Gweithio i CHC
Rydym yn dîm staff ymroddedig sy’n cydweithio i alluogi ein haelodau i fod yn wych.
Mae ein diwylliant yn agored, ymddiriedus a gofalgar ac mae ein gwerthoedd yn adlewyrchu sut y gweithiwn gyda’n haelodau a’n rhanddeiliaid yn ogystal â gyda’n gilydd. Mae gan staff y rhyddid i gyflawni eu swyddi pryd a lle y gweithiant orau. Rydym yn annog arloesedd a bob amser yn ymchwilio ffyrdd newydd i wneud pethau yn well.
Mae llawer o gyfleoedd i gydweithio ar draws y sefydliad ar brosiectau, digwyddiadau ac ymgyrchoedd a hefyd ar draws y sector.
Yn ystod y pandemig fe wnaethom symud i weithio o bell ar gyfer pawb – gan ddarparu’r offer a’r dulliau i alluogi staff i barhau i wneud eu swyddi. Byddwn yn parhau i gefnogi staff i weithio’n hyblyg gyda ffocws ar ganlyniadau.
Ein Gwerthoedd

Cynigiwn delerau ac amodau rhagorol sy’n anelu cymell, ymgysylltu a gofalu am ein gweithwyr yn cynnwys:
- Gweithio hyblyg – gyda ffocws ar allbynnau ac nid yr oriau a gafodd eu gweithio
- Cynllun tâl salwch y cwmni
- 25 diwrnod o wyliau y flwyddyn, gan gynyddu i 30 diwrnod erbyn blwyddyn 5
- 4 diwrnod o wyliau ychwanegol adeg y Nadolig
- Pensiwn cyfraniad diffiniedig
- Cyfnod mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig
- Talu am danysgrifiadau proffesiynol, lle mae’n gysylltiedig â’ch swydd
- Cynllun iechyd arian y talwyd amdano
- Mynediad i gwnsela wyneb i wyneb
- Cynllun benthyciad car
- Cynllun seiclo i’r gwaith
- Egwyliau gyrfa
- Cronfa dysgu a datblygu personol
- Cymhorthdal at aelodaeth campfa
- Parti Nadolig y Swyddfa
- Dyddiau Cwrdd i Ffwrdd
- Digwyddiadau cymdeithasol a chwrdd â’n gilydd
- Cyflogau a feincnodir yn allanol, a adolygir bob tair blynedd
- Dyfarniad cost byw blynyddol
Pam fod staff wrth eu bodd yn gweithio yn CHC?
Rwy’n teimlo eu bod yn gofalu amdanaf o ddifri ac yn gwerthfawrogi’r pwyslais ar gydbwysedd gwaith-bywyd a hyblygrwydd gweithio.
Hyblygrwydd am sut a phryd y caiff gwaith ei wneud a dealltwriaeth o sut y gall bywyd tu allan i waith effeithio ar lesiant yn y gwaith.
Mae’r ffordd y mae CHC yn gweithio wedi ei seilio ar ymddiriedaeth a grymuso unigolion i wneud y peth cywir.
Y bobl, yr angerdd a’r teimlad o wneud gwahaniaeth!
Mae gweithio yn CHC wedi newid fy mywyd er gwell, sefydliad mor ofalgar. Balch i fod yn rhan o’r dîm.
Gweithio ar bethau sy’n cyfri. Mae pawb angen cartref diogel, cynnes a fforddiadwy – mae bod yn rhan o’r argyfwng tai yn sbardun gwych bob bore!
Nid oes yr un dau ddiwrnod byth yr un fath. Gwn y gallaf ymestyn allan i gydweithwyr os wyf angen help neu gefnogaeth. Caiff fy marn ei chlywed a’i gwerthfawrogi. A dydyn ni ddim yn cymryd ein hunain ormod o ddifri ...:-)
Mae CHC yn amgylchedd cefnogol a hwyliog i weithio ynddo – hyd yn oed mewn byd rhithiol!
Edrych am yrfa yn y sector tai cymdeithasol?
Rydym wedi ffurfio partneriaeth gyda Charity Job Finder i gyflwyno Swyddi Tai Cymru – gwefan gyntaf Cymru yn llwyr ar gyfer swyddi yn y sector tai cymdeithasol.