Dylid rhoi blaenoriaeth i fuddsoddiad deallus ac ystwyth yn nrafft gyllideb 2023/24 Llywodraeth Cymru
Rhea Stevens, pennaeth polisi a materion allanol, yn edrych ymlaen at ddrafft gyllideb arfaethedig Llywodraeth Cymru
Oherwydd yr ansicrwydd a’r pryder a achoswyd gan “enydau cyllidol” yn San Steffan mewn misoedd diweddar, efallai fod gennym fwy o reswm nag erioed o’r blaen i fod yn ddiolchgar fod gosod y gyllideb yng Nghymru yn fusnes llawer llai theatrig.
Er nad yw’n ddim llai pwysig, nid oes araith o’r fainc flaen yn cyhoeddi penderfyniadau allweddol. Yn lle hynny, caiff y gyllideb ddrafft ei chyhoeddi ar-lein ac mae’n nodi’r cynlluniau gwariant, trethiant a chyllido allweddol ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus hanfodol y mae pobl Cymru yn dibynnu arnynt. Mae pwyllgorau’r Senedd wedyn yn craffu ar y ddrafft gyllideb, cyn trafodaeth mewn sesiwn lawn ym mis Chwefror. Caiff y gyllideb derfynol wedyn ei cyhoeddi ddechrau mis Mawrth. Bwriedir i’r broses roi digon o amser ar gyfer trafod y cynigion ac ymchwilio’r buddion a’r bargeinio sydd ei angen.
Gellid dadlau na fu dewisiadau gwariant ar wasanaethau cyhoeddus erioed yn bwysicach nag yn ystod yr argyfwng presennol mewn costau byw. Yn ddiweddar dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol Cymru fod maint cost yr argyfwng byw yn “taro pocedi llawer mwy o bobl ac yn rhoi teuluoedd sydd wedi llwyddo i fyw’n gysurus i dlodi am y tro cyntaf”.
Dywed profiad wrthym mai’r rhai ar incwm isel fydd yn dioddef mwyaf ac am hiraf, fel canlyniad i effaith cronnus yr heriau hyn, sydd eisoes yn andwyol yn unigol. Nid gwasgfa economaidd dros dro yw’r argyfwng presennol mewn costau byw: mae gan ganlyniadau’r potensial i barhau am genedlaethau os na fedrwn gysgodi’r rhai sydd fwyaf bregus i galedi eithafol.
Er £1.2 biliwn ychwanegol mewn cyllid canlyniadol o’r datganiad cyllidol, mae Llywodraeth Cymru yn wynebu toriad mewn gwir dermau i’w chyllideb flynyddol, gan adael gweinidogion gyda dewisiadau anodd wrth iddynt geisio cynnal gwasanaethau cyhoeddus a lliniaru’r poen mae cymunedau yn ei deimlo ar hyn o bryd.
Gwyddom fod buddsoddiad mewn tai yn dod â buddion economaidd a cymdeithasol llawer ehangach na’r gwariant dechreuol yn unig – mae pob £1 a fuddsoddwyd yn dod â £6 o weithgaredd economaidd ehangach. Mae buddsoddiad mewn cartrefi yn ysgogiad economaidd pwysig wrth i ni wynebu’r dirywiad hwn.
Yn CHC buom yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a gwleidyddion yn draws-bleidiol i rannu ein syniadau ar sut y gallwn flaenoriaethu buddsoddiad i sicrhau’r gwahaniaeth mwyaf posibl ar adeg pan fo arian yn dyn ac na fu’r angen erioed yn uwch.
Credwn fod angen i’r ddrafft gyllideb roi blaenoriaeth i fuddsoddiad ystwyth a deallus mewn tri phrif faes:
- Rhaglen fuddsoddi hirdymor i ddarparu cartrefi newydd fforddiadwy a charbon isel ar gyfer pobl yng Nghymru
Rydym angen rhaglen fuddsoddi hirdymor i’n cefnogi i adeiladu cartrefi carbon isel newydd, i ddatgarboneiddio cartrefi presennol ac i ddarparu’r seilwaith rydym ei angen ar gyfer rheoli amgylcheddol a maethion. Hyd yma, ni wnaed digon i roi’r blociau adeiladu yn eu lle i alluogi hyn. Mae angen buddsoddiad mewn capasiti lleol i adeiladu system rheoli tir, cynllunio ac amgylcheddol yng Nghymru sydd â chyflenwi cartrefi fforddiadwy ar gyfer pobl yng Nghymru yn greiddiol iddo.
