Jump to content

02 Ebrill 2024

Cyflwyno Quantum Advisory fel partner masnachol newydd

Cyflwyno Quantum Advisory fel partner masnachol newydd

Fel rhan o gyfres o negeseuon ar aelodau partner masnachol newydd Cartrefi Cymunedol Cymru mae Stuart Price, Partner ac Actiwari, yn esbonio pam y dewisodd Quantum Advisory ffurfio partneriaeth newydd gyda’n sector.

Pam fod Lovell eisiau bod yn partner masnachol CCC?

"Mae ein pencadlys yng Nghymru ac rydym eisoes yn gweithio’n agos iawn gyda nifer fawr o gymdeithasau tai seiliedig yng Nghymru. Hoffem gyfle i weithio gyda mwy o gymdeithasau tai yng Nghymru. Bydd bod yn bartner masnachol i CHC yn rhoi cyfle i ni hyrwyddo, o fewn y sector, gyflogwyr yn cyfathrebu gwybodaeth ariannol i’w cyflogeion mewn ffordd syml a chryno a hyrwyddo’r Pensiwn Byw. Rydym yn angerddol iawn am y ddau beth".

Pa fanteision y gall Quantum Advisory eu rhoi i gymdeithasau tai sy’n aelodau CCC a’u gwaith?

"Rydym yn ymgynghoriaeth gwasanaethau ariannol annibynnol sy’n darparu gwasanaethau pensiwn a budd cyflogeion i gyflogwyr a’u staff. Mae ein statws annibynnol yn golygu y gallwn ddilyn nodau heb ymyrraeth gan gyfranddalwyr allanol. Mae hyn yn ein galluogi i ganolbwyntio ar wasanaethau cleientiaid, a rydym yn angerddol am hynny ac yn rhagori ynddo.

Bydd dod yn bartner masnachol i CHC yn hybu ein perthynas gyda’r sector tai yng Nghymru ac mae hynny’n bwysig iawn i ni. Bydd bod yn bartner masnachol yn ein galluogi i drosglwyddo ein gwybodaeth, arbenigedd a phrofiad i aelodau CHC fel y gallant wneud penderfyniadau gwybodus mewn pensiynau, buddion i gyflogeion a buddsoddiadau.

Gan ddefnyddio ein harbenigedd, rydym yn darparu gwasanaeth wedi ei bersonoli i gyflogwyr gan mai ein profiad ni yw nad oes dau gyflogwr yr un fath a chaiff ein cyngor ei gyflwyno mewn ffordd glir a manwl. Ein nod yw sicrhau y gall cyflogwyr ddarparu pensiynau a buddion i gyflogeion sy’n fforddiadwy iddyn nhw a’u staff, a chaiff y buddion eu gwerthfawrogi gan staff, ac mae hynny yn ei dro yn cynorthwyo gyda chadw staff a denu staff newydd".

Pa wasanaethau ydych chi’n eu cynnig?

Mae Quantum Advisory yn cynorthwyo cymdeithasau tai gyda’u trefniadau pensiwn a budd cyflogeion. Rydym yn dylunio, cynnal ac adolygu cynlluniau pensiwn a threfniadau budd cyflogeion i sicrhau eu bod yn gweithio’n effeithiol. Rhoddwn gyngor ar gynlluniau pensiwn sefyll eu hunain yn ogystal â chynlluniau aml-gyflogwr fel y Cynllun Pensiwn Tai Cymdeithasol (SHPS), y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS) a threfniadau pensiwn cyfraniad diffiniedig personol grŵp. Yng nghyswllt trefniadau budd cyflogeion rhoddwn gyngor ar farwolaeth mewn gwasanaeth, afiechyd a threfniadau meddygol preifat.

Mae ein tîm arbenigwyr wedi helpu llawer o gyflogeion i ostwng cost, neu adael yn llwyr, â’u LGPS neu drefniadau pensiwn eraill a sefydlu pecynnau budd amgen ar gyfer cyflogeion. Mae angen cyfleu unrhyw newidiadau mewn buddion yn glir i gyflogeion fel y cânt eu deall. Cynorthwywn gyflogwyr drwy lunio dogfennau ymgynghori cyflogeion, darparu cyfriflenni gyda rhagamcaniadau pensiwn penodol cyflogeion, gan ddangos sut bydd y newidiadau yn effeithio arnynt, rhoi cyflwyniadau cyflogeion grŵp a gefnogir gyda sesiynau un-i-un gyda chyflogeion.

Rydym hefyd yn helpu cyflogwyr i sefydlu trefniadau cyfnewid cyflog lle gall cyflogwyr a’u cyflogeion fwynhau arbedion sylweddol mewn yswiriant gwladol.

Ymfalchïwn mewn perthynas agos gyda’n cleientiaid a’u hannog i ddefnyddio cymaint neu cyn lleied o’n harbenigedd ag y teimlant fod eu hangen.

Canfod mwy gan Quantum Advisory

Dilyn Quantum Advisory ar X (@QuantumAdvisory) a LinkedIn