Jump to content

11 Mai 2023

Cwrdd â’n haelodau partner masnachol newydd

Cwrdd â’n haelodau partner masnachol newydd

Dros y blynyddoedd, cafodd cymdeithasau tai fudd mawr o ddirnadaeth ychwanegol, gwybodaeth werthfawr a chefnogaeth ymroddedig ein partneriaid masnachol.

Ond gwyddem y gallem wneud ein model partneriaeth masnachol yn well byth.

Mewn ymgynghoriad helaeth a gynhaliwyd yn 2022, dywedodd aelodau y byddai cael mynediad rhwydd i grŵp llai o bartneriaid masnachol ymroddedig a allai roi cymorth mewn meysydd targed yn fwy effeithiol. Clywsom hefyd fod aelodau eisiau rhoi dulliau newydd i bartneriaid masnachol rannu eu harbenigedd gyda’r sector. Felly rydym wedi datblygu pecyn a gredwn sy’n ymateb llawn i’r hyn a ddymunwn ni a chithau.

Diolch i’w hadborth, rydym wedi newid ein hymagwedd at bartneriethau masnachol yma yn Cartrefi Cymunedol Cymru.

Felly beth sydd wedi newid?

Rydym wedi gostwng nifer y sefydliadau sy’n bartneriaid i ni fel bod mwy o amser a gwerth yn yr hyn y gallant ei gynnig i chi. Bydd y grŵp llai hwn o bartneriaid masnachol ymroddedig iawn yn cael cyfle i ddatblygu perthynas llawer agosach gyda a chefnogi’r sector tai yng Nghymru nag o’r blaen.

Pwy yw ein haelodau partner newydd?

Rydym yn falch i gyhoeddi, fel ar 1 Ebrill 2023, fod pump wedi llofnodi i fod yn aelod partner masnachol gyda ni. Cafodd yr aelodau ymroddedig iawn hyn eu dewis am eu harbenigedd, dymuniad i gefnogi ein sector ac awydd i ddysgu mwy am gymdeithasau tai Cymru.

Y partneriaid masnachol newydd cyntaf y gallwn eu cyhoeddi yw:

  • Centrus – Grŵp gwasanaethau ariannol sydd yn ymroddedig i gynaliadwyedd, asedau gwirioneddol a gwasanaethau hanfodol. Darllenwch am bartneriaeth Centrus gyda CHC yma.
  • Travis Perkins – Partner blaenllaw yng nghadwyn gyflenwi a datrysiadau caffael y Deyrnas Unedig, gan ddarparu effeithiolrwydd drwy ansawdd, am bris fforddiadwy. Darllenwch am bartneriaeth Travis Perkins gyda CHC yma.
  • Broadleaf Professional – Tîm bach sy’n darparu technoleg fforddiadwy, sy’n arwain y farchnad wrth gefnogi gwasanaethau modern gyda ffocws ar denantiaid. Darllenwch am bartneriaeth Broadleaf Professional gyda CHC yma.
  • Hugh James – Cwmni cyfraith yn 100 uchaf y Deyrnas Unedig a fu’n gweithio gyda’r sector tai cymdeithasol yng Nghymru am 40 mlynedd. Darllenwch am bartneriaeth Hugh James gyda CHC yma.
  • Utility Aid – Brocer ynni mwyaf y Deyrnas Unedig ar gyfer y sector nid-er-elw sy’n darparu gwasanaeth lefel uchel i reoli a chynnal y cyflenwadau ar gyfer eich portffolio eiddo. Darllenwch am bartneriaeth Utility Aid gyda CHC yma.

Gwelwn hyn fel cyfle cadarnhaol i rannu arbenigedd ein gilydd a helpu ein sector i barhau i gael effaith enfawr ar gymunedau ledled Cymru.

Dod yn aelod partner masnachol

Ewch i’r dudalen hon i ganfod mwy am ddod yn aelod partner masnachol gyda ni neu anfon e-bost at enquiries@chcymru.org.uk.