Tu mewn ein hymateb i ymchwiliad pwyllgor y Senedd ar y cyflenwad o dai cymdeithasol
Mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn ystyried bod yr ymchwiliad ar y cyflenwad o dai cymdeithasol a gynhelir gan Bwyllgor Llywodraeth a Thai yn gam hanfodol tuag at sicrhau y gall ein sector barhau i ddarparu tai cymdeithasol hanfodol ac fel cyfle pwysig i bawb sy’n ymwneud â darparu tai cymdeithasol yng Nghymru i gyfrannu syniadau am newid cadarnhaol.
Mae ein hymateb i ymholiad y pwyllgor yn cynnwys llawer o’r negeseuon craidd yr ydym wedi eu rhannu’n gyhoeddus a gyda Llywodraeth Cymru dros y 12 mis diwethaf a’r blynyddoedd blaenorol. Os ydych yn dilyn Cartrefi Cymunedol Cymru yn agos, efallai fod ein sylwadau dechreuol i’w disgwyl gan fod hwn yn fater allweddol i ni – er y cafodd llawer o’r argymhellion newydd eu mireinio o’n hymchwil ein hunain a gwybodaeth a phrofiad cymdeithasau tai.
Tu ôl i’n datganiadau ac ymateb mae sector pragmatig, blaengar ac sydd â’i ffocws ar ddarparu budd cymdeithasol ar gyfer y cymunedau y mae’n eu gwasanaethu. Mae cymdeithasau tai yn bodoli i ddarparu cartrefi cymdeithasol ar gyfer pobl Cymru – ac maent eisiau parhau i wneud hyn ar raddfa fawr am flynyddoedd lawer i ddod.
Dyna pam, yn ein hymateb i’r ymchwiliad, ein bod wedi rhannu awgrymiadau clir ein bod yn hyderus ar y cyd y gallwn fynd i’r afael â’r heriau lluosog sy’n wynebu datblygwyr tai cymdeithasol. Rydym ni a’r cymdeithasau tai a gynrychiolwn yn frwd i chwarae ein rhan; mae ein ffocws ar weithio gyda Llywodraeth Cymru ac eraill i greu datrysiadau fydd yn ein galluogi i adeiladu tai cymdeithasol carbon isel yn gyflym ac ar raddfa eang dros yr hirdymor, gan sicrhau y gallwn barhau i wneud pethau eraill fel darparu gwasanaethau hanfodol i denantiaid a gwella cartrefi presennol.
Mynd i’r afael â’r argyfwng tai
Mae adeiladu tai cymdeithasol newydd yn rhan hanfodol o ymateb Cymru i’r argyfwng tai. Bu cymdeithasau tai yn adeiladu hyd at 80% o gartrefi cymdeithasol newydd y wlad yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac maent yn parhau i wthio ymlaen er heriau niferus.
Nid yw datblygu yn bodoli mewn gwagle, fodd bynnag, ac fel cyrff nid-er-elw, mae’n rhaid i gymdeithasau tai sicrhau cydbwysedd gofalus rhwng cynnal a chadw a buddsoddi mewn cartrefi a gwasanaethau presennol ar gyfer tenantiaid. Mae’r gwasanaethau hyn yn amrywio’n helaeth ac yn cynnwys gofal, cyngor ar drefnu arian, help i gael mynediad i fudd-daliadau, a helpu pobl fynd i waith.
Daeth hyn hyd yn oed yn bwysicach byth wrth i’r amgylchedd economaidd sy’n ein hwynebu i gyd barhau i fod yn gythryblus. Mae chwyddiant wedi golygu fod cost adeiladu cartrefi a darparu gwasanaethau presennol wedi cynyddu, tra bod mwy o denantiaid yn wynebu anawsterau ariannol eu hunain. Ynghyd â hyn, gwelsom ddiwygio unwaith mewn cenhedlaeth gyda chyflwyno Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) a llawer o uchelgais ar bob ochr dros ddargarboneiddio, safonau, diogelwch adeiladau a digartrefedd.
Rydym ni a’r cymdeithasau tai sy’n aelodau i ni yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru yn yr holl feysydd hyn ond er mwyn gwneud yn siŵr y gallwn sicrhau cydbwysedd rhwng yr holl nodau hyn a pharhau i roi darpariaeth effeithlon, rydym angen ymagwedd strategol mwy cydlynus. Fel y gwnaethom ddweud yn ein hymateb, os ydym eisiau i waith blaengar ein sector barhau mor gyflym ag sydd angen i greu’r lefel a math o stoc tai cymdeithasol sydd ei angen yng Nghymru, mae’n rhaid i ni edrych ar y ffordd y gwnawn bethau ac edrych ar yr argyfwng tai mewn ffordd holistig.
Mae ein argymhelliad cyntaf i’r pwyllgor yn glir: rydym angen ymagwedd strategol hirdymor a chydlynus ar Gymru.
