Cymryd rhan
Fel aelod o staff cymdeithas tai neu aelod o fwrdd yng Nghymru, caiff eich aelodaeth o Cartrefi Cymunedol Cymru (CCC) ei gynnwys fel rhan o aelodaeth cyffredinol eich sefydliad. Edrychwch isod i edrych pwy ydyn ni, sut ydyn ni’n gweithio gyda’r cymdeithasau tai sy’n aelodau i ni a sut y gallwch fanteisio i’r eithaf am y cyfleoedd ymgysylltu a dysgu a gynigiwn.
Beth yw eich rôl?
CCC ar gyfer aelod o'r staff cymdeithasau tai
Beth yw Cartrefi Cymunedol Cymru?
Cartrefi Cymunedol Cymru yw llais cymdeithasau tai yng Nghymru.
Rydym yn cynrychioli cymdeithasau tai nid er elw sy’n darparu cartrefi i tua 10% o boblogaeth Cymru.Y weledigaeth a rannwn yw gwneud Cymru yn wlad lle mae tai da yn hawl sylfaenol i bawb.
Mae ein haelodau yn gweithio ledled Cymru, gan ddarparu cartrefi a gwasanaethau i ystod eang o bobl. Fel eu corff masnach, rydym yn ymladd am y pethau maent eu hangen i gefnogi eu cymunedau, ac i sicrhau y gallwn gyda’n gilydd gyflawni ein gweledigaeth.
Mae ein cynllun corfforaethol newydd yn cyflwyno ein nodau allweddol hyd fis Mawrth 2027:
- sicrhau’r dulliau, cyllid a pholisi sy’n cefnogi cartrefi ansawdd da gan gymdeithasau tai;
- dylanwadu ar yr amgylchedd polisi fel y gall cymdeithasau tai barhau i ddarparu cartrefi fforddiadwy, a rhoi cefnogaeth effeithlon i denantiaid sy’n wynebu caledi;
- hyrwyddo ymddiriedaeth mewn cymdeithasau tai a’u cefnogi i adeiladu partneriaethau cryf yn lleol;
- sicrhau fod CHC yn gorff aelodaeth ystwyth a chynhwysol ac yn gyflogwr rhagorol.
Sut mae CHC yn gweithio gyda chydweithwyr mewn cymdeithasau tai?
Mae ein cynnig i aelodau yn cynnwys amrywiaeth o gyfleoedd ymgysylltu. Mae manylion sut y gallwch gymryd rhan yn ein gwaith fel sector yn yr adran cynnig i aelodau ar ein gwefan yma.
Er hwylustod, mae crynodeb o’r cyfleoedd hyn yn dilyn.
Cymunedau aelodau
Mae CHC wedi sefydlu nifer o gymunedau aelodau. Mae’r cymunedau hyn yn rhoi lle i weithwyr proffesiynol ar draws y sector i gwrdd a chânt eu gosod ar hyd themâu penodol. Maent yn cynnwys:
Prif weithredwyr (grŵp caeedig)
Cadeiryddion ac is-gadeiryddion bwrdd (grŵp caeedig)
Diogelwch adeiladau
Cyfathrebu a materion allanol
Cyllid
Cartrefi’r dyfodol (datblygu ac asedau)
Rheolaeth tai
Adnoddau dynol
Rheoleiddio a llywodraethiant
Daw’r grwpiau cymunedau aelodau ynghyd wyneb yn wyneb o leiaf ddwywaith y flwyddyn i ganolbwyntio ar faterion allweddol, edrych i’r dyfodol, rhannu arfer da a rhwydweithio gyda chydweithwyr o bob rhan o Gymru.
Mae gan bob cymuned aelodau grŵp WhatsApp cysylltiedig, i gynnal rhwydweithiau rhwng cyfarfodydd. Mae cyfarwyddiadau ar sut i ymuno ar gael yn yr adran ‘cymryd rhan’ isod.
Digwyddiadau ar gyfer cydweithwyr
Drwy gydol y flwyddyn, mae CHC yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau ar-lein fel rhan o’n cynnig rhithiol i aelodau, yn cynnwys:
Sesiynau sbotolau – cyfarfodydd rhithiol sy’n ein galluogi i rannu gwybodaeth ac annog trafodaeth ar-lein.
Sesiynau gwybodaeth Llywodraeth Cymru – sesiynau ar-lein, i gysylltu gydag adrannau allweddol perthnasol o Lywodraeth Cymru ar gyfer diweddaru a thrafod.
Rydym hefyd yn cynnal digwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb yn ystod y flwyddyn, yn gysylltiedig gyda gweithgaredd polisi penodol neu feysydd allweddol o waith sy’n bwysig i chi fel ein haelodau.
