Cyflwyno Utility Aid fel aelod partner masnachol newydd
Fel rhan o gyfres o negeseuon ar aelodau partner masnachol newydd Cartrefi Cymunedol Cymru mae Kaylee McKenna, arweinydd tai, yn esbonio pam y dewisodd Utility Aid ffurfio partneriaeth newydd gyda’n sector.
Pam fod Utility Aid eisiau bod yn aelod partner masnachol CHC ac ymuno gyda sector cymdeithasau tai Cymru?
“Rydym wedi gweithio yn y sector tai am flynyddoedd lawer ac mae bod yn bartner i CHC yn fraint go iawn i ni gan ei fod yn rhoi cyfle i ni ddysgu, creu a datblygu ein gwasanaethau gan sicrhau eu bod yn diwallu anghenion y sector tai yng Nghymru.
“Utility Aid yw brocer ynni mwyaf y Deyrnas Unedig ar gyfer y sector nid-er-elw a rydym yn falch iawn i weithio gyda CHC i gynnig mynediad i’n harbenigedd i’ch aelodau. Nid oes dim byd arbennig am yr ynni a werthwn. Mewn gwirionedd, mae’n yn union yr un ynni ag mae ein holl gystadleuwyr yn ei ddarparu.
“Ond mae rhywbeth arbennig am y ffordd y gweithiwn. Mae ein tîm ymroddedig yn darparu gwasanaeth lefel uchel i reoli a chynnal y cyflenwadau ar gyfer eich portffolio eiddo. Gallwn gynnig gwasanaethau Caffael, Biwrô, Rheoli Cyfrif, Datrysiadau Rheoli Eiddo Gwag, Archwiliadau Hanesyddol, Sero Net ac Adroddiadau Carbon i ddarparwyr tai.”
Pa fanteision y gall Utility Aid eu rhoi i gymdeithasau tai sy’n aelodau CHC a’u gwaith?
“Rydym yn ymwybodol iawn o’r heriau sy’n wynebu’r sector gyda’r argyfwng presennol mewn costau byw a’r argyfwng ynni. Drwy ein partneriaeth gyda CHC byddwn yn cynnig gweminarau a grwpiau trafod i roi cynghorion fydd yn eich helpu i adnabod meysydd posibl o adfer cost a chefnogaeth wrth ostwng defnydd a gwastraff ynni.
“Yn ychwanegol byddwn yn darparu ein gwasanaeth guru ynni, sy’n rhoi cyfle i aelodau CHC siarad gydag arbenigydd diwydiant a chael cyngor am ddim heb rwymedigaeth ar bopeth yn ymwneud ag ynni. Gallai hyn gynnwys aelodau sydd â phroblem gyda mesuryddion, ymholiadau cyflenwyr, cwestiynau am Ddiwydiannau Ynni a Masnach Dwys (ETII) a Chynllun Gostyngiad Biliau Ynni (EBDS), ymholiadau am Sero Net neu ostwng ynni.
“Gwnawn bopeth a wnawn yn wahanol i sicrhau y gall eraill wneud mwy o les.”
Pa wasanaethau ydych chi’n eu cynnig?
- Caffael
- Biwrô
- Rheoli Cyfrif
- Datrysiadau Rheoli Eiddo Gwag
- Archwiliadau Hanesyddol
- Sero Net ac Adroddiadau Carbon
Canfod mwy gan Utility Aid
E-bost kmckenna@utility-aid.co.uk neu ffonio 0141 319 8494
Mynd i wefan Utility Aid
Dilyn Utility Aid ar y cyfryngau cymdeithasol
- Eu hoffi ar Facebook @ua.domoregood
- Eu dilyn ar Twitter @UA_Energy
- Eu dilyn ar LinkedIn @utility-aid-ltd