Datganiad CHC: cyllideb ddrafft 2024/25 Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru heddiw wedi cyhoeddi ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2024 i 2025.
Wrth ymateb i’r newyddion dywedodd Stuart Ropke, prif weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru:
“Sylweddolwn fod cyllideb ddrafft heddiw yn newyddion heriol i’r holl wasanaethau cyhoeddus y mae pobl Cymru yn dibynnu arnynt.
“Os ydym eisiau gosod llwybr cynaliadwy allan o’r argyfwng tai, mae’n hollol hanfodol y gallwn barhau i adeiladu cartrefi fforddiadwy ar gyfer pobl Cymru. Rydym yn falch fod Llywodraeth Cymru yn amlwg wedi cydnabod hyn drwy ddiogelu’r Grant Tai Cymdeithasol yng nghyllideb ddrafft heddiw. Cymdeithasau tai Cymru sy’n adeiladu 70% o gartrefi cymdeithasol ar hyn o bryd a byddwn yn medru parhau â’r cynnydd hwn am flwyddyn arall.
“Fodd bynnag, nid yw’n ddigon dim ond adeiladu’r cartrefi diogel, cynnes a fforddiadwy y mae ein cymunedau eu hangen.
“Cafodd y Grant Cymorth Tai, sef y prif ddull o atal digartrefedd a chefnogi byw annibynnol, ei rewi. Mewn gwirionedd, mae setliad arian gwastad yn doriad mewn gwir dermau. Dengys ein hymchwil pe bai rhewi, fod mwy na thri-chwarter y darparwyr gwasanaeth sy’n dibynnu ar y Grant Cymorth Tai yn debygol o ostwng capasiti – gan olygu na fedrant gyrraedd cynifer o bobl sydd angen cefnogaeth.
“Mae 40% o ddarparwyr hefyd yn debygol o roi contractau yn ôl, a 48% yn debygol o ddileu swyddi. Bydd hyn yn effeithio ar rai o’r bobl fwyaf bregus yng Nghymru; y bobl ymroddedig sy’n gweithio i’r sefydliadau hollbwysig hyn a gwasanaethau eraill, fel y GIG, sydd eisoes dan bwysau aruthrol.
“Dod â’r argyfwng tai i ben yw y nod a rannwn i gyd. Ond i wneud hyn mae angen i ni greu datrysiad mwy cynaliadwy lle rhoddir blaenoriaeth i fuddsoddiad hirdymor mewn cartrefi newydd a phresennol a gwasanaethau atal a chymorth ar gyfer pobl.”
Gallwch ddarllen ein papur gwybodaeth manwl yma.
Ar gyfer ymholiadau gan y wasg a chyfryngau anfonwch e-bost at Ruth Dawson, pennaeth cyfathrebu yn ruth-dawson@chcymru.org.uk.