Jump to content

11 Mai 2023

Cyflwyno Hugh James fel partner aelod masnachol newydd

Cyflwyno Hugh James fel partner aelod masnachol newydd

Fel rhan o gyfres o negeseuon ar aelodau partner masnachol newydd Cartrefi Cymunedol Cymru mae Richard Macphail, partner a phennaeth tai cymdeithasol, yn esbonio pam y dewisodd Hugh James ffurfio partneriaeth newydd gyda’n sector.

Pam fod Hugh James eisiau bod yn aelod partner masnachol CHC ac ymuno gyda sector cymdeithasau tai Cymru?

“Mae gweithio’n agos gyda CHC yn galluogi Hugh James barhau i gael dirnadaeth o’r sector, ac mae ein cleientiaid yn dweud eu bod yn gwerthfawrogi hynny yn fawr. Wrth gynghori cleientiaid mae’n bwysig eu bod yn hyderus fod gennym ddealltwriaeth gref o’r heriau ehangach y maent yn gweithio i’w trin ynghyd â phrofiad o gydweithio, cyd-destun Cymru a gwybodaeth o ddulliau gweithredu blaengar a ddefnyddiwyd mewn mannau eraill.

“Mae’r sgyrsiau rheolaidd a gawn gyda CHC yn golygu y gallwn aros gam ar y blaen wrth ragweld datrysiadau fydd yn effeithiol o ran cost, llunio hyfforddiant penodol, cynnwys siaradwyr blaenllaw o’n rhwydwaith a llunio cysylltiadau rhwng cleientiaid.

“O’n 40 mlynedd o weithio gyda’r sector tai cymdeithasol yng Nghymru, gwyddom pa mor hanfodol yw hi ein bod yn cymryd dull gweithredu holistig a gweld cyd-destun ehangach y penderfyniadau sydd angen i’n cleientiaid eu gwneud ac mae CHC bob amser yn ein helpu i wneud hynny. Mae hefyd yn bwysig i ni ein bod yn parhau i gefnogi’r sector a gwyddom am werth rhannu cyfleoedd y mae CHC yn eu harwain drwy gynadleddau, hyfforddiant, diweddariadau a dylanwadu ar bolisi.”

Pa fanteision y gall Hugh James eu rhoi i gymdeithasau tai sy’n aelodau CHC a’u gwaith?

“Cawsom rai cynlluniau cydweithio gwirioneddol lwyddiannus gyda CHC lle gallasom ddynodi tueddiadau yn y cyngor yr oedd cleientiaid ei angen ac ymateb iddynt gyda datrysiad pwrpasol a gafodd ei rannu gan yr holl sector. Rydym yn falch o’n rôl yn y cymunedau mae CHC yn eu hadeiladu a’u meithrin a rydym eisiau parhau i’w helpu i wneud mwy drwy liniaru tagfeydd mewn prosesau cyfreithiol, gan gael gwared â chymhlethdodau a bob amser ganfod ffordd trwodd.

“Mae ein cyfreithwyr hefyd yn awyddus i gyfrannu at y cynlluniau cymdeithasol a aiff law yn llaw gydag adeiladu cymuned a gallwn ddarparu gwirfoddolwyr ac amrywiaeth o wahanol fathau o gefnogaeth i gyfrannu at eu llwyddiant.”

Pa wasanaethau ydych chi’n eu cynnig?

  • Cyngor ar ddatblygu
  • Adnoddau dynol
  • Llywodraethiant a rheoleiddio
  • Corfforaethol a thrysorlys
  • Rheolaeth tai

Canfod mwy gan Hugh James

Mynd i wefan Hugh James

Dilyn Hugh James ar y cyfryngau cymdeithasol