Jump to content

30 Tachwedd 2023

Gallai mwy na 70% o wasanaethau digartrefedd Cymru ‘gael eu gostwng neu golli’ heb gynnydd yn y Grant Cymorth Tai

Gallai mwy na 70% o wasanaethau digartrefedd Cymru ‘gael eu gostwng neu golli’ heb gynnydd yn y Grant Cymorth Tai

Image credit: Centre for Homelessness Impact/Jeff Hubbard

Gallai mwy na 70% o wasanaethau hanfodol sy’n helpu i atal digartrefedd ar draws Cymru gael eu “gostwng neu eu colli” os na chaiff cyllid hanfodol gan Lywodraeth Cymru ei gynyddu.

Daw’r rhybudd gan Cymorth Cymru a Cartrefi Cymunedol Cymru, sydd gyda’i gilydd yn cynrychioli dros 100 o elusennau a chymdeithasau tai nid er elw yng Nghymru.

Drwy eu hymgyrch Materion Tai, mae’r cyrff hyn yn galw am gynnydd fel mater o frys i’r Grant Cymorth Tai (HSG) yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25.

Bob blwyddyn mae cyllid HSG yn helpu mwy na 60,000 o bobl drwy ddarparu llochesau, llety â chymorth a gwasanaethau cymorth tenantiaeth sy’n atal pobl rhag cysgu allan, gan alluogi pobl i adael perthnasoedd lle maent yn cael eu cam-drin a helpu pobl i oresgyn trawma, problemau iechyd meddwl a phroblemau gyda defnydd sylweddau.

Mae’r HSG yn hollbwysig i atal a lliniaru digartrefedd yng Nghymru a dangosodd ymchwil gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd fod pob £1 a fuddsoddir mewn gwasanaethau drwy’r grant yn sicrhau arbediad net o £1.40 i wasanaethau cyhoeddus eraill drwy ostwng y pwysau ar wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a chyfiawnder troseddol.

Bu toriad gwir dermau yn yr HSG y llynedd, gan aros ar £166.7 miliwn ar gyfer 2023/24 er bod cynnydd mewn costau a chwyddiant, a mwy o alw. Ers 2012, mae toriadau a diffyg cynnydd wedi golygu fod cyllid cymorth tai wedi gostwng gan £24 miliwn mewn gwir dermau.

Wrth i Gymru ddelio gydag effaith cynnydd mewn costau a chwyddiant, canfu ymchwil gan Cymorth Cymru a Cartrefi Cymunedol Cymru fod y diffyg cyllid yn cael effaith negyddol ar ddarparu gwasanaeth digartrefedd:

  • 27% o ddarparwyr cymorth wedi gorfod gostwng capasiti gwasanaethau;
  • 66% yn gorfod gweithredu rhestri aros ar gyfer gwasanaethau;
  • 75% yn rhedeg gwasanaethau mewn diffyg;
  • 45% o ddarparwyr cymorth wedi dewis peidio cynnig am gontractau newydd neu ail-dendro contractau, gan eu bod methu darparu gwasanaethau diogel, ansawdd uchel ar gyfer y cyllid sydd ar gael.

Yn y cyfamser, mae mwy a mwy o bobl angen cymorth digartrefedd a thai. Mewn gwirionedd, ni fu erioed fwy o alw am y gwasanaethau hyn:

  • dros 11,000 o bobl mewn llety dros dro;
  • 81% o ddarparwyr cymorth wedi adrodd galw cynyddol am eu gwasanaethau ers y llynedd;
  • 94% o ddarparwyr cymorth yn dweud bod anghenion cymorth yn fwy cymhleth na’r llynedd.

Dengys ein hymchwil fod yn awr risg wirioneddol iawn y bydd gwasanaethau yn gostwng yn sylweddol, cau a chwalu os nad oes unrhyw gynnydd i gyllid HSG y flwyddyn nesaf:

  • 77% o ddarparwyr cymorth wedi datgelu y byddent yn cael eu gorfodi i ostwng capasiti eu gwasanaeth;
  • 40% hefyd yn dweud eu bod yn debygol o ddychwelyd contractau presennol;
  • 67% yn debygol o beidio cynnig am gontractau newydd neu ail-dendro contractau.

Dywedodd Katie Dalton, cyfarwyddwr Cymorth Cymru: “Mae pawb yn haeddu lle i’w alw’n gartref, ond mae ein hymchwil yn rhoi darlun brawychus o wasanaethau cymorth tai ar y dibyn, a fyddai’n drychinebus ar gyfer pobl sy’n profi, neu sydd mewn risg o, ddigartrefedd.

“Os nad oes cynnydd mewn cyllid, bydd angen i ddarparwyr gau gwasanaethau hanfodol neu ostwng darpariaeth yn sylweddol ar adeg pan fo mwy o bobl nag erioed angen help.

“Mae’r darparwyr nid-er-elw hyn yn awyddus iawn i ddarparu gwasanaethau diogel, ansawdd uchel sy’n trawsnewid bywydau pobl, ac maent yn rhannu uchelgais Llywodraeth Cymru i ddod â digartrefedd i ben. Fodd bynnag, dim ond os caiff y Grant Cymorth Tai ei gynyddu yng nghyllideb y flwyddyn nesaf y gellir cyflawni hyn.”

Dywedodd Rhea Stevens, pennaeth polisi a materion allanol Cartrefi Cymunedol Cymru: “Mae’r gwasanaethau hyn yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl sydd mewn risg o, neu sy’n profi digartrefedd, a byddai ei colli neu eu gostwng ymhellach yn hollol drychinebus i Gymru. Byddai’n peryglu dyfnhau yr argyfwng digartrefedd a thai.

“Mae’r help a roddant yn newid bywyd – ac eto buont dan bwysau cyson dros y degawd diwethaf. Mae cyfyngiadau ar gyllid, twf enfawr yn y galw am gymorth a chynnydd mewn cymhlethdod anghenion cymorth pobl i gyd yn gwthio gwasanaethau yn nes ac yn nes at y dibyn.”

Mae Cymorth Cymru a Cartrefi Cymunedol Cymru yn cynnal diwrnod ar y cyd o weithredu ar 1 Rhagfyr i amlygu yr effaith y gallai torri’r Grant Cymorth Tai ei gael ar bobl fregus ledled Cymru. Bydd hyn yn cynnwys digwyddiad gwybodaeth ar gyfer Aelodau o’r Senedd, gyda chyfraniadau gan lefarydd tai Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y Cynghorydd Andrea Lewis, Sam Rowlands AS, Peredur Owen Griffiths AS a John Griffiths AS.

Gallwch ganfod mwy o wybodaeth am ymgyrch ddiweddaraf Materion Tai a darllen yr adroddiad ymchwil tu ôl i’n galwadau yma.

Mae mwy o wybodaeth ar sut i gefnogi’r ymgyrch ar gael yma.

Ar gyfer ymholiadau’r cyfryngau cysylltwch comms@chcymru.org.uk