Jump to content

18 Mehefin 2024

CHC yn rhoi tystiolaeth i ymchwiliad pwyllgor Senedd Cymru ar y cyflenwad o dai cymdeithasol

CHC yn rhoi tystiolaeth i ymchwiliad pwyllgor Senedd Cymru ar y cyflenwad o dai cymdeithasol

CHC yn rhoi tystiolaeth i ymchwiliad pwyllgor Senedd Cymru ar y cyflenwad o dai cymdeithasol Rhoddodd Clarissa Carbisiero, ein dirprwy brif swyddog gweithredol a chyfarwyddwr polisi a materion allanol, dystiolaeth i Bwyllgor Llywodraeth Leol a Thai Senedd Cymru yngynharach y mis hwn, fel rhan o’i ymchwiliad i’r cyflenwad o dai cymdeithasol.

Mewn sesiwn oedd hefyd yn cynnwys Matt Dicks, cyfarwyddwr CIH Cymru, trafododd Clarissa bynciau tebyg i:

● mesur yr angen am dai ac asesiadau o’r farchnad tai leol;

● defnydd tir ac arfer gorau gan gymdeithasau tai;

● caffaeliadau fel rhan bwysig o’r gymysgedd o ffyrdd o ddarparu cartrefi cymdeithasol;

● y rhaglen cyfalaf llety trosiannol (TACP);

● prynu’n ôl eiddo hawl i brynu;

● effaith gronnus agenda diwygio enfawr Llywodraeth Cymru ar ddarparwyr tai cymdeithasol;

● dulliau adeiladu modern a chartrefi modwlar;

● heriau’r system cynllunio a chaniatad;

● yr hyn y gallai cyllid, grantiau, rhent a chyflwyno sicrwydd i system ansicr ei wneud ar gyfer darparu tai cymdeithasol;

● cyllid preifat a chapasiti benthyca ar gyfer cymdeithasau tai.

Gallwch weld sesiwn tystiolaeth Clarissa ar Senedd.TV, neu drwy’r fideo sydd wedi ei fewnblannu isod. Mae trawsysgrif llawn ar gael yma.

Further recommendations

I helpu’r pwyllgor i edrych ar yr heriau, rhwystrau a chyfleoedd wrth ddarparu tai cymdeithasol newydd y mae cymdeithasau tai wedi eu hwynebu a’u canfod mewn blynyddoedd , misoedd a blynyddoedd diweddar, fe wnaethom hefyd gyflwyno ymateb manwl i’w ymgynghoriad dechreuol.

Ein hargymhellion i’r pwyllgor oedd:

● Rydym angen dull gweithredu strategol hirdymor a chydlynus ar gyfer Cymru.

● Mae’n rhaid i’r amgylchedd cyllid cyffredinol adlewyrchu blaenoriaethau strategol.

● Angen mynd i’r afael â rhwystrau systemig i ddatblygu.

● Angen gweithredu ar frys i fynd i’r afael â phroblemau proses sy’n atal cartrefi newydd rhag cael eu hadeiladu yn y tymor byr.

Gallwch lawrlwytho ein hymateb llawn i’r ymchwiliad yma a darllen ein blog yn esbonio’r cyd- destun i’r hyn y gwnaethom ei ddweud a pham yma.