Mae angen cynllun wedi’i gyllido’n llawn ac y medrir ei gyflawni ar gyfer datgarboneiddio’r sector tai cymdeithasol. Mae’n rhaid i’r cynllun fanteisio ar newidiadau mewn technoleg, manteisio i’r eithaf ar y cyfle i adeiladu cadwyn cyflenwi seiliedig yng Nghymru a rhoi hwb economaidd i gymunedau Cymru.
Ym mis Mawrth 2023 cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y pecyn buddsoddiad hirdymor mwyaf erioed o bron £2 biliwn mewn cyllid cyfalaf ar gyfer cartrefi newydd, gan roi sicrwydd y mae ei fawr angen ar wariant tymor hirach ar dai fforddiadwy. Gwyddom y bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i economi Cymru a llesiant a deilliannau pobl yng Nghymru. Mae’n rhaid i gyllideb 2023/24 warchod cyllid cyfalaf ar gyfer cartrefi newydd fforddiadwy, carbon isel ar rent cymdeithasol drwy’r Grant Tai Cymdeithasol.
- Ymagwedd mwy ystwyth a phragmatig at gyllid fel y gallwn ymateb i’r amgylchedd deinamig a heriol yr ydym ynddo
Gwelsom gynnydd go iawn wrth sefydlu ymagwedd ystwyth a phragmatig i fynd i’r afael â’r heriau brys sy’n ein hwynebu. Mae hyn yn cynnwys y Rhaglen Cyfalaf Llety Trosiannol, sy’n anelu i ddod â 1,000 o gartrefi ychwanegol i ddefnydd dros y 18 mis nesaf i alluogi pobl i symud ymlaen o lety dros dro. Rydym hefyd wedi gweld symud i gyllid rhaglen drwy raglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio sy’n anelu i ddod â chartrefi i’r ôl-troed carbon isaf y gellid ei gyflawni.
Hoffem weld yr ymagwedd hon at gyllid ystwyth, gyda ffocws yn cael ei ymestyn yn fwy eang ar draws cyllideb 2023/24 i’n galluogi i wneud y gwahaniaeth mwyaf i gynyddu hygyrchedd ac ansawdd tai cymdeithasol, fel rhan o raglen buddsoddi cytbwys sy’n sicrhau’r deilliannau gorau am bob punt a werir.
- Adfywio’r ffocws ar atal
Gwyddom fod hyn yn anodd yn ystod argyfwng. Fodd bynnag, oherwydd ein bod mewn argyfwng y mae’n rhaid i ni fuddsoddi mewn ataliaeth. Bydd colli ffocws ar hyn yn golygu canlyniadau andwyol i unigolion, costau ychwanegol enfawr ar gyfer y wladwriaeth am flynyddoedd i ddod a gwarchodaeth gyfyngedig rhag unrhyw argyfyngau costau byw.
Yn 2022/23, cafodd y Grant Cymorth Tai ei gadw gan Lywodraeth Cymru ar linell sylfaen o £166m ar gyfer y tair blynedd nesaf. Cafodd hyn ei groesawu’n gynnes gan y sector cymdeithasau tai fel buddsoddiad hanfodol mewn gwasanaethau ataliol craidd.
Yn anffodus, mae’r argyfwng costau byw a’r amgylchedd o chwyddiant mawr wedi cael effaith negyddol ar gapasiti’r buddsoddiad hwn i gefnogi gwasanaethau.
Atal go iawn i fyny’r gadwyn drwy gymorth a buddsoddiad mewn cartrefi presennol yw’r ffordd i roi help a chefnogaeth go iawn, yn ogystal â gostwng pwysau ar GIG a llywodraeth leol. I wneud hyn, hoffem weld cynnydd chwyddiant i’r Grant Cymorth Tai a’r Grant Atal Digartrefedd. Yn ychwanegol, mae’n rhaid i gomisiynwyr gael arian ar gael i ddarparu cyllid ar gyfer darparwyr gofal cymdeithasol sy’n ateb gwir gost darparu gofal ansawdd uchel, yn eu helpu i ddod drwy storm yr argyfwng costau byw a thalu cyflog byw gwirioneddol i’w staff.
Gwyddom, os nad yw ein hymagwedd at fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur yn hollol gydnaws gyda’n hymdrechion i fynd i’r afael ag argyfyngau deuol tai a chostau byw, byddwn yn cael ein dal mewn cylch o fesurau tymor byr nad yw’n cynnig fawr iawn o ddiogeliad rhag unrhyw heriau yn y dyfodol.
Byddwn yn dadansoddi’r ddrafft gyllideb i ddeall sut y gall dewisiadau’r Llywodraeth gael effaith gadarnhaol ar yr heriau lluosog hyn ac yn parhau i gyflwyno’r achos dros fuddsoddiad ystwyth a deallus sydd â’r effaith mwyaf posibl ar gyfer pobl Cymru yn awr, ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.