Jump to content

21 Ionawr 2019

Cwrdd a'r Siaradwr - Helen Reynolds

Cwrdd a'r Siaradwr - Helen Reynolds
Mae Helen Reynolds yn Gyfarwyddydd Social for the People. Bydd yn siarad yn ein Cynhadledd Cyfathrebu eleni a dywedodd wrthym am yr hyn mae'n edrych ymlaen fwyaf ato, ynghyd â chipolwg ar dueddiadau marchnata y dyfodol.


Beth ydych chi'n edrych ymlaen fwyaf ato yn y Gynhadledd Cyfathrebu?
Mae hynny'n gwestiwn anodd oherwydd fod y siaradwyr mor dalentog fel na allwn ddewis un! Yr hyn y byddaf yn wirioneddol ei fwynhau yw sgwrsio gyda gweithwyr cyfathrebu eraill drwy'r dydd am yr holl bethau sy'n ein cyffroi, ein herio a hefyd beth ydym wedi cael llond bol arno. Mewn gwirionedd, mae creu cwlwm dros y pethau rydyn ni eisiau eu gwella yn thema fawr yn fy nghartwnau - fel y bingo cyfathrebu a gafodd ei rannu filoedd o weithiau ar y cyfryngau cymdeithasol.


Beth ydych chi'n feddwl fydd y tueddiadau marchnata digidol yn 2019?
Yn fy marn yr un peth nad yw'n cael digon o sylw mewn marchnata digidol modern yw cyfathrebu mewnol. Gyda llwyfannau gyda Facebook at Work yn dod yn rhan hanfodol o strategaethau cyfathrebu, bydd sefydliadau yn symud i arddull rheoli cymunedol o gyfathrebu mewnol, sy'n adlewyrchu eu hymgysylltu ar y cyfryngau cymdeithasol allanol.


Bydd sefydliadau yn creu llawer mwy o 'gynnwys peiriant dŵr' - cyfryngau cymdeithasol mewnol a wnaed yn bwrpasol i gael staff i siarad amdanynt eu hunain a'u barn ar unrhyw beth o'r tywydd i'r set blychau Netflix diweddaraf. Mae'r cyfathrebwyr yn gwybod bod cadw a bodlonrwydd staff yn hollbwysig i lwyddiant unrhyw gwmni a byddant yn canolbwyntio ar helpu cydweithwyr i deimlo'n rhan o'r gymuned - cael eu gwerthfawrogi fel person, nid dim ond fel gweithiwr.


Beth yw'r prif gyngor ar gyfer cael cefnogaeth cyfathrebu gan gydweithwyr?
Fy mhrif gyngor i gael cefnogaeth yw rhoi cefnogaeth yn gyntaf. Dangoswch yr ymddygiad rydych eisiau ei weld. O leiaf unwaith y ffordd, dewch o hyd i ffordd i roi sylw a bod yn chwilfrydig am lwyddiannau eich cydweithwyr, eu breuddwydion a'u diddordebau hefyd. Gall fod yn e-bost i ddweud wrth rywun eich bod wedi sylwi ar eu gwaith caled a'i werthfawrogi. Gall fod yn neges ar y fewnrwyd yn eu llongyfarch ar gael gwregys du mewn karate, i'w croesawu'n ôl ar ôl ychydig o amser i ffwrdd. Rhowch yn gyntaf a bydd pobl yn ad-dalu'r gymwynas drwy werthfawrogi ein gwaith a holi am ein bywydau hefyd.


Beth ydych chi'n hoffi ei wneud tu allan i'r swyddfa?
Allan o'r swyddfa rwyf wrth fy modd yn darlunio, gigs, treulio amser gyda fy nheulu gwych, cael fy sbwylio'n dwll gan fy nghariad hyfryd a chynllunio i ddominyddu'r byd.


Archebwch eich tocyn ar gyfer ein Cynhadledd Cyfathrebu yma