Pwyllgor y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid ychwanegol ar gyfer y Grant Cymorth Tai – ni fedrwn gytuno mwy
Ym mis Rhagfyr cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2024/25. Er y daeth mewn amgylchiadau heriol, roeddem yn siomedig iawn i weld fod y Grant Cymorth Tai – y prif ddull ar gyfer atal digartrefedd a chefnogi byw annibynnol - wedi cael ei rewi.
Yn ei adroddiad craffu ar y gyllideb a gyhoeddwyd ddechrau mis Chwefror, mynegodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai bryder difrifol am y “nifer digynsail o bobl sy’n byw mewn llety dros dro yng Nghymru ar hyn o bryd a’r pwysau difrifol ar adnoddau y mae hyn yn ei achosi i wasanaethau cymorth”.
Dengys ymchwil y gwnaethom ei rhannu gyda’r pwyllgor y bu cynnydd yn y galw am wasanaethau digartrefedd a chymorth tai – yn cynnwys rhai a ddarperir gan gymdeithasau tai – dros y flwyddyn ddiweddar, yn ogystal â chymhlethdod anghenion cymorth pobl.
Dengys ein tystiolaeth gan ddarparwyr cymorth:
- 81% yn dweud fod y galw am eu gwasanaethau wedi cynyddu ers y llynedd (2022/23):
- 94% yn dweud fod cymhlethdod anghenion cymorth wedi cynyddu ers y llynedd;
- 66% yn dweud eu bod yn gweithredu rhestri aros am eu gwasanaethau.
Cyn cyhoeddi’r gyllideb ddrafft, fe wnaethom ddweud wrth Lywodraeth Cymru pe byddai setliad arian gwastad (a gynigiwyd erbyn hyn), y byddai 77% o ddarparwyr gwasanaeth yn debygol iawn neu’n debygol o ostwng capasiti, byddai 40% yn debygol iawn neu’n debygol o roi contractau yn ôl ac y byddai 67% yn debygol iawn neu’n debygol o beidio cynnig am gontractau.
Mae’r Pwyllgor yn awr wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wneud “darparu cyllid ychwanegol ar gyfer y dyraniad Grant Cymorth Tai cyn y gyllideb derfynol yn flaenoriaeth ac y dylai ymchwilio pob dewis posibl ar gyfer gwneud hynny”.
Os ydym eisiau gwneud cynnydd ar ddod â digartrefedd i ben am byth yng Nghymru, rydym yn parhau yn gryf o’r farn fod yn rhaid i wasanaethau fod yn gynaliadwy a chael eu hariannu’n llawn i sicrhau y gallant gyrraedd pawb sydd mewn risg o fod yn ddigartref yng Nghymru.
Dywedodd Rhea Stevens, pennaeth polisi a materion allanol, “Sylweddolwn pa mor heriol yw’r gyllideb ar gyfer pob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru, fodd bynnag os nad ydym yn gweithredu a gwarchod ein gwasanaethau digartrefedd a chymorth tai hanfodol, bydd yr argyfwng yn parhau i ddyfnhau i lawer o bobl a theuluoedd ar draws y wlad.
“Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ailystyried y setliad arian gwastad a sicrhau y caiff y Grant Cymorth Tai ei ariannu yn iawn yn unol â chwyddiant fel y gallwn warchod y gwasanaethau hanfodol hyn.
“Mae’r cymorth y mae cymdeithasau tai a gwasanaethau digartrefedd eraill ar draws Cymru yn ei ddarparu yn newid bywydau. Os na welwn gynnydd mewn cyllid yn y gyllideb derfynol, y ffaith yw ein bod yn debygol o golli gwasanaethau ar adeg pan na fu erioed fwy o’u hangen.”
Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau a’r wasg, anfonwch e-bost at Ruth Dawson, pennaeth cyfathrebu - ruth-dawson@chcymru.org.uk.