Ewch i’r adran ‘Beth sydd ymlaen’ ar ein gwefan i archebu lle yn un o’n digwyddiadau diweddaraf.
Grwpiau gorchwyl a gorffen
Rydym hefyd yn cynnal grwpiau gorchwyl a gorffen gyda chyfnod penodol, gan ddod â chydweithwyr ynghyd o bob rhan o’r sector i weithio ar weithgareddau allweddol sydd angen ymateb neu datrysiad ar y cyd. Mae’r grwpiau hyn yn ymuno am ddiben ac mae ganddynt gylch gorchwyl ac amserlenni wedi eu diffinio.
Mae gwybodaeth ar-lein am y meysydd gwaith hwn ar ein Hyb Tai, sydd yn rhan o’n gwefan lle gallwch gael gwybodaeth ac adnoddau i’ch cefnogi chi a’ch sefydliad. Cafodd yr hyb ei adeiladu i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ein gwaith polisi, ynghyd â newyddion a chanllawiau cysylltiedig â’r sector, yn uniongyrchol i’n haelodau.
Rhaglen cynadleddau
Cynhaliwn bedair cynhadledd bob blwyddyn i ddod â’r sector ynghyd. Cynhelir ein Cynhadledd Llywodraethiant ym mis Mawrth, Un Gynhadledd Fawr ym mis Gorffennaf, y Gynhadledd Cyllid ym mis Hydref a’n prif Gynhadledd Flynyddol ym mis Rhagfyr.
Mae ein rhaglen cynadleddau ar gael yma.
Partneriaid masnachol
Fel rhan o’n cefnogaeth i aelodau, anelwn eich cysylltu gydag arbenigwyr allweddol sydd â chysylltiadau gyda’r sector. Rydym wedi dewis partneriaid sy’n dangos ymroddiad i adeiladu perthynas gref a pharhaus gyda chymdeithasau tai ac sy’n rhannu ein gweledigaeth o Gymru lle mae tai da yn hawl sylfaenol i bawb.
Mae cysylltu gyda phartneriaid masnachol yn rhoi mynediad i ni i arbenigedd a all gefnogi’r sector, yn ogystal â ffrwd incwm ychwanegol i gefnogi ein gwaith.
Darganfyddwch fwy yma
Newyddion, papurau gwybodaeth a diweddariadau
Wrth i’n gwaith ddatblygu drwy gydol y flwyddyn, gweithiwn yn galed i roi gwybodaeth i chi, ein haelodau. Gwnawn hyn mewn amrywiaeth o ffyrdd:
negeseuon diweddaru wythnosol yn uniongyrchol i brif swyddogion gweithredol;
bwletin bythefnosol CHC – gweler isod sut i gofrestru a derbyn hyn;
negeseuon diweddaru penodol i restri postio cymunedau aelodau;
papurau gwybodaeth ar faterion allweddol sy’n dod i’r amlwg;
Rydym hefyd yn anfon adroddiad effaith ac ymgysylltu i brif swyddogion gweithredol ddwywaith y flwyddyn. Mae’r adroddiadau hyn hefyd yn rhoi trosolwg o’n gwaith a’r effaith a gawsom ar eich rhan.
Cymryd rhan
Fel rhywun a gyflogir gan gymdeithas tai yng Nghymru, caiff eich aelodaeth o CHC ei gynnwys fel aelodaeth gyffredinol eich sefydliad. I gofrestru a chael yr wybodaeth ddiweddaraf ar ein gwaith, digwyddiadau a chyfleoedd i gymryd rhan, creu cyfrif os gwelwch yn dda.
Os oes unrhyw un o’r cymunedau aelodau yn berthnasol i’ch swydd, ac os hoffech fod yn rhan o sgyrsiau sy’n mynd rhagddynt gyda chydweithwyr ar draws Cymru, mae gan bob cymuned grŵp WhatsApp. Os hoffech ymuno ag un o’r cymunedau WhatsApp, cysylltwch â ni gan roi eich enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn symudol, swydd a y grŵp yr hoffech ymuno ag ef.
Yn ôl i'r brig
CCC ar gyfer aelodau bwrdd cymdeithasau tai
Beth yw Cartrefi Cymunedol Cymru?
Cartrefi Cymunedol Cymru yw llais cymdeithasau tai yng Nghymru.
Rydym yn cynrychioli cymdeithasau tai nid er elw sy’n darparu cartrefi i tua 10% o boblogaeth Cymru.
Y weledigaeth a rannwn yw gwneud Cymru yn wlad lle mae tai da yn hawl sylfaenol i bawb.
Mae ein haelodau yn gweithio ledled Cymru, gan ddarparu cartrefi a gwasanaethau i ystod eang o bobl. Fel eu corff masnach, rydym yn ymladd am y pethau maent eu hangen i gefnogi eu cymunedau, ac i sicrhau y gallwn gyda’n gilydd gyflawni ein gweledigaeth.
