Ruth Dawson
Pennaeth cyfathrebu
Mae gan Ruth dros ddegawd o brofiad yn y diwydiant cyfryngau a chyfathrebu, ar ôl gweithio i rai o brif wefannau a theitlau Cymru a Phrydain.
Ar hyd ei gyrfa mae wedi gweithio fel golygydd a strategydd cynnwys digidol/newyddion diweddaraf, mewn swyddi yng ngwasg y diwydiant yn ogystal â gyda’r South Wales Evening Post a gwefan ryngwladol The Conversation.
Cyn ymuno â Cartrefi Cymunedol Cymru, roedd Ruth yn aelod uwch allweddol o dîm cyfathrebu Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Morgannwg ac wedyn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Yn ystod ei chyfnod gyda GIG Cymru, bu’n gweithio ar yr ymateb i Covid-19, gan arwain strategaethau cyfathrebu mewnol ac allanol a chreu dulliau a sianeli newydd yn gyflym i gysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid a chynulleidfaoedd.
Yn Cartrefi Cymunedol Cymru mae Ruth yn arwain yr holl gyfathrebu ar draws y sefydliad, yn cynnwys goruchwylio ei strategaethau aml-sianel, ymgyrchoedd proffil uchel, cyfathrebu argyfwng a chyfathrebu gyda’r aelodau. Gan weithio gydag aelodau, mae Ruth hefyd yn arwain ar ran Cartrefi Cymunedol Cymru ar gyfer y gymuned aelodaeth cyfathrebu a materion allanol.
Mae Ruth hefyd yn aelod o’r uwch dîm rheoli.