Jump to content

24 Gorffennaf 2024

Partneriaethau masnachol Cartrefi Cymunedol Cymru yn mynd o nerth i nerth

Partneriaethau masnachol Cartrefi Cymunedol Cymru yn mynd o nerth i nerth

Mae ein 10 partner masnachol yn defnyddio eu harbenigedd i gefnogi sector tai cymdeithasol Cymru.

Pan wnaethom lansio ein partneriaethau masnachol newydd y llynedd, fe wnaethom groesawu sefydliadau yn cynnwys:

  • cynghorwyr trysorlys a chyllid corfforaethol Centrus;
  • darparydd datrysiadau cadwyn cyflenwi a chaffael Travis Perkins Managed Solutions;
  • consortiwm rheoli asedau CHIC;
  • cwmni cyfreithiol Hugh James;
    darparydd gwasanaeth yswiriant, rheoli risg ac ymgynghori Gallagher; a’r
  • cynghorwyr ynni Utility Aid.

Ymunodd pedwar partner masnachol â’r cynllun yn ddiweddarach – sef:

  • Lovell Partnerships, sy’n dod ag arbenigedd mewn adfywio dan arweiniad tai, tai newydd fforddiadwy, adnewyddu, tir strategol a mwy;
  • cwmni pensaernïol aml-ddisgyblaeth RLH Architectural;
  • ymgynghoriaeth gwasanaethau ariannol annibynnol Quantum Advisory;
  • a Barcud Shared Services sy’n cynnig arbenigedd ar archwilio mewnol a risg a sicrwydd i’r sector.

Dros y 14 mis diwethaf mae ymroddiad ac arbenigedd y partneriaid wedi cyfrannu at amrywiaeth o waith ar draws y sector, gan ddarparu adnoddau a gwybodaeth werthfawr i helpu ein haelodau i barhau eu gwaith pwysig.

Darllenwch fwy am bartneriaid masnachol Cartrefi Cymunedol Cymru a sut y gallant weithio gyda’ch cymdeithas tai yma.