Jump to content

02 Ebrill 2024

Cyflwyno RLH Archictectural fel partner masnachol newydd

Cyflwyno RLH Archictectural fel partner masnachol newydd

Fel rhan o gyfres o negeseuon ar aelodau partner masnachol newydd Cartrefi Cymunedol Cymru mae Nick Cox, Cyfarwyddwr Masnachol, yn esbonio pam y dewisodd RLH Architectural ffurfio partneriaeth newydd gyda’n sector.

Pam fod RLH Architectural eisiau bod yn partner masnachol CCC?

"Rydym wedi bod yn gweithio yn y sector ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig am fwy na 15 mlynedd. Ymhell cyn i lawer o’r cwmnïau pensaernïol eraill hyd yn oed edrych ar y sector, roeddem yn camu ymlaen ac yn ceisio cyflenwi’r cartrefi oedd gymaint o’u hangen. Gwaetha’r modd, fwy na degawd yn ddiweddarach, mae’r angen hyd yn oed yn fwy!

Credwn yn angerddol yn y sector a rydym eisiau defnyddio ein set sgiliau i wneud gwahaniaeth go iawn. Mae faint o amser sydd eisiau i gael y cartrefi hyn drwy’r system cynllunio a’u hadeiladu yn achos rhwystredigaeth. Mae’r fiwrocratiaeth y deuwn ar ei thraws wedi arwain at i’r broses gymryd 12 mis yn hirach ar gyfartaledd nag oedd yn ei wneud ddegawd yn ôl, ac mae’n rhaid i hynny newid.

Ar ôl bod yn Aelod Masnachol o CHC yn flaenorol, rydym bob amser wedi eu gweld fel y ‘llais yn yr ystafell’, yn ymladd dros y sector ac yn gwthio’r materion pwysicaf i frig y gwahanol agendâu.

Rydym yn adnabod synergedd yn ein diben ac yn teimlo wedi alinio gyda’r nodau y mae CHC yn gobeithio eu cyflawni. Felly, pan oedd CHC yn edrych am ddatganiadau diddordeb gan y sector, roeddem yn ei weld fel cyfle gwych i ailgynnau ein cysylltiad a gweld os gallwn ddefnyddio ein profiadau dros y blynyddoedd blaenorol i helpu i hybu newid".

Pa fanteision y gall RLH Architectural eu rhoi i gymdeithasau tai sy’n aelodau CCC a’u gwaith?

"Ar ôl gweithio gyda llawer o LCC ar draws Cymru am y 15 mlynedd ddiwethaf, credwn fod gennym ddealltwriaeth lwyr o’r hyn sydd ei angen i sicrhau’r cartrefi y mae cymaint o’u hangen.

O waith dichonoldeb dechreuol ar safleoedd, edrych ar y gwahanol gyfyngiadau, hyd at gynllunio a chymeradwyaeth dechnegol Llywodraeth Cymru, dylunio technegol ac ymlaen i adeiladu, mae’r holl alluoedd gennym o fewn ein cwmni i wneud y broses hon mor llyfn ag sydd modd.

Credwn y gallwn helpu i newid y ffordd y caiff tai fforddiadwy eu cyflenwi, o ‘lwybr cyflym’ drwy’r prosesau cynllunio hyd at adeiladu ymaith o’r safle a dulliau modern o adeiladu, gan helpu i gyflenwi’r cynlluniau yn y ffordd fwyaf effeithiol bosibl.

Edrychwn ymlaen yn optimistig iawn y gallwn helpu i wneud gwasanaeth parhaus ar gyfer y sector ledled Cymru".

Pa wasanaethau ydych chi’n eu cynnig?

Mae gennym gyfres lawn o wasanaethau pensaernïol, o RIBA cam 1 (cynlluniau dichonolrwydd dechreuol) hyd at RIBA Cam 3 (Cyflwyniadau Cynllunio Llawn).

Rydym wedyn yn gweithio gyda Contractwyr drwy RIBA Cam 4 i wneud y dyluniad technegol llawn, yna ymlaen i RIBA Cam 5 (Adeiladu), lle cefnogwn y contractwr drwy ateb ymholiadau safle, gwirio dyluniadau trydydd parti ac yn y blaen, ac wedyn ymlaen i Cam 6, sy’n cynnwys trosglwyddo a darpariaeth gwybodaeth ‘Fel yr Adeiladwyd’ ar gyfer y cleient gymdeithas tai a ffeil Iechyd a Diogelwch y contractwr.

Canfod mwy gan RLH Architectural