Pe byddai gennym strategaeth genedlaethol yn ei lle (mae mwy o fanylion ar sut olwg fedrai fod ar hyn a’r effaith y byddai’n ei gael yn y ddogfen a gyhoeddwyd gennym), mae cymdeithasau tai eisoes mewn sefyllfa dda i chwarae ròl hanfodol yn hynny. Mae eu ffocws ar werth cymdeithasol yn golygu eu bod yn edrych tu hwnt i ddim ond brics a morter, i sut y gall cartrefi da greu cymunedau ffyniannus sy’n cyfoethogi bywydau pobl, gwella eu llesiant a’u hiechyd, ac annog pobl leol i ganfod mwy o fodlonrwydd yn yr ardal.
Byddai’r dull gweithredu hwn yn golygu nid yn unig y caiff cartrefi eu hadeiladu a’u cyflenwi – byddai ganddo oblygiadau cadarnhaol ar feysydd eraill o gonsyrn mawr tebyg i ganiatáu ar gyfer llwybrau sy’n canoli ar y person i fynd i’r afael â digartrefedd.
Argymhellion pellach
Mae ein hymateb llawn yn cynnwys y newidiadau pwysicaf fydd yn sicrhau y gallwn wella fel sector. Mae strategaeth yn hanfodol, ond mae hefyd angen i ni edrych ar y darlun ehangach a sut y gallwn weithredu mesurau ar gyfer cynnydd. Nid yw’r rhain yn ddatrysiadau cyflym na thymor byr, ond os cânt eu gweithredu byddant yn sicrhau ein bod yn mynd â’n hymagwedd at dai cymdeithasol mewn cyfeiriad fydd yn gweithio i bobl Cymru am flynyddoedd lawer i ddod.
Yn fyr, mae’r argymhellion pellach hyn fel sy’n dilyn:
Rhaid i’r amgylchedd cyllido cyffredinol adlewyrchu blaenoriaethau strategol
- Argymhelliad: Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda landlordiaid cymdeithasol, tenantiaid a phartneriaid allweddol i ddatblygu polisi rhent hirdymor sy’n sicrhau fforddiadwyedd ar gyfer tenantiaid ac sy’n cynnig sicrwydd hirdymor ar gyfer landlordiaid, gyda’r gallu i fod yn hyblyg ar gyfer amgylchiadau lleol a chymunedau.
- Argymhelliad: Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru fel mater o frys nodi’r costau sy’n gysylltiedig gyda chyflawni pob elfen o Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 a gweithio gyda’r sector i ddynodi llwybrau i gyllido yn yr hirdymor.
- Argymhelliad: Bod Llywodraeth Cymru yn ymestyn yr ymagwedd a gymerwyd ar gyfer y Grant Tai Cymdeithasol (y prif ddull ar gyfer ariannu datblygu tai cymdeithasol newydd yn flynyddol) drwy ddarparu setliadau dangosol aml-flwyddyn.
Angen mynd i’r afael â rhwystrau systemig i ddatblygu
- Argymhelliad: Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda phartneriaid i asesu maint yr her galluedd cynllunio a datblygu cynllun hirdymor i wneud y system cynllunio yn gynaliadwy.
- Argymhelliad: Gan adeiladu ar waith presennol, dylai’r sector tai cymdeithasol ystyried y ffordd orau i gefnogi dulliau modern o adeiladu i ffynnu, yn cynnwys gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddynodi lle medrant gefnogi.
- Argymhelliad: Dylai Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad cyffyrddiad ysgafn o’i ymagwedd strategol at dir fel rhan o strategaeth tai ehangach, gan gyfeirio at yr argymhellion yn Adolygiad Annibynnol o ‘r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy a gynhaliwyd yn 2019 a dynodi’r camau nesaf allweddol.
- Argymhelliad: Dylai Llywodraeth Cymru barhau i adeiladu ar ei gasglu data i gynorthwyo wrth ddeall cynnydd i fynd i’r afael â rhwystrau systemig.
- Bydd cymdeithasau tai yn parhau i adeiladu ar eu dealltwriaeth a gweithredu ar farn tenantiaid i sicrhau y caiff y cartrefi cywir eu datblygu ar gyfer unigolion a chymunedau penodol.
Angen gweithredu fel mater o frys i fynd i’r afael â phroblemau proses sy’n atal cartrefi newydd rhag cael eu hadeiladu yn y tymor byr
- Argymhelliad: Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau tymor fyr i fynd i’r afael ag ôl-groniad cynllunio drwy gyflawni ymrwymiad Prif Weinidog Cymru i Dasglu Cartrefi Fforddiadwy.
- Argymhelliad: Dylai Llywodraeth Cymru barhau cyllid ar gyfer Rhaglen Cyfalaf Llety Trosiannol yn 2024/25 a 2025/26 ac ystyried y ffordd orau i ddefnyddio tanwariant neu gyfyngiadau ar y Grant Tai Cymdeithasol i gefnogi hyn.