Jump to content

24 Hydref 2023

Datganiad CHC: Safon Ansawdd Tai Cymru 2023

Cyhoeddwyd y datganiad hwn ar 24 Hydref 2023.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno fersiwn newydd Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC), sy’n sicrhau fod pob cartref cymdeithasol yng Nghymru yn cyrraedd safon da tebyg.

Er bod rhan o’r fersiwn newydd o’r safon wedi aros yr un fath â’r SATC blaenorol, mae hefyd yn anelu i gyflymu datgarboneiddio tai cymdeithasol Cymru ac i gefnogi ymdrechion i gyrraedd sero net.

Wrth siarad am y cyhoeddiad dywedodd Stuart Ropke, Prif Swyddog Gweithredol Cartrefi Cymunedol Cymru:

“Rydym yn croesawu uchelgais Llywodraeth Cymru i wella ymhellach ansawdd tai cymdeithasol ar gyfer tenantiaid, yn arbennig ynghylch datgarboneiddio, sy’n adeiladu ar waith caled y sector i gydymffurfio’n llawn gyda fersiwn flaenorol Safon Ansawdd Tai Cymru.

“Mae cymdeithasau tai Cymru yn awr yn sefyll yn barod i gefnogi’r nodau newydd yma – ond rydym angen sicrwydd am gyllid hirdymor a chynllun ymarferol er mwyn eu cyflawni. Mae angen i’r cynllun hwnnw fanteisio ar dechnoleg, datblygu cadwyn cyflenwi seiliedig yng Nghymru a darparu hwb economaidd i’n cymunedau.

“Rydym hefyd yn croesawu ymroddiad Llywodraeth Cymru i weithio’n agos gyda’r sector tuag at weithredu. Mae’n hanfodol y gallwn ddynodi cyllid, datrysiadau polisi a dull adrodd sydd nid yn unig yn sicrhau fod y safon yn un ymarferol, ond hefyd yn caniatáu gwasanaethau hanfodol i denantiaid i barhau, ynghyd â datblygu’r cartrefi cymdeithasol newydd y mae ein gwlad eu dirfawr angen.

“Ni ddylid bychanu’r dasg enfawr ar gyfer cymdeithasau tai nid-er-elw. Maent yn barod i barhau i gefnogi tenantiaid a buddsoddi yn eu cartrefi, yn awr mae angen i Lywodraeth Cymru ddarparu’r dulliau a’r cyllid hanfodol sydd eu hangen i wneud hyn."

Ar gyfer ymholiadau gan y wasg a’r cyfryngau, anfonwch e-bost at Ruth Dawson, pennaeth cyfathreburuth-dawson@chcymru.org.uk.