Cyflwyno Lovell fel partner masnachol newydd
Fel rhan o gyfres o negeseuon ar aelodau partner masnachol newydd Cartrefi Cymunedol Cymru mae Gemma Clissett, Cyfarwyddwr Partneriaethau Rhanbarthol, yn esbonio pam y dewisodd Lovell ffurfio partneriaeth newydd gyda’n sector.
Pam fod Lovell eisiau bod yn partner masnachol CCC?
"Mae Lovell yn wirioneddol yn bartneriaeth busnes – mae yn ein DNA, o’n datblygiad partneriaeth cyntaf oll gyda Chyngor Sir Gaerfyrddin tua 42 mlynedd yn ôl. Dyma’r hyn a wnawn a rydym yn wirioneddol angerddol am ddarparu cartrefi ansawdd uchel, daliadaeth gymysg yng Nghymru.
Credwn fod dod yn bartner i CHC yn agor cyfleoedd i’r ddau sefydliad fel ei gilydd. Mae CHC yn gymuned, grŵp o sefydliadau o’r un anian sy’n cydweithio i helpu darparu’r holl fathau o dai y mae cymaint eu hangen yng Nghymru.
Rydym eisoes wedi ffurfio perthynas ardderchog gyda llawer o’r landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac awdurdodau lleol yng Nghymru a theimlwn y bydd dod yn Bartner Corfforaethol i CHC yn ein galluogi i gryfhau’r cysylltiadau hyn hyd yn oed ymhellach yn ogystal â chreu rhai newydd. Teimlwn y bydd y bartneriaeth hefyd yn rhoi llwyfan i rannu arfer gorau a chynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth ar draws y ddau sector.
Yn Lovell mae’r cymunedau yr adeiladwn ynddynt yn bwysig iawn i ni, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda CHC i edrych am gyfleoedd i gefnogi a rhoi yn ôl i gymunedau lleol yng Nghymru".
Pa fanteision y gall Lovell eu rhoi i gymdeithasau tai sy’n aelodau CCC a’u gwaith?
Fel datblygydd tai partneriaeth, sydd yn gweithio ar wahanol brosiectau adfywio heriol, teimlwn fod gennym lawer i’w gynnig i’r bartneriaeth o ran gwybodaeth, arbenigedd ac adnoddau a fedrai fod o fudd i aelodau CHC wrth ystyried prosiectau tai heriol.
Mae arbenigedd a sefyllfaoedd marchnad cydnabyddedig Lovell mewn tai fforddiadwy yn adlewyrchu ei ddealltwriaeth ddwfn o’r amgylchedd adeiliedig a ddatblygwyd dros lawer o flynyddoedd a’i allu i ddarparu datrysiadau i brosiectau adfywio cymhleth.
Fel canlyniad, mae ei alluoedd yn gydnaws gyda sector tai Cymru ac mae’n ymroddedig i gyflenwi adfywio ac anghenion tai fforddiadwy yng Nghymru yn y dyfodol gyda ffocws ar berfformiad sero-net a’r safonau uchaf o greu lle.
Pa wasanaethau ydych chi’n eu cynnig?
Mae Lovell, sy’n rhan o Morgan Sindall Group plc, yn ddarparydd blaenllaw o dai partneriaeth a marchnad agored. Mae gan y cwmni arbenigedd mewn adfywio a gaiff ei arwain gan dai, yn cynnwys adeiladu tai newydd, fforddiadwy a thai adeiladu i’w rhentu, marchnad agored, gwaith adnewyddu ac ôl-osod, byw nes ymlaen mewn bywyd a thir strategol. Gyda swyddfeydd yn Lloegr, yr Alban a Chymru, mae Lovell yn cynnig ystod llawn o ddatrysiadau preswyl i’w bartneriaid fel contractwr a hefyd fel datblygydd.