Diweddariad: Gwaith cymdeithasau tai Cymru i drin lleithder a llwydni yng nghartrefi tenantiaid
Cyhoeddwyd y datganiad hwn ar 15 Tachwedd 2023.
Cafodd y sector ei ysgwyd gan y newyddion trychinebus i farwolaeth y plentyn dwyflwydd oed Awaab Ishak gael ei achosi oherwydd iddo ddod i gysylltiad â lleithder a llwydni yn ei gartref.
Fe wnaethom ddweud ar y pryd (Tachwedd 2022) na ddylai prosesau a systemau byth darfu ar wrando a gwneud y peth iawn. Er bod ystadegau Llywodraeth Cymru yn dangos fod tai cymdeithasol yn parhau i gael eu gwella i safon dda, dywedasom fod yn rhaid i ni ymdrechu’n ddi-baid i sicrhau fod holl gartrefi cymdeithasau tai Cymru yn ddiogel ac na allai trasiedi fel hyn byth ddigwydd eto.
I hynny o beth, yn ystod y 12 mis diwethaf mae cymdeithasau tai ledled Cymru wedi cymryd golwg feirniadol ar sut maent yn trin lleithder a llwydni yng nghartrefi eu tenantiaid. Mae’r dilynol yn drosolwg eang o sut mae ein sector yn gweithio ar y mater hwn. Mae pob un o’r cymdeithasau tai yn gweithredu mewn modd ychydig yn wahanol, yn seiliedig ar yr hyn y maent wedi ei weld yn lleol a beth mae eu tenantiaid eu hangen.
Edrych ar achosion gwraidd
Yn gyntaf ac yn bennaf, mae cymdeithasau tai Cymru yn parhau i gysylltu ac ymwneud gyda’r bobl yn eu cymunedau. Mae’r cyrff nid-er-elw yma yn bodoli i ddarparu cartrefi fforddiadwy, ansawdd da i bobl ym mhob rhan o’n gwlad, felly bu deall pryderon tenantiaid yn hollbwysig ar gyfer sicrhau bod y camau a gymerir yn effeithlon a phriodol.
Maent hefyd yn parhau i adolygu eu prosesau mewnol a gwneud gwelliannau i fod yn rhagweithiol wrth ddynodi achosion o leithder a llwydni, ac ymateb yn gyflym. Yn ychwanegol, maent yn datblygu eu prosesau i wella sut maent yn ymwneud ag unrhyw gwynion cysylltiedig a all godi.
Maent yn edrych yn fewnol ar sut mae staff yn siarad am leithder a llwydni hefyd ac yn cefnogi dysgu am wahanol faterion o gonsyrn a materion sensitif a all godi. Mae rhai hyd yn oed yn cymryd y cam blaengar o wneud lleithder a llwydni yn gyfrifoldeb i bawb ar draws y sefydliad.
Ni fu ein haelodau yn gweithio ar ben eu hunain; drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf hon, rydym wedi dod â nhw ynghyd i rannu dysgu ac arfer gorau ar ystod eang o feysydd strategol a gweithdrefnol, i helpu cydweithwyr ar draws Cymru i gynyddu sgiliau, gwella a gwneud pethau yn well ar gyfer eu tenantiaid.
Bu cefnogaeth sefydliadau eraill yn amhrisiadwy wrth helpu cymdeithasau tai Cymru i symud ymlaen. Mae tystiolaeth a phrofiadau cymdeithasau tai ar draws y Deyrnas Unedig, ynghyd â’r Ffederasiwn Tai Cenedlaethol (NHF) a Ffederasiwn Cymdeithasau Tai yr Alban, wedi llywio’r ffordd y gweithiwn. Rydym hefyd wedi cael cyngor gan arbenigwyr ac ystyried adroddiadau manwl, yn cynnwys yr Adolygiad Gwell Tai Cymdeithasol i sicrhau ein bod bob amser yn anelu am ymarfer gorau.
Yng Nghymru, bu sefydliadau tebyg i TPAS Cymru yn hollbwysig wrth helpu cymdeithasau tai i wella cyfathrebu gyda thenantiaid. Mae Tai Pawb wedi gwthio ein haelodau i edrych eto ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn sut mae cymdeithasau tai yn rheoli eu cartrefi.
Gwyddom fod mwy o waith yn dal ar ôl, ond nid ydym wedi rhoi’r gorau i ddysgu a newid. Mae ein sector wedi cymryd camau ymlaen yn y 12 mis diwethaf, a byddant yn parhau i wneud hynny am lawer hirach.
Beth nesaf?
Dros y flwyddyn nesaf byddwn ni yn Cartrefi Cymunedol Cymru yn parhau i feithrin y diwylliant hwn o welliant parhaus drwy hwyluso cyfleoedd i gymdeithasau tai ddysgu ymhellach gan arbenigwyr yn eu maes a rhannu arfer gyda’i gilydd drwy ein cyfres o sesiynau sbotolau a gweminarau ar reoli asedau.
Rydym hefyd yn gweithio gyda TPAS Cymru i ddatblygu adnoddau ar gyfer tenantiaid i ddeall y camau y dylent eu cymryd os oes ganddynt leithder a llwydni yn eu cartrefi, a’r ffyrdd i gwyno os nad ydynt yn fodlon gyda’r gwasanaeth a gânt. Ynghyd â hyn, rydym yn cydweithio gyda’r NHF ac Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr i ymchwilio arferion cwmnïau rheoli hawliadau wrth gwrso tenantiaid i wneud hawliadau cyfreithiol, ac i hysbysu tenantiaid am eu hawliau a’u goblygiadau os penderfynant fynd lawr y llwybr hwn.
I gydnabod pwysigrwydd llywodraethiant da wrth oruchwylio gweithgaredd cymdeithasau tai yn y maes hwn, rydym wedi comisiynu Campbell Tickell i ddatblygu adnoddau i roi mwy o gefnogaeth i aelodau bwrdd.
Byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid tai yn cynnwys Llywodraeth Cymru, CIH Cymru, Tai pawb, TPAS Cymru, Shelter Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd i ddatblygu rhaglen o waith thematig gan ymgysylltu ar draws y sector, sy’n cefnogi cyflenwi cartrefi a gwasanaethau ansawdd da ar gyfer tenantiaid.
Mae newid prosesau a ffyrdd o weithio yn hanfodol i gael pethau’n iawn ar gyfer yr hirdymor a sicrhau nad yw tenantiaid yn gorfod byw gyda lleithder a llwydni yn eu cartrefi. Mae gennym ni a’r cymdeithasau tai sy’n aelodau i ni weledigaeth ar y cyd o Gymru lle mae tai da yn hawl sylfaenol i bawb – a dim ond os edrychwn ar bopeth sy’n bwydo mewn i sicrhau’r canlyniadau gorau y gallwn sicrhau hynny.
Os ydych chi yn denant cymdeithas tai a bod gennych broblem gyda lleithder neu lwydni yn eich cartref, rydym yn eich annog i siarad gyda’ch landlord fel mater o flaenoriaeth.
Ar gyfer ymholiadau gan y wasg a’r cyfryngau, anfonwch e-bost at Ruth Dawson, pennaeth cyfathrebu – ruth-dawson@chcymru.org.uk.