Jump to content

02 Ebrill 2024

Cyflwyno ein aelodau partner masnachol newydd

Ar ôl lansio ein partneriaethau masnachol newydd yn llwyddiannus y llynedd, rydym yn hapus i gyhoeddi ein partneriaid newydd ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Cafodd y cymdeithasau tai sy’n aelodau o CHC fudd enfawr o’r ddealltwriaeth ychwanegol, gwybodaeth werthfawr a chefnogaeth neilltuol ein partneriaid masnachol.

Bu’n wych gweld angerdd Centrus, Travis Perkins, Broadleaf Professional, CHIC, Hugh James, Gallagher ac Utility Aid at y sector dros y flwyddyn ddiwethaf. Rydym wrth ein bodd i weld y cysylltiadau hynny’n parhau ac yn falch i groesawu partneriaid newydd eleni.

Pwy yw ein haelodau partner newydd?

Fel ar 1 Ebrill 2024 mae pedwar sefydliad gwych yn ymuno â ni fel partneriaid masnachol.

Cafodd y partneriaid diwyd hyn eu dewis am eu harbenigedd, dymuniad i gefnogi ein sector ac awydd i ddysgu mwy am gymdeithasau tai Cymru.

Ein partneriaid masnachol newydd yw:

Lovell Partnerships

Lovell Partnerships - Mae Lovell, rhan o Morgan Sindall Group plc, yn ddarparydd blaenllaw ar dai partneriaeth a marchnad agored. Mae ganddo arbenigedd mewn adfywio dan arweiniad tai yn cynnwys codi tai newydd, fforddiadwy ac adeiladu i rentu, marchnad agored, adnewyddu ac ôl osod, cartrefi i bobl hŷn a thir strategol.

RLH Architectural Ltd

RLH Architectural Ltd – Mae RLH yn bractis pensaernïol amlddisgyblaeth yng ngorllewin Cymru. Dros y degawd a hanner diwethaf mae wedi cael cyfoeth o brofiad yn gweithio gyda chymdeithasau tai..

Quantum Advisory

Quantum Advisory – Mae Quantum Advisory yn ymgynghoriaeth gwasanaethau ariannol annibynnol sy’n darparu gwasanaethau pensiwn a budd cyflogeion i gyflogwyr a’u staff. Mae eu statws annibynnol yn golygu y gallant ddilyn nodau heb fewnbwn gan randdeiliaid allanol..

Barcud Shared Services

Barcud Shared Services – Cafodd Barcud Shared Services ei greu yn 2012 gan grŵp o gymdeithasau tai trosglwyddo gwirfoddol ar raddfa fawr o Gymru yn edrych am wasanaethau archwilio mewnol a risg a sicrwydd mwy pwrpasol, effeithiol o ran cost ac yn ychwanegu gwerth.

Rydym yn falch iawn i groesawu ein partneriaid newydd atom. Mae’n wych dathlu’r cyfle cadarnhaol i rannu arbenigedd ein gilydd a helpu ein sector i barhau i gael effaith enfawr ar gymunedau ledled Cymru.

I ganfod mwy am ein partneriaid masnachol, cliciwch yma.