Jump to content

16 Chwefror 2024

Ymateb CHC: Lansio ymchwiliad pwyllgor i’r cyflenwad o dai cymdeithasol

Ymateb CHC: Lansio ymchwiliad pwyllgor i’r cyflenwad o dai cymdeithasol

Cyhoeddodd Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai Senedd Cymru (15 Chwefror 2024) y bydd yn cynnal ymchwiliad i’r cyflenwad o dai cymdeithasol.

Wrth siarad am hyn dywedodd Elly Lock, pennaeth polisi a materion allanol CHC:

“Rydym yn croesawu lansiad yr ymchwiliad hwn gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai sy’n edrych ar y cyflenwad o gartrefi cymdeithasol y mae angen mawr amdanynt yng Nghymru.

“Mae cymdeithasau tai yn darparu dros 170,000 o gartrefi diogel, cynnes a fforddiadwy i bobl ledled cymunedau Cymru ac yn cynnig amrywiaeth o gymorth i tenantiaid i’w helpu i fyw’n dda.

“Yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae cymdeithasau tai wedi codi hyd at 80% o’r holl dai fforddiadwy newydd yng Nghymru. Mae ganddynt uchelgais i ddarparu llawer mwy, ond mae amrywiaeth o rwystrau sy’n ei gwneud yn anodd adeiladu cartrefi newydd.

“Mae’r ymchwiliad hwn yn gam hanfodol tuag at ddarparu tai cymdeithasol hanfodol, a rydym yn croesawu’r cyfle i gyfrannu ein syniadau ar gyfer newid."

Ar gyfer ymholiadau gan y wasg a’r cyfryngau, anfonwch e-bost at comms@chcymru.org.uk os gwelwch yn dda.