Jump to content

08 Ionawr 2024

Cyfres caffael Hugh James a digwyddiadau hanfodol CHC i archebu lle arnynt eleni

Cyfres caffael Hugh James a digwyddiadau hanfodol CHC i archebu lle arnynt eleni

Unwaith eto bydd cynadleddau blaenllaw a sesiynau arbenigol Cartrefi Cymunedol Cymru yn dod ag aelodau sector tai cymdeithasol Cymru ynghyd yn 2024.

Bydd ein hamserlen ddefnyddiol yn ymchwilio rhai o bynciau siarad mwyaf y sector. Byddwn yn trafod popeth o lesiant i gyllideb, llywodraethiant ac iechyd a diogelwch drwy gydol y flwyddyn.

Mae’r digwyddiadau wyneb-yn-wyneb ac ar-lein yn rhoi lle i aelodau cymdeithasau tai ddod ynghyd a rhannu syniadau, trafod datrysiadau a dysgu gan arbenigwyr i sicrhau fod y dulliau a’r wybodaeth ganddynt i gyfarch materion allweddol.

Mae’r rhaglen yn parhau i gael ei llunio gyda help a gwybodaeth ystod eang o randdeiliaid diwydiant, ynghyd â’n haelodau partner masnachol.

Digwyddiad allweddol yn yr wythnosau nesaf yw cyfres o sesiynau hyfforddiant ar gaffael. a gyflwynir gan ein partner masnachol Hugh James Solicitors, fydd yn helpu’r sector i baratoi ar gyfer diwygio caffael a gweithredu deddf Caffael y Deyrnas Unedig.

Byddwn hefyd yn cefnogi aelodau bwrdd drwy gyfres newydd o sesiynau gwybodaeth ar-lein, yn cynnwys sesiwn ar reoleiddio, sydd yn neilltuol o berthnasol i aelodau bwrdd newydd, ar 11/01/24. Byddwn hefyd yn cynnal sesiynau rhwydweithio gyda ffocws ar iechyd a diogelwch yng Ngorllewin Cymru a Gogledd Cymru , ym mis Ionawr, ynghyd â’n Cynhadledd Llywodraethiant yng Nghaerdydd ym mis Mawrth.

Ond nid dyna’r cyfan. Byddwn hefyd yn parhau gyda’n cyfarfodydd Cymunedau Aelodau a’n rhaglen o weminarau a sesiynau sbotolau ar ystod o bynciau a byddwn yn cynnal ein cwrs poblogaidd Cyflwyniad i Gymdeithasau Tai ar gyfer staff ac aelodau bwrdd sy’n newydd i’r sector tai.

Cliciwch ar y dolenni isod i archebu eich lle.

Hyfforddiant:

11/01/24 a 12/01/24: Cyflwyniad i gymdeithasau tai – Ar-lein - Archebwch yma.

Cymunedau Aelodau:

Bydd ein cyfarfodydd Cymunedau Aelodau hefyd yn dychwelyd ym mis Ionawr.

18/01/24: Cyfarfod Cymuned Aelodau Cyllid – Gwesty Clayton, Caerdydd

Archebwch eich lle am ddim yma.

31/01/24: Cyfarfod Cymuned Aelodau Diogelwch - Hafren, y Drenewydd

Archebwch eich lle am ddim yma.

06/02/24: Cyfarfod Cymuned Aelodau Rheoleiddio a Llywodraethiant - Gwesty Metropole, Llandrindod

Archebwch eich lle am ddim yma.

20/02/24: Cyfarfod Cymuned Aelodau Adnoddau Dynol – Gwesty Clayton, Caerdydd

Archebwch eich lle am ddim yma.

29/02/24: Cyfarfod Cymuned Aelodau Iechyd, Gofal a Chymorth - Gwesty Clayton, Caerdydd

Archebwch eich lle am ddim yma.

Sesiynau sbotolau:

Bydd ein sesiynau sbotolau ar-lein hefyd yn cefnogi aelodau o fis Ionawr.

11/01/24: Sesiwn sbotolau ar safonau tai â chymorth

Archebwch yma.

16/01/24: Sesiwn sbotolau: pam fod llesiant yn gweithio

Archebwch yma.

26/01/24: Tai a Chyn-aelodau’r lluoedd arfog

Archebwch yma.


13/02/24: Cartrefi iach, pobl iach: cefnogi preswylwyr ar draws Cymru i wneud cartrefi yn gynhesach

Archebwch yma.

Byddwn yn ychwanegu mwy o sesiynau yn yr wythnosau a’r misoedd nesaf, felly cadwch lygad ar ein tudalen Beth sydd Ymlaen a thanysgrifio i Fwletin bythefnosol CHC i ganfod mwy.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso mawr i chi gysylltu â ni yn memberservices@chcymru.org.uk.