Datganiad CHC: Cyllideb derfynol 2024/25 Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru heddiw wedi cyhoeddi cyllideb derfynol 2024 i 2025.
Mae’r gyllideb derfynol yn gweld rhai newidiadau allweddol ar gyfer tai cymdeithasol, yn cynnwys dyrannu £5m ychwanegol i’r Grant Tai Cymdeithasol, a £5m ychwanegol hefyd yn cael ei ddyrannu i linell cyllideb Digartrefedd ac Atal, y mae’r Grant Cymorth Tai yn rhan ohoni.
Wrth ymateb i’r newyddion dywedodd Stuart Ropke, prif weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru:
Ar y cynnydd i’r Grant Tai Cymdeithasol:
“Rydym yn croesawu rhai o’r newidiadau ar gyfer tai cymdeithasol yng nghyllideb derfynol 2024/25.
“Buom yn glir fod adeiladu cartrefi fforddiadwy yn rhan allweddol o osod llwybr cynaliadwy allan o’r argyfwng tai yng Nghymru. Ni fu erioed yn anos gwneud hynny, gyda chwyddiant mewn costau yn cyfyngu effaith buddsoddiad y llywodraeth mewn blynyddoedd diweddar. Felly rydym yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi cynyddu cyllid y Grant Tai Cymdeithasol gan £5m o’r gyllideb ddrafft i alluogi hyn i ddigwydd. Ar hyn o bryd mae cymdeithasau tai Cymru wrthi’n adeiladu 70% o gartrefi cymunedol a bydd yr hwb hwn mewn cyllid yn eu cefnogi i barhau hyn.
“Ynghyd â chyllid mae angen i ni edrych ar frys ar y systemau a’r strwythurau y mae’r holl adeiladwyr tai yn dibynnu arnynt sy’n dal i oedi pobl a chymunedau rhag cael cartrefi newydd. Roeddem yn falch i weld bod Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai Senedd Cymru wedi lansio ymchwiliad yn ddiweddar i’r pwnc pwysig hwn.
“Mae potensial enfawr ar gyfer cymdeithasau tai ac eraill i nid yn unig adeiladu mwy o gartrefi, ond i adeiladu’r cartrefi cywir yn y mannau cywir ar gyfer pobl Cymru nawr ac am flynyddoedd lawer i ddod. Mae’r cyllid ychwanegol heddiw yn gam a groesewir yn fawr yn y cyfeiriad cywir, ond mae angen gwneud mwy.”
Am y Grant Cymorth Tai:
“Mae’r gyllideb derfynol yn gweld £5m arall yn cael ei ddyrannu i’r llinell Cefnogi ac Atal Digartrefedd. Rydym yn croesawu’r cynnydd hwn. Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau y caiff cymaint o gyllid ychwanegol ag sydd modd ei ddyrannu i’r Grant Cymorth Tai.
“Roeddem yn glir cyn y cyhoeddiad hwn, os na fyddem yn gweld setliad cyllido gwell ar gyfer y Grant Cymorth Tai, na fyddai cyllid digonol ar gyfer talu’n deg i weithwyr rheng-flaen a’i bod yn debyg y byddem yn colli gwasanaethau ar adeg pan na fu erioed fwy o’u hangen.
“Mae gwasanaethau digartrefedd a chymorth tai angen setliad cyllid aml-flwyddyn cynaliadwy sy’n sicrhau y gall y gwasanaethau hanfodol hyn a’u staff ymroddedig barhau i gyflenwi eu gwaith, sy’n newid bywydau.”
Darllenwch ein papur gwybodaeth manwl yma.
Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau a’r wasg, anfonwch e-bost at Ruth Dawson, pennaeth cyfathrebu - ruth-dawson@chcymru.org.uk.