Jump to content

Yr hyn y gwnaethom ei gyflawni yn 2022–23

Community Housing Cymru logo

Gyda ac ar ran y cymdeithasau tai sy’n aelodau CHC, rydym wedi gweithio’n galed dros y 12 mis diwethaf i symud yn nes at Gymru lle mae cartref da yn hawl i bawb, yn unol â’n cynllun cyflenwi.

O ddatblygu ein ffyrdd ein hunain o weithio i hybu ein sector ymlaen, ar y hon byddwch yn gweld penawdau allweddol o’r gwaith y buom yn ei wneud, ynghyd â dolenni i’n hadroddiadau effaith chwe-misol manwl o 2022–23.

Yn arbennig, fe wnaethom sicrhau:

  • Setliad rent o 6.5%
  • Estyniad chwe mis i weithrediad Deddf Rhentu Cartrefi Cymru 2016
  • Cefnogaeth y Gweinidog ar gyfer tariff cymdeithasol
  • Ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adolygu pwysau ar landlordiaid tai cymdeithasol sy’n darparu gwasanaethau gofal
  • Cynnwys cymdeithasau tai fel busnesau hanfodol ar gyfer cymorth tu hwnt i fis Mawrth 2023; gweithio gyda ffederasiynau tai eraill y Deyrnas Unedig i ddylanwadu ar yr adolygiad dan arweiniad y trysorlys o’r Cynllun Cymorth Biliau Ynni
  • Diogeliad rhag toriadau i’r Grant Tai Cymdeithasol yng nghyllideb 2023–24 Cymru
  • Cynyddu cyllideb i awdurdodau lleol i ariannu gofal cymdeithasol fel y gellir talu’r cyflog byw gwirioneddol i staff, gan weithio gyda phartneriaid

Cynlluniau y byddwn yn eu parhau

Yn ychwanegol at y llwyddiannau a nodir uchod, buom yn gweithio ar nifer o brosiectau penagored fydd yn rhan o’n blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf hefyd.

Er enghraifft, byddwn yn parhau i gefnogi cynllun ailsefydlu Wcráin a galw am Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 sy’n ymarferol ac a ariennir yn llawn, a map ffordd realistig i’r sector.

Byddwn yn cefnogi ein haelodau i drin craffu cynyddol ar faterion posibl o gyflwr gwael, ac yn hyrwyddo gwaith hanfodol cymdeithasau tai i gefnogi tenantiaid drwy’r argyfwng costau byw.

Byddwn hefyd yn parhau ein hymgyrch dros fwy o gyllid ar gyfer gwasanaethau digartrefedd a chymorth tai, yn dilyn y cyhoeddiad y byddai’n cael ei gadw ar £166m yng nghyllideb 2023–24 Llywodraeth Cymru

Darllenwch yr adroddiadau effaith y mae dolenni iddynt isod er mwyn canfod mwy.

Grŵp o bobl yn gweithio ar brosiect gyda’i gilydd.

Ein ffyrdd o weithio

Mae’r flwyddyn ddiwethaf hefyd wedi ein gweld yn gwneud camau breision ymlaen yn sut y gweithiwn fel sefydliad.

Ddechrau mis Ebrill 2023 byddwn yn lansio ein cynllun corfforaethol newydd sy’n adeiladu ar sut yr ydym wedi datblygu a’r hyn yr ydym wedi ei ddysgu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn cynnwys sylwadau gan aelodau a rhanddeiliaid eraill.

Yn arbennig, gwelodd 2022 ni’n symud at weithio’n llwyr o bell a chreu ein tîm newydd Ymgysylltu Aelodau a Digwyddiadau. Adeg ysgrifennu hyn, rydym yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr ac aelodau i adolygu ein modelau darpariaeth gwasanaeth, gyda’r nod o sicrhau fod ein cynnig i aelodau yn parhau i fod yn effeithlon ac yn rhoi gwerth gwych.

Fe wnaethom ddychwelyd i ddigwyddiadau wyneb yn wyneb yn y flwyddyn ddiwethaf, gan ddechrau gyda’n Cynhadledd Flynyddol ym mis Tachwedd 2022. Fe wnaethom hefyd gynnig cyfieithu ar y pryd yn llwyddiannus yn un o’n digwyddiadau ar-lein a rydym yn ymchwilio cyfleoedd i ddatblygu hyn ymhellach lle mae’n briodol i wneud hynny.

Rydym hefyd wedi adolygu ein strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant i ddynodi’r cynnydd a wnaed a blaenoriaethau’r dyfodol i’w sefydlu ymhellach i bopeth a wnawn.

Lawrlwythwch yr adroddiadau effaith isod i ganfod mwy am sut y gwnaethom weithio a sicrhau newid yn 2022–23.