Jump to content

11 Mai 2023

Cyflwyno Travis Perkins Managed Services fel aelod partner masnachol newydd

Cyflwyno Travis Perkins Managed Services fel aelod partner masnachol newydd

Fel rhan o gyfres o negeseuon ar aelodau partner masnachol newydd Cartrefi Cymunedol Cymru mae Luke Thurston, cyfarwyddwr rhanbarthol, ac Andrew Craig, rheolwr cyfrif, yn esbonio pam y dewisodd Travis Perkins Managed Services ffurfio partneriaeth newydd gyda’n sector.

Pam fod Travis Perkins Managed Services eisiau bod yn aelod partner masnachol CHC ac ymuno gyda sector cymdeithasau tai Cymru?

“Mae Travis Perkins Managed Services yn sylweddoli fod gan Cartrefi Cymunedol Cymru rôl hollbwysig wrth gefnogi a chynrychioli’r sector cymdeithasau tai yng Nghymru ac i sicrhau fod gan bobl yng Nghymru fynediad i dai fforddiadwy a chymunedau llewyrchus.

“Rydym yn falch i gydweithio gyda Cartrefi Cymunedol Cymru wrth ddosbarthu deunyddiau i fwy na 250,000 o bobl a’r cartrefi y maent yn byw ynddynt, gan gefnogi amrywiaeth eang o welliannau ffabrig fydd yn sicrhau fod eu cartrefi yn gynnes, iach ac effeithiol.

“Mae ein nod o adeiladu cymunedau gwell a chyfoethogi bywydau yn gydnaws gyda chenhadaeth CHC i hyrwyddo arfer da a gweithio gyda phartneriaid i sicrhau y gall cymdeithasau tai wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl.”

Pa fanteision y gall Travis Perkins Managed Services eu rhoi i gymdeithasau tai sy’n aelodau CHC a’u gwaith?

“Mae Travis Perkins Managed Services yn anelu i ddarparu catalog eang o gynnyrch ansawdd uchel fydd yn cyflawni anghenion tenantiaid CHC. Rydym yn falch i ddarparu cynnyrch a gwasanaethau cynaliadwy a all helpu tenantiaid i arbed arian ar eu biliau cyfleustod a gostwng eu heffaith ar yr amgylchedd.

“Mae llawer o’r dulliau digidol a ddarparwn i’n cwsmeriaid; TPGO Order a TPGO Data yn rhoi’r gallu i’r landlord gynyddu eu cyfradd ateb tro cyntaf i sicrhau fod profiad tenantiaid o atgyweirio a chynnal a chadw yn amserol ac effeithiol.

“Mae Travis Perkins Managed Services yn falch i arloesi gyda chynnyrch a gwasanaethau newydd fydd yn cefnogi cwsmeriaid CHC yn eu harchwiliadau rheolaidd a gwaith cynnal a chadw, gan yrru atgyweiriadau a chynnal a chadw, gan hybu atgyweiriadau a chynnal a chadw ataliol, yn ogystal â chyflawni ar atgyweiriadau ymatebol.

“Mae cydweithio gyda Travis Perkins Managed Services yn sicrhau fod gan denantiaid CHC fynediad i ystod eang o fuddion yn cynnwys cyflawni cynnyrch ansawdd uchel, prisiau cystadleuol, cyflenwi cyfleus a darpariaeth i wasanaethau cynnal a chadw ac atgyweirio CHC a thechnolegau blaengar.”

Pa wasanaethau ydych chi yn eu cynnig?

  • TPGO Order - Eich datrysiad digidol symudol i alluogi nwyddau yn y fan a’r lle.
  • TPGO Data - Eich data sut ydych ei eisiau – llywio’r penderfyniadau sy’n gyrru eich busnes.
  • TPGO Self-Serve - Deunyddiau tu allan i oriau, mewn safleoedd sy’n lleol i chi.
  • Canolfannau Cyflawni – Caiff eich archebion eu casglu a byddant yn barod i’w casglu, wedi eu hamseru ar gyfer effeithiolrwydd pellach ar gyfer eich busnes.
  • Stociau Fan – Mae stoc llawn o’r deunyddiau cywir ar gyfer pob crefft, gan eich cefnogi i ddarparu gwasanaeth atgyweirio a chynnal a chadw ansawdd uchel drwy weithlu symudol cynhyrchiol.
  • Stôr wedi ei Rheoli – Gyda safle stôr wedi’i reoli, gwasanaeth hollol bwrpasol, rydym yn sicrhau nad oes tarfu ar eich busnes. Gallwn weithio gyda chi i gyflenwi a rheoli eich stôr bresennol, neu gallwn eich cefnogi i ddatblygu cynnig storau newydd.
  • Personél ymroddedig – Ni yw’r tîm arbenigol mwyaf sy’n ymroddedig i’r diwydiant atgyweiriadau a chynnal a chadw, mae ein tenantiaid yn ymfalchïo mewn deall ein cwsmeriaid a rhoi cyngor arbenigol. Yn ogystal â darparu datrysiadau pwrpasol rydym yn ymatebol a dibynadwy ac adeiladu perthynas gryf yn ymroddedig i’ch llwyddiant.
  • Eich Partner Cymunedol – Gweithiwn mewn partneriaeth gyda chi a’ch tenantiaid i ddarparu gwerth cymdeithasol a all roi buddion hirdymor i’ch cymunedau, gan wella bywydau eich preswylwyr drwy adeiladu cymunedau ffyniannus a chydnerth.

Canfod mwy gan Travis Perkins Managed Services

E-bost managedservices@travisperkins.co.uk

Ffonio Andrew Craig, Rheolwr Cyfrif, ar 07581 013575