Gynnwys ei wneud ar gael gennym ni ar-lein cadwn yr hawl i atal neu ddileu mynediad i Gynnwys o’r fath ar unrhyw adeg.

12. Rhestri cynrychiolwyr

  • Os ydych yn mynychu digwyddiad CHC fel cynrychiolydd gallwch gael bathodyn fydd yn dangos eich enw chi ac enw eich cwmni i gynorthwyo rhwydweithio gyda chynrychiolwyr eraill.

  • Mae’n ofynnol i CHC roi copi o’r rhestr cynrychiolwyr i’r safle am resymau diogelwch ac i gynorthwyo gydag arlwyo neu am resymau eraill a gytunwyd ymlaen llaw gan CHC

  • Os caiff y digwyddiad ei noddi, bydd rhestr o’r mynychwyr sydd wedi cofrestru ar gael i noddwyr wythnos ymlaen llaw i’w cynorthwyo gyda’u cynllunio. Os nad ydych eisiau i’ch enw ymddangos ar y rhestr cynrychiolwyr, gadewch i ni wybod 48 awr cyn i’r digwyddiad gael ei gynnal drwy anfon e-bost atom yn events@chcymru.org.uk os gwelwch yn dda.
  • Gall rhai digwyddiadau roi’r rhestr cynrychiolwyr (enw, teitl swydd a chwmni) i gynrychiolwyr eraill er mwyn galluogi rhwydweithio effeithiol. Os hoffech i unrhyw rai o’ch manylion gael eu heithrio o hyn, anfonwch e-bost at reolwr y digwyddiad os gwelwch yn dda. Mae manylion rheolwr y digwyddiad ar gael ar dudalen neilltuol y digwyddiad, ond os na fedrwch ddod o hyd iddynt anfonwch e-bost at events@chcymru.org.uk

13. Ffotograffiaeth a ffilmio

Ar gyfer dibenion hyrwyddo gall fod ffotograffydd a chynhyrchydd fideo yn nigwyddiadau CHC. Dylai cynrychiolwyr nad ydynt yn dymuno cael eu ffilmio neu eu recordio hysbysu CHC drwy anfon e-bost at events@chcymru.org.uk cyn y digwyddiad.

Mae CHC yn cadw’r hawl i ddefnyddio’r cyfryngau a gesglir mewn unrhyw ddigwyddiad mewn unrhyw daflenni, llyfrynnau, fideos, gwefannau neu gyfryngau eraill a deunydd cyhoeddusrwydd arall a gynhyrchir gan CHC. Bydd yr holl ddeunydd yn parhau yn eiddo CHC.

Drwy gytuno i’r telerau ac amodau hyn, cytunwch hefyd y gall CHC ddefnyddio ffotograffau o’r fath heb eich enw, os nad ydych wedi rhoi caniatâd penodol i’ch enw gael ei ddefnyddio, ar gyfer unrhyw ddiben cyfreithlon, er enghraifft, gyhoeddusrwydd, darluniad, hysbysebu a chynnwys gwefan. Os nad ydych yn dymuno i’ch llun gael ei ddefnyddio, hysbyswch ni os gwelwch yn dda drwy anfon e-bost at events@chcymru.org.uk

14. Diogelu data

Drwy gyflwyno eich manylion cofrestru rydych yn cytuno i CHC ddal a phrosesu eich data personol yn unol â deddfwriaeth gyfredol diogelu data.

Gellir defnyddio’r manylion cofrestru a roddwch i ni pan fyddwch yn archebu cyn, ar ôl ac yn ystod y digwyddiad. Byddwn yn defnyddio eich data personol i anfon gwybodaeth atoch i gynorthwyo eich cyfranogiad yn y digwyddiad, h.y. cyfarwyddiadau cofrestru, anfonebu a thalu a deunyddiau perthnasol i’r digwyddiad. Byddwn hefyd yn defnyddio eich enw i baratoi bathodynnau enw a rhestri cynrychiolwyr. Ar ôl y digwyddiad, gallwn anfon negeseuon e-bost dilynol atoch yn ymwneud â’r digwyddiad, gan ofyn am eich adborth a hefyd yn eich hysbysu am ddigwyddiadau tebyg y credwn fydd o ddiddordeb i chi.

I gael mwy o wybodaeth am ein polisi diogelu data cyfeiriwch at ein polisi Preifatrwydd.

15. Caiff y telerau ac amodau hyn eu llywodraethu gan a’u dehongli yn unol â Chyfraith Cymru ac mae’r partïon yn ddigamsynïol yn cytuno y bydd unrhyw anghydfod sy’n deillio o neu mewn cysylltiad â’r telerau ac amodau hyn yn amodol ar ac o fewn awdurdodaeth lkysoedd Lloegr a Chymru.

Os oes gennych ymholiad, neu’n dymuno mater yn gysylltiedig â thocynnau, mae croeso i chi gysylltu â Terryanne O’Connell, Cynhyrchydd Digwyddiad.