Jump to content

11 Mai 2023

Cyflwyno Centrus fel aelod partner masnachol newydd

Cyflwyno Centrus fel aelod partner masnachol newydd

Fel rhan o gyfres o negeseuon ar aelodau masnachol newydd Cartrefi Cymunedol Cymru mae Paul Stevens, Pennaeth Tai Fforddiadwy, yn esbonio pam y dewisodd Centrus ffurfio partneriaeth newydd gyda’n sector.

Pam fod Centrus eisiau bod yn aelod partner masnachol CHC ac ymuno gyda sector tai cymdeithasol Cymru?

“Yn dilyn perthynas hir gyda CHC, mae Centrus yn falch iawn i ymuno fel aelod masnachol., Fel y cynghorydd trysorlys a chyllid corfforaethol blaenllaw i’r sector tai fforddiadwy yng Nghymru, rydym yn falch i ymuno â CHC ac yn bwysig yn gweld ein haelodaeth fel ffordd bellach i gefnogi y cymdeithasau tai sy’n gleientiaid i ni drwy chwarae ein rhan i alluogi CHC i gynrychioli’r sector yn ei gyfanrwydd.”

Pa fanteision y gall Centrus eu rhoi i gymdeithasau tai sy’n aelodau CHC a’u gwaith?

“Rhoddwn gyngor annibynnol ar drysorlys a chyllid corfforaethol i gymdeithasau tai gyda ffocws ar alluogi ein cleientiaid i gyflawni eu hamcanion, gan fod yn rhagweithiol wrth reoli risgiau cysylltiedig ac yn amlwg yn cynyddu gwerth am arian i’r eithaf. Mae gan ein tîm Tai Fforddiadwy arbenigol iawn dros 200 mlynedd o brofiad cyfunol yn cwmpasu bancio, deilliadau, marchnadoedd cyfalaf dyled, ecwiti a strategaethau cyllido. Rydym hefyd yn darparu adroddiadau trysorlys a datrysiadau technegol soffistigedig gan Centrus Analytics i sbectrwm llawn o gymdeithasau tai.

“Mae Centrus yn grŵp gwasanaethau ariannol sy’n ymroddedig i gynaliadwyedd, asedau gwirioneddol a gwasanaethau hanfodol – credwn mewn cyllid gyda diben. Mae Centrus yn ymroddedig i fod y batrwm o safonau uchel o berfformiad cymdeithasol, llywodraethiant ac amgylcheddol sydd wedi ei ddilysu, fel a ddangosir gan ein statws Corfforaeth Ardystiedig B."

Pa wasanaethau ydych chi yn eu cynnig?

    • Cyllid Corfforaethol Ymgynghorol (dyled ac ecwiti, uno, codi cyfalaf, menter a rheoli risg).
    • Ymgynghori Trysorlys Argadwedig (ymgysylltu a chymorth rhagweithiol, data rheolaidd ar y farchnad, polisi a strategaeth rheoli trysorlys, sicrwydd cynllun busnes, dadansoddiad graddiad credyd, strwythuro a gweithredu menter, rheoli rhanddeiliaid).
    • Centrus Analytics (adroddiadau trysorlys a datrysiadau technoleg soffistigedig).

Canfod mwy gan Centrus

Ffonio Paul Stevens ar +44 (0) 20 3846 5672 neu e-bost paul.stevens@centrusadvisors.com

Mynd i wefan Centrus

Dilyn Centrus ar y cyfryngau cymdeithasol