Cyflwyno Barcud Shared Services fel partner masnachol newydd
Fel rhan o gyfres o negeseuon ar aelodau partner masnachol newydd Cartrefi Cymunedol Cymru mae Nigel Ireland, Prif Weithredwr, yn esbonio pam y dewisodd Barcud Shared Services ffurfio partneriaeth newydd gyda’n sector.
Pam fod Barcud Shared Services eisiau bod yn partner masnachol CCC?
"Credwn fod nodau CHC a’n nodau ni yn debyg iawn a bod y ddau gorff yn bennaf yn ceisio cefnogi’r sector tai i fedru cyflawni mwy ar gyfer pobl Cymru.
Rydym yn grŵp dim-er-elw. Ein Gweledigaeth yw ‘bod y darparydd gwasanaeth o ddewis ar gyfer sefydliadau gyda diben cymdeithasol, gan ddarparu cydwasanaethau wedi eu seilio ar gydweithio, ansawdd a gwerth am arian’ a’n Nod Strategol yw ‘darparu cydwasanaethau gwerth wych, ansawdd uchel, dibynadwy a gwybodus sy’n lleihau gwastraff ac yn cynyddu gwerth a chyfle i’r eithaf ar gyfer ein sefydliadau partner’.
Drwy gydweithio, ein disgwyliad yw y bydd CHC a Barcud Shared Services fel ei gilydd yn medru sicrhau llawer mwy o fudd i’r sector ac yn y pen draw y gall cymdeithasau tai gyflawni mwy o fuddion i’w cwsmeriaid.
Gyda CHC yn cynrychioli pob landlord cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru, credwn fod alinio ein cryfderau a chydweithio ar gynlluniau yn rhoi hyd yn oed fwy o gymorth a gwerth i’r sector".
Pa fanteision y gall Barcud Shared Services eu rhoi i gymdeithasau tai sy’n aelodau CCC a’u gwaith?
"O gofio am y cyfyngiadau ariannol cyfredol ac amcanion heriol y sector, rydym yn credu’n gryf fod cydwasanaethau yn hanfodol i sector LCC Cymru gyflawni ei amcanion a’i ddeilliannau drwy gynnig y buddion dilynol: arbedion cost, gwella ansawdd, mwy o gydnerthedd, lleihau baich rheoli, gostwng gorbenion a mwy o effeithiolrwydd.
Fel partner i CHC gobeithiwn y bydd yn cynyddu amlygrwydd y gwahaniaeth cadarnhaol a wnawn a chynyddu hygyrchedd ein gwasanaethau i fwy o aelodau cymdeithasau tai, gan felly alluogi mwy o sefydliadau i gynyddu eu heffeithlonrwydd a’u heffeitholdeb drwy ddefnyddio ein wasanaethau. Gobeithiwn hefyd y gallwn ddod â’n gwybodaeth ac arbenigedd i gefnogi prosiectau cydweithio gyda CHC ac aelodau eraill".
Pa wasanaethau ydych chi’n eu cynnig?
- Archwilio mewnol
- Datrysiadau caffael
Hyfforddiant, gweithdai ac ymgynghoriaeth ar Reoli Risg a Sicrwydd
Adolygiadau a hyfforddiant mewn llywodraethiant
Ymgynghoriaeth mewn ystod eang o feysydd yn cynnwys: cynllunio strategol, rheoli prosiectau, parhad busnes ac iechyd a diogelwch
Rydym yn y broses o ddatblygu cydwasanaethau ychwanegol i ateb anghenion cleientiaid.
Canfod mwy gan Barcud Shared Services
Mynd i wefan Barcud Shared Services
Dilyn Barcud Shared Services ar X (@BarcudSS)