Mae ein cynllun corfforaethol newydd yn cyflwyno ein nodau allweddol hyd fis Mawrth 2027:
- sicrhau’r dulliau, cyllid a pholisi sy’n cefnogi cartrefi ansawdd da gan gymdeithasau tai;
- dylanwadu ar yr amgylchedd polisi fel y gall cymdeithasau tai barhau i ddarparu cartrefi fforddiadwy, a rhoi cefnogaeth effeithlon i denantiaid sy’n wynebu caledi;
- hyrwyddo ymddiriedaeth mewn cymdeithasau tai a’u cefnogi i adeiladu partneriaethau cryf yn lleol;
- sicrhau fod CHC yn gorff aelodaeth ystwyth a chynhwysol ac yn gyflogwr rhagorol.
Sut mae CCC yn gweithio gydag aelodau bwrdd?
Cymunedau aelodau
Mae CCC wedi sefydlu nifer o gymunedau aelodau. Mae’r rhain yn rhoi lle i weithwyr proffesiynol ar draws y sector i gwrdd yn cynnwys prif weithredwyr, cyfarwyddwyr cyllid, cydweithwyr mewn adrannau adnoddau dynol a chyfathrebu a llawer mwy.
Un o’n cymunedau aelodau allweddol yw grŵp cadeiryddion ac is-gadeiryddion bwrdd. Daw’r grwp hwn ynghyd wyneb yn wyneb o leiaf ddwywaith y flwyddyn i ganolbwyntio ar faterion allweddol, edrych i’r dyfodol, rhannu arfer gorau a rhwydweithio gyda chydweithwyr o bob rhan o Gymru.
NEWID: Arwain tai Cymru drwy fyd sy’n newid
Mae’r byd o’n cwmpas yn newid yn gyflym. O gostau byw i gyfreithiau newydd, mae angen mwy na rheoli dai i arwain cymdeithas tai – mae angen craffter.Newid yw ein cynnig ar ei newydd wedd ar gyfer prif wneuthurwyr penderfyniadau y sector, sy’n rhoi gofod neilltuol i symud o siarad am yr heriau hyn i weithredu gyda’n gilydd.
I gael mwy o gwybodaeth, ewch i'r Hyb Tai os gwelwch yn dda.
Rhaglen cynadleddau
Cynhaliwn bedair cynhadledd bob blwyddyn i ddod â’r sector ynghyd. Cynhelir ein Cynhadledd Llywodraethiant ym mis Mawrth, Un Gynhadledd Fawr ym mis Gorffennaf, y Gynhadledd Cyllid ym mis Hydref a’n prif Gynhadledd Flynyddol ym mis Rhagfyr.
Mae croeso i aelodau bwrdd fynychu ein cynhadledd, gyda’r Gynhadledd Llywodraethiant yn neilltuol o berthnasol.
Darganfyddwch fwy yma
Housing hub
Gwefan CHC yw cartref ein Hyb Tai. Mae’r hyb yn rhoi mynediad i wybodaeth am feysydd allweddol o waith polisi yr ydym yn canolbwyntio arnynt ar hyn o bryd. Mae hefyd yn cynnwys deunydd cefnogi, i wneud newyddion a chanllawiau cysylltiedig y sector ar gael i’n haelodau.
Cymryd rhan
Fel aelod o fwrdd cymdeithas tai yng Nghymru, caiff eich aelodaeth o CHC ei gynnwys fel rhan o aelodaeth gyffredinol eich sefydliad.
I gofrestru a chael yr wybodaeth ddiweddaraf ar ein gwaith, digwyddiadau a chyfleoedd i gymryd rhan, creu cyfrif os gwelwch yn dda.
Cofiwch ddweud wrthym os ydych yn aelod o fwrdd fel y gallwn wneud yn siwr ein bod yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am elfennau ein gwaith sydd fwyaf perthnasol i chi.
Os hoffech fod yn rhan o grŵp WhatsApp aelodau bwrdd cysylltwch â ni, gan roi eich enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn symudol, swydd a pha gymdeithas tai yr ydych yn aelod o’i bwrdd.
Yn ôl i'r brig
Lawrlwytho
CCC ar gyfer aelodau bwrdd cymdeithasau tai
CCC ar gyfer rhanddeiliad neu sefydliad masnachol
Rydym yn gweithio ar hyn o bryd gyda nifer o randdeiliaid allweddol a parthneriaid masnachol. Cysylltwch gyda Louise Price-David, ein Pennaeth Aelodaeth a Phartneriaethau, i ganfod mwy am gyfleoedd ymgysylltu pellach gyda CCC a’r sector.
Yn ôl i'r brig