Jump to content

11 Mai 2023

Cyflwyno Broadleaf Professional fel aelod partner masnachol newydd

Cyflwyno Broadleaf Professional fel aelod partner masnachol newydd

Fel rhan o gyfres o negeseuon ar aelodau partner masnachol Cartrefi Cymunedol mae Oliver Florence, cyfarwyddwr cynnyrch, yn esbonio pam y dewisodd Broadleaf Professional ffurfio partneriaeth newydd gyda’n sector.

Pam fod Broadleaf Professional eisiau bod yn aelod partner masnachol CHC ac ymuno gyda sector cymdeithasau tai Cymru?

“Oherwydd y credwn ei bod yn bosibl darparu technoleg gwerth uchel, sy’n arwain y farchnad sy’n cefnogi gwasanaethau modern gyda ffocws ar y tenant.

“Rydym yn ymroddedig i gydweithio’n agos gyda chymdeithasau tai fel bod ganddynt fynediad i gynnyrch a gwasanaethau a gaiff eu hadeiladu a’u darparu mewn ffordd sy’n ffitio sut maent yn gweithio.

“Cafodd ein model busnes ei ddylunio’n benodol i gefnogi dull gweithredu cymdeithasol ymwybodol i ddarparu meddalwedd; darparwn dechnoleg gwerth uchel drwy weithio mewn partneriaeth gyda darparwyr tai i ddylunio, cyflenwi a mesur effaith meddalwedd newydd a newidiadau gwasanaeth.

“Rydym yn frwdfrydig am ein partneriaeth gyda CHC oherwydd bod ein datganiad cenhadaeth ‘adeiladu’r hyn sy’n bosibl’ yn gydnaws iawn gyda’u gweledigaeth ar gyfer cymdeithasau tai yng Nghymru.”

Pa fanteision y gall Broadleaf Professional eu rhoi i gymdeithasau tai sy’n aelodau CHC a’u gwaith?

“Mae gennym brofiad helaeth o adeiladu a gweithredu meddalwedd a gwasanaethau sy’n sicrhau effaith gymdeithasol gadarnhaol.

“Mae ein tîm wedi gweithio mewn meddalwedd tai cymdeithasol yn ogystal ag atal digartrefedd, ac fel rhan o dîm a adeiladodd a darparu budd-daliadau nawdd cymdeithasol newydd yr Alban ar anabledd.

“Rydym yn dîm bach sy’n canolbwyntio ar ddarparu gwerth cymdeithasol. Rydym yn gweithio’n gyflym ac yn darparu ar amser. Mae aelodau ein tîm yn fwriadol aml-sgil; yr un person sy’n gweithio gyda chi i ddeall yr hyn y byddwch ei angen yn adeiladu a chyflawni hynny drosoch – nid oes dim yn cael ei golli wrth drosi a gall eich timau adeiladu perthynas gyda rhywun y gallant ddibynnu arnynt.

“Rydym yn ffynnu ar gydweithio gadarnhaol a rydym eisiau ehangu ein portffolio cynnyrch drwy weithio wrth ochr darparwyr tai i sicrhau fod ganddynt lais wrth ddylunio’r systemau a ddefnyddiant. Mae hyn yn golygu y gall darparwyr tai gael mynediad i’n cynnyrch presennol, ond hefyd weithio gyda ni i greu cynnyrch newydd i’w helpu i gadw’n gydwastad gydag amgylchedd gwaith sy’n newid drwy’r amser.

“Mae gennym ardystiad fel Microsoft Partners a gallwn gynnig mynediad i drwyddedau a chynnyrch Microsoft ar bris ffafriol.”

Pa wasanaethau ydych chi’n eu cynnig?

  • Tanysgrifiad meddalwedd seiliedig ar y cwmwl sy’n barod i fynd (rheoli cwynion/rheoli incwm/rheoli achos)
  • Cyfluniadau pwrpasol o’n cynnyrch ar y silff i weddu anghenion eich sefydliad.
  • Amrywiaeth o Microsoft PowerApps a adeiladwyd ar gyfer tai cymdeithasol y gellir eu defnyddio o fewn Microsoft Teams (mae hyn yn cynnwys y modiwlau a enwir uchod).
  • Ymgynghori a chefnogi gyda newid gwasanaeth. Gweithiwn gyda chi i adnabod, dylunio a gweithredu newid gwasanaeth cymdeithasol ymwybodol, yn cynnwys y meddalwedd yr ydych ei angen i gefnogi modelau gweithredu newydd.
  • Trwyddedu meddalwedd, yn cynnwys Microsoft Office, Windows, ac yn y blaen.

Canfod mwy gan Broadleaf Professional

Ffonio Oliver Florence ar 07514 746 130 neu e-bost Oliver@broadleafprofessional.co.uk

Mynd i wefan Broadleaf Professional

Dilyn Broadleaf Professional ar LinkedIn