Jump to content

30 Ebrill 2020

O reolydd prosiect i weithio mewn cartref nyrsio

O reolydd prosiect i weithio mewn cartref nyrsio
Mae Covid-19 yn newid y byd o’n cwmpas yn gyflym, ac yn cael effaith ddybryd ar swyddi pobl, eu cymunedau a’u bywydau. Bu’n rhaid i gymdeithasau tai yng Nghymru a’u staff addasu er mwyn sicrhau fod y 250,000 o denantiaid a gefnogant yn parhau’n ddiogel ac yn saff yn eu cartrefi.


Mae Andrew Bale yn Rheolydd Prosiect yn y tîm Datblygu yn Linc. Ers i bandemig Covid-19 effeithio ar ei allu i wneud ei swydd arferol, mae wedi cael ei adleoli i helpu yng Nghartref Nyrsio Tŷ Penylan. Mae Andrew yn rhannu ei brofiad.


“Roeddwn ychydig yn nerfus pan ddechreuais helpu yng nghartrefi nyrsio Linc. Roedd hyn yn mynd i fod yn wahanol iawn i fy swydd ddydd fel Rheolydd Prosiect a doeddwn i ddim yn siŵr beth i’w ddisgwyl.


Ar fy niwrnod cyntaf yn helpu yn yr uned dementia yn Nhŷ Penylan yng Nghaerdydd, sylweddolais nad oedd gen i ddim i fod yn nerfus amdano. Mae wedi bod yn brofiad wirioneddol gwerth chweil. Rwy’n edrych ymlaen at dreulio fy amser yno ac mae hynny diolch i’r preswylwyr gwych sydd bob amser yn gwneud i mi wenu, a’r staff diwyd sydd mor angerddol, caredig ac ymroddedig.


Mae fy niwrnod yn dechrau pan rwy’n cynorthwyo gyda pharatoi brecwast a’i ddosbarthu i’r preswylwyr. Mae ychydig o breswylwyr sydd angen ychydig bach o help i fwyta eu brecwast, felly rwy’n eistedd gyda nhw ac yn rhoi help llaw. Bu hyn yn ffordd dda o adeiladu ymddiriedaeth a gadael iddynt wybod fy mod yno iddynt. Rydyn ni’n wirioneddol dod i adnabod ein gilydd wrth i ni eistedd gyda’n gilydd amser brecwast.


Wedyn rwy’n gwneud ychydig o lanhau, gwneud te a choffi ffres a chymdeithasu gyda’r preswylwyr. Rwyf wedi bod yn treulio amser gyda Beryl, sydd â’r acen Albanaidd fwyaf hyfryd, a Matt, sy’n mwynhau eistedd mas yn yr ardd a chael sgwrs am ei Dad oedd yn arddwr brwd. Mae Beryl a Matt yn wirioneddol mwynhau’r amser yma ac rwy’n ddiolchgar amdano hefyd.


Rwyf hefyd yn treulio amser gyda June, sy’n derbyn gofal seibiant yn Nhŷ Penylan, gan eistedd gyda hi yn yfed te a gwneud ychydig o liwio, rhywbeth mae’n ei fwynhau’n fawr. Mae amser fel hynny’n ei wneud mor werth chweil ac mae’n gymaint o bleser i fod yn gyfaill newydd June.


Bu’n wirioneddol emosiynol meddwl sut mae’n rhaid fod teuluoedd y cymeriadau hynod yma yn teimlo, yn methu ymweld â nhw fel yr arferent. Rwy’n ei theimlo’n fraint anhygoel i fedru eistedd gyda nhw, gwneud te iddynt, cael sgwrs a gobeithio roi gwên ar eu hwynebau.


Os oes un peth a gefais o’r profiad yma, bod fy nghydweithwyr sy’n gweithio yng nghartrefi nyrsio Linc yn hollol anhygoel yw hynny. Mae’r oriau a weithiant, eu hagwedd gadarnhaol a’r ffordd maent yn trin y preswylwyr fel be byddent yn deulu yn ysbrydoliaeth.


Rwyf mor ddiolchgar i bob un ohonynt. Diolch.”


Bydd cymdeithasau tai yng Nghymru yn rhoi sylw i’w gwaith i gefnogi tenantiaid yng Nghymru drwy ymgyrch newydd ‘Gyda Chi’. Dilynwch yr ymgyrch hon drwy dudalen Twitter CHC @CHCymru a chwilio am hashnod #gydachi