Cymuned aelodau newydd ar gyfer rheolwyr asedau yng Nghymru

Rydym yn lansio cymuned aelodau newydd ar y cyd ar gyfer rheolwyr asedau, mewn partneriaeth â iON Consultants.
Mae’r cynllun yn ymateb yn uniongyrchol i’ch adborth, gan greu gofod neilltuol ar gyfer trafod manylion gweithredol, rhannu dirnadaeth a chydweithio ar arferion gorau o fewn rheoli asedau.
Yr hyn mae’n ei gynnig:
- Cyfarfodydd o’r gymuned aelodau: Bydd y gymuned yn cwrdd ddwywaith y flwyddyn, gan roi llwyfan cyson ar gyfer ymgysylltu.
- Adnoddau cynhwysfawr: Mynediad i dudalen gwefan Hyb Tai neilltuol ar gyfer gwybodaeth a grŵp WhatsApp ar gyfer trafodaethau amser real.
- Agenda dan arweiniad aelodau: Caiff trafodaethau eu llunio gan eich mewnbwn, gan sicrhau eu bod yn berthnasol i’ch gwaith bob dydd.
- Arbenigedd polisi CHC: Bydd gwaith polisi ehangach CHC yn ymuno â’r gymuned, gan sicrhau fod eich dirnadaeth weithredol yn llywio penderfyniadau tai strategol yng Nghymru yn uniongyrchol.
Dan arweiniad arbenigwyr
Caiff y gymuned ei harwain ar y cyd gan CHC a Julian Ransom, ffigur uchel iawn ei barch mewn rheoli asedau a chydymffurfiaeth.
Fel Cyfarwyddwr iON Consultants ac aelod ers amser maith o Dîm Rheoli NHMF, mae gan Julian dros 35 mlynedd brofiad fel syrfëwr adeiladu siartredig a mwy na 15 mlynedd yn arbenigo mewn ymgynghoriaeth cydymffurfiaeth asbestos.
Mae ei brofiad helaeth yn cynnwys rheoli timau technegol LCC, swyddi rheoli asedau interim, cyflenwi contract cartrefi gweddus a rheoleiddiwr paratoi ymchwiliad.
Mae ymwneud Julian gyda’r fforymau rhanbarthol rheoli asedau a chynnal a chadw HAMMAR / NHMF yn Lloegr yn dangos ei allu amlwg i feithrin cymunedau ar y cyd.

Sut i ymuno
Os hoffech ddod yn rhan o’r gymuned newydd hon, gadewch i ni wybod yma os gwelwch yn dda.
Ein helpu i lunio’r trafodaethau
Rydym eisiau sicrhau fod y gymuned newydd hon yn mynd i’r afael â’ch heriau amlycaf, felly gofynnir i chi hefyd gynnwys manylion ar unrhyw bynciau yr hoffech eu trafod gyda chyd-reolwyr asedau pan fyddwch yn ymuno â’r grŵp drwy’r ddolen uchod.