Cynllun corfforaethol : 2023/24 – 26/27

Am dros 30 mlynedd buom yn gweithio gyda chi, ein haelodau, i wneud Cymru yn wlad lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb. Gyda’n gilydd rydym wedi cymryd camau breision tuag at gyflawni’r nod hon, ond gwyddom fod cymdeithasau tai a’u tenantiaid yn wynebu pwysau newydd a heriau nas gwelwyd eu tebyg.
Ein cynllun corfforaethol ar gyfer y pedair blynedd nesaf
Mae ein cynllun corfforaethol 2023-24 i 2026-27 yn nodi sut y byddwn yn cefnogi aelodau i gynnal eu cymunedau tra’n bod yn parhau i frwydro dros y newidiadau sydd eu hangen i gyflawni’r weledigaeth hon.
Dros y pedair blynedd nesaf byddwn yn canolbwyntio ar y camau gweithredu fydd yn cefnogi aelodau i wneud y gwahaniaeth mwyaf i’w cymunedau. Byddwn yn gweithio’n galed i sicrhau fframwaith cyllid a pholisi sefydlog a digonol i gefnogi buddsoddiad mewn cartrefi newydd a phresennol a gwasanaethau cymorth.
Gwnawn hyn drwy gynrychioli ein haelodau, gan weithredu fel llais dylanwadol i sicrhau newid. Byddwn hefyd yn gweithredu fel canolbwynt i ddod ag aelodau ynghyd i ganfod datrysiadau ar y cyd i’r heriau sy’n ein hwynebu.
Mae gennym set glir o nodau i’w cyflawni erbyn 2027, a rydym yn hyderus y byddant yn cefnogi’r sector i garlamu ymlaen unwaith eto.
Ein nodau
1. Sicrhau’r dulliau, cyllid a pholisi sy’n cefnogi cartrefi ansawdd da gan gymdeithasau tai.

2. Dylanwadu ar yr amgylchedd polisi fel y gall cymdeithasau tai barhau i ddarparu cartrefi sy’n fforddiadwy a rhoi cefnogaeth effeithiol i denantiaid sy’n wynebu caledi ariannol.

3. Hyrwyddo ymddiriedaeth mewn cymdeithasau tai a’u cefnogi i adeiladu partneriaethau cryf yn lleol.

4. Sicrhau fod CHC yn gorff aelodaeth ystwyth a chynhwysol ac yn batrwm o gyflogwr.

Mae gennym gynllun gweithredu yn ei le i’n helpu i gyflawni pob un o’r nodau hyn, ac i sicrhau ein bod yn parhau’n atebol i’n haelodau. Bydd ein gwaith yn canolbwyntio ar ddylanwadu ar eu rhan a’u cysylltu – gyda’i gilydd a gydag arbenigwyr o fewn a thu allan i’r sector.
Byddwn yn rhoi adroddiad ar ein cynnydd ar ein hamcanion bob chwe mis i’n haelodau drwy adroddiad effaith, a byddwn hefyd yn gofyn yn rheolaidd am adborth.