Cabinet newydd i Lywodraeth Cymru, a fydd newidiadau ar gyfer tai cymdeithasol hefyd?
Prif Weinidog Cymru, Vaughan Gething (Senedd Cymru)
Mae Vaughan Gething, Prif Weinidog newydd Cymru, wedi cadarnhau’r penodiadau i’w gabinet – ond beth mae’r newidiadau yn ei olygu ar gyfer dyfodol tai cymdeithasol? Mae Bethan Proctor, rheolwr polisi a materion allanol, yn esbonio.
Yn nhudalennau agoriadol maniffesto Vaughan Gething yn yr etholiad i fod yn arweinydd Llafur Cymru, cyflwynodd yr ymgeisydd fel yr oedd bryd hynny ei syniadau a’i flaenoriaethau allweddol gan ddweud eu bod wedi eu gwreiddio yn ein gwerthoedd a’n hanes ac y byddent yn sicrhau Cymru fwy disglair, gwell a thecach yn y dyfodol. Wrth i’r wlad barhau i wynebu argyfwng tai, nid oedd ond naturiol y byddai Gething, a’i wrthwynebydd Jeremy Miles, ill dau yn rhoi peth ffocws ar drin hynny a sut y gallai Cymru ddarparu’r cartrefi mae ei phobl eu hangen.
Ar dai cymdeithasol yn neilltuol, dywedodd Gething y byddai adeiladu mwy o dai cymdeithasol yn flaenoriaeth iddo. Ychwanegodd fod hynny’n un o’r dulliau mwyaf grymus o liniaru tlodi a helpu pobl i adeiladu dyfodol gwell a mwy sicr.
Yn un o’r pethau cyntaf a wnaeth fel Prif Weinidog, ymddengys fod Gething eisoes wedi dechrau rhoi momentwm tu ôl i’w addewidion, gyda dau newid amlwg yn ei gabinet i gefnogi hyn.
Cafodd Julie James AS – a arferai fod yn Weinidog dros Newid Hinsawdd (yn cynnwys tai) gylch gorchwyl newydd fel Ysgrifennydd Tai, Llywodraeth Leol a Chynllunio.
Mae cadw Julie James fel y gweinidog gyda chyfrifoldeb am dai yn rhoi sefydlogrwydd a pharhad. Mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn deall y problemau mwyaf sy’n wynebu’r sector tai, a gallwn ddisgwyl iddi barhau yn gyflym â rhaglen waith Llywodraeth Cymru, gan anelu i gyflawni’r targed o 20,000 o dai cymdeithasol newydd a diwygio deddfwriaeth digartrefedd.
Rydym yn debygol o weld James yn gweithredu ar gynllun maniffesto Gething i ddefnyddio’r Grant Tai Cymdeithasol i hybu arloesedd yn y genhedlaeth nesaf o dai cymdeithasol hefyd. Mae’r maniffesto hefyd yn cydnabod fod ôl-groniadau cynllunio yn rhwystr i ddatblygu, felly er mwyn symud cynlluniau datblygu ymlaen, mae Gething wedi addo sefydlu tasglu ar gartrefi fforddiadwy.
Ar ddatgarboneiddio, rydym yn debyg o weld adran James yn parhau i weithio gyda’r sector i ganfod modelau cyllid arloesol drwy gyllid preifat, gyda’r nod o ymestyn hyn yn gyflym ac ar raddfa fawr. Ar yr ochr sgiliau, gallem weld peilota rhwydweithiau ôl-osod lleol fydd yn dod â darparwyr graddfa fach a masnachwyr unigol ynghyd mewn menter gydweithredol, i roi cyfleoedd i gontractwyr dyfu.
Ffyniant gwyrdd
Cafodd swydd newydd ei hychwanegu at y Cabinet fel y gall Gething gyflawni ei nod o ffyniant gwyrdd. Yn ei ddatganiad yn dilyn penodi’r Cabinet, dywedodd y Prif Weinidog:
“Bydd y tîm Gweinidogol hwn yn ... creu Cymru gryfach, decach, wyrddach. Byddwn yn gweithredu i gryfhau’r economi drwy roi cyfleoedd i bawb, a glynu’n gadarn wrth ein hymrwymiad i bontio’n deg at sero net.”
Yn ei faniffesto addawodd Gething y byddai’n sicrhau a chreu swyddi yn niwydiannau gwyrdd y dyfodol. Dywedodd y byddai’n rhoi blaenoriaeth i gadwyni cyflenwi Cymru, ac yn gweithio gyda’r sector tai i sicrhau fod gan y gweithlu y sgiliau i lenwi’r cyfleoedd hyn, yn cynnwys drwy brentisiaethau.
Yn symud i swydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg mae Jeremy Miles AS. Cafodd Clarissa Corbisiero, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Allanol Cartrefi Cymunedol Cymru, gyfarfod gyda Miles cyn yr etholiad am arweinyddiaeth Llafur Cymru, a dywedodd ei bod yn amlwg fod Miles yn ymroddedig i gyfleoedd i adeiladu swyddi ansawdd da, lleol. Roedd hefyd yn cydnabod y rôl bwysig y gall tai ei chwarae wrth sicrhau prentisiaethau a swyddi gwyrdd, ansawdd da.
Wrth siarad ar y pryd, dywedodd: “...Dylai cartref gweddus mewn cymuned gyda chysylltiadau da fod yn ddisgwyliad sylfaenol mewn bywyd modern ... rwyf eisiau i Gymru fod yn genedl o gymunedau llewyrchus, lle gall pobl ifanc fforddio byw a gweithio ynddynt.
“Rwyf hefyd eisiau helpu pobl ifanc i wneud eu dyfodol yma yng Nghymru,” ychwanegodd Miles. “Felly fe wnawn bopeth a fedrwn i’w cefnogi i fyw a gweithio yng Nghymru, drwy ei gwneud yn haws iddynt ganfod lle i fyw yn eu cymunedau lleol a helpu creu’r swyddi newydd yn sectorau newydd y dyfodol.”
Edrych i’r dyfodol
Er ei bod yn galonogol gweld ymagwedd glir at fynd i’r afael â’r tasgau mewn llaw o’i ddyddiau cyntaf oll fel Prif Weinidog, ni ellir gwadu fod heriau enfawr yn wynebu Gething a’i Gabinet. Mae gormod o bobl yn dal i fyw mewn llety dros dro, gormod o bobl yn methu gadael ysbytai, gan fethu mynd i’r cartrefi maent eu hangen, ac mae gormod o dai hen, thermol aneffeithiol yn dal i fod.
Rydym yn awr yn gofyn am gyfarfod cynnar gyda’r Prif Weinidog a Julie James AS i drafod blaenoriaethau y llywodraeth newydd, yn cynnwys yr addewidion yn ei faniffesto i gyflymu adeiladu tai cymdeithasol, gofal cymdeithasol sy’n addas ar gyfer y dyfodol a ffyniant gwyrdd, lle caiff swyddi gwyrdd eu chreu drwy bontio teg.