Jump to content

25 Ionawr 2024

Datganiad CHC: Ffigurau newydd llety dros dro yn ‘annerbyniol’ yn dystiolaeth o’r argyfwng tai cynyddol yng Nghymru

Datganiad CHC: Ffigurau newydd llety dros dro yn ‘annerbyniol’ yn dystiolaeth o’r argyfwng tai cynyddol yng Nghymru

Cyhoeddwyd y datganiad hwn ar 25 Ionawr 2024.

Mae Llywodraeth Cymru heddiw wedi cyhoeddi’r ystadegau diweddaraf ar lety i’r digartref ac ystadegau cysgu allan ar gyfer Cymru.

Dengys y data ddiweddaraf fod 11,273 o unigolion yn byw mewn llety dros dro ym mis Hydref 2023 – 65 yn fwy nag yn 30 Medi 2023. Mae hyn yn cynnwys 3,403 o blant dibynnol dan 16 oed.

Wrth ymateb i’r ystadegau sydd newydd eu cyhoeddi dywedodd Rhea Stevens, pennaeth polisi a materion allanol:

“Roedd mwy na 11,200 o bobl, yn cynnwys 3,403 o blant yn byw mewn llety dros dro fel ym mis Hydref 2023. Mae hyn yn hollol annerbyniol.

“Rydym mewn sefyllfa anhygoel o bryderus lle’r ydym yn gweld effaith yr argyfwng tai tra’n bod yn dal i barhau i ddwysau a chyflymu. Mae’r rhifau yn mynd yn y cyfeiriad anghywir ac mae’r argyfwng yn dyfnhau.

“Mae mwy a mwy o bobl angen cartrefi diogel, fforddiadwy ac ansawdd uchel. A thra bod cymdeithasau tai yn gweithio gydag eraill i fynd i’r afael â’r sefyllfaoedd dybryd y mae pobl yn eu hwynebu, rydym yn dal i fod yn colli rhai o’r cynhwysion hanfodol fydd yn gwneud digartrefedd yn beth prin a byr ac nad yw yn ailddigwydd.

“Mae cymdeithasau tai eisiau gwneud mwy i helpu pobl sy’n profi digartrefedd – ond mae ein sector a’i bartneriaid, yn cynnwys awdurdodau lleol, GIG Cymru a darparwyr gofal iechyd eraill a’r trydydd sector angen helpu i lacio’r pwysau sydd arnynt.

“Rydym yn rhannu uchelgais yng Nghymru i ddod â digartrefedd i ben yn barhaol: i wneud hyn rydym angen mwy o gartrefi – a rydym hefyd angen buddsoddi mewn atal yn awr drwy sicrhau fod setliad cyllid cynaliadwy sydd yn gysylltiedig â chwyddiant ar gyfer y Grant Cymorth Tai. Gwyddom fod hyn yn anodd yn ystod argyfwng, yn arbennig lle mae cyllid yn dyn, ond gyda’n gilydd gallwn wella pethau ar gyfer unigolion a theuluoedd, a gostwng pwysau ar y GIG a llywodraeth leol.”

Gan weithio gyda Cymorth Cymru, mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn parhau i alw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried ei phenderfyniad i rewi’r Grant Cymorth Tai – y prif ddull ar gyfer atal digartrefedd a chefnogi byw annibynnol – yn ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2024/25. Ewch i’r dudalen hon i ganfod mwy am Materion Tai, ymgyrch ar y cyd CHC a Cymorth Cymru.

Ar gyfer ymholiadau’r wasg a’r cyfryngau, anfonwch e-bost at Ruth Dawson, pennaeth cyfathrebu - ruth-dawson@chcymru.org.uk.