Jump to content

Noddwyr ac Arddangosfeydd

Cartrefi da yw’r seilwaith atal yng Nghymru. Pan fyddwn yn cael tai yn iawn, caiff y manteision eu teimlo ym mhob man: biliau ynni is, iechyd gwell ac economi fwy gwydn.

Buom yn llais blaenllaw dros sector tai Cymru am fwy na 30 mlynedd.

Heddiw, rydym yn cynrychioli 31 sefydliad nid er elw sy’n darparu cartrefi diogel, cynnes a chysurus i 1 o bob 8 aelwyd yng Nghymru a rydym mewn sefyllfa unigryw i symud y deial o argyfwng tai i adferiad tai.

Dyma’ch cyfle chi i fod yn rhan o daith fydd yn llunio dyfodol Cymru.

A collage of three images depicting a mix of sponsors and delegates at a recent CHC conference

Cyfleoedd noddi yn 2026/27

Rydym yn cynnig amrywiaeth o becynnau nawdd a rhwydweithio pwrpasol ar gyfer ein cynadleddau nesaf:

Rwyf bob amser wedi canfod bod digwyddiadau CHC yn rai na allwch fforddio eu methu yn y dyddiadur. Rwy'n meddwl eu bod yn gyfleoedd gwych i ddysgu, ond hefyd ar gyfer ymgysylltu â'r sector, gyda phobl na fyddech o reidrwydd yn eu gweld ar sail ddyddiol.
Cerys Williams, Rheolwr Datblygu Busnes ar gyfer Cymru, E.ON Green Funding
Archwiliwch eich opsiynau yma

Gadewch i ni gydweithio

P’un ai ydych eisiau cynyddu eich amlygrwydd neu gymryd rhan mewn trafodaethau manwl gydag arbenigwyr y sector, gallwn gydweithio i ganfod y ffit perffaith ar gyfer eich sefydliad.

Cysylltwch â Lottie Wallond, ein Cynhyrchydd Digwyddiadau, i drafod cyfleoedd a phecynnau pwrpasol ar gyfer noddi.

Anelwn fod yn onest, tryloyw a bod â ffocws ar bobl ym mhopeth a wnawn. Os ydych eisiau ymwneud â sector tai Cymru mewn ffordd ddilys sy’n dod â buddion go iawn i chi a ninnau, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.