Jump to content

Un Gynhadledd Tai Fawr

Yn ôl ar gyfer 2024!

Cynhadledd Flynyddol CHC 2024

Cynhelir yr Un Gynhadledd Fawr 2024 yng Ngwesty a Sba y Metropole.

Bydd y digwyddiad poblogaidd, a gynhelir ar 4 a 5 Gorffennaf yn dod â chydweithwyr o gymdeithasau tai, arbenigwyr y sector a phartneriaid ynghyd ar gyfer deuddydd o brif areithiau fydd yn ysbrydoli, gweithdai dan arweiniad arbenigwyr y diwydiant, trafodaethau i ysgogi’r meddwl a chyfleoedd rhydweithio.

Yn cael ei chynnal yn Llandrindod, bydd y gynhadledd yn rhoi lle i arweinwyr a rheolwyr o fewn y sector i ystyried y ffordd orau y gall y gwasanaethau a’r cartrefi newydd a ddarparant adlewyrchu cyfansoddiad ac anghenion amrywiol eu cymunedau.

Am beth mae’r cyfan?

Ffocws Un Gynhadledd Fawr eleni fydd darparu a datblygu cartrefi ar gyfer cymunedau mewn cyfnod heriol.

Bydd y gynhadledd yn ymchwilio dulliau blaengar o ymgysylltu mewn modd sensitif ac effeithiol gyda thenantiaid ar draws ystod o feysydd, o waith trwsio i ôl-osod, ac ystyried anghenion amrywiol cymunedau mewn gwasanaethau a ddarperir i denantiaid, o ymgysylltu cymdogaeth i reoli asedau.

Yn y digwyddiad, byddwn hefyd yn trafod sut y gall cymdeithasau tai ystyried anghenion y gymuned wrth ddylunio, datblygu a darparu cartrefi newydd a hyrwyddo amrywiaeth ac integreiddio’r amgylchedd naturiol.

Pwy ddylai fynychu?

Mae Un Gynhadledd Tai Fawr wedi’i hanelu at staff sector tai o bob lefel o fewn cyllid, rheolaeth tai, datblygu, diogelwch a rheoli asedau – ac aelodau bwrdd hefyd.

A oes gan y Gynhadledd ardystiad Datblygiad Proffesiynol Parhaus?

Mae gan yr Un Gynhadledd Fawr ardystiad DPP, a gall cynrychiolwyr sy’n mynychu gofnodi eu presenoldeb fel oriau a phwyntiau DPP.

Mae cael ardystiad DPP yn tanlinellu ein hymrwymiad i greu a darparu cyfleoedd dysgu sy’n cyfoethogi ar gyfer cynrychiolwyr, a rhannu arfer gorau o bob rhan i’r sector.

Bydd y rhai sy’n mynychu yn cael tystysgrif, a fydd yn cyfrannu at eu datblygiad proffesiynol parhaus.

Pwy sy’n cadeirio’r gynhadledd?

Y newyddiadurwraig a’r ddarlledwraig Sian Lloyd fydd ein cadeirio’r gynhadledd dros y ddeuddydd.

Mae Sian yn wyneb cyfarwydd i gynulleidfaoedd teledu ar draws Prydain o gyflwyno rhaglenni yn cynnwys BBC Breakfast, BBC Crimewatch Roadshow a Panorama. Mae hefyd wedi adrodd ar rai o’r adegau allweddol mewn hanes diweddar fel uwch ohebydd newyddion ar gyfer y BBC.

Sian Lloyd will be chairing the conference.
Stuart Lawrence is speaking at One Big.

Pwy sy'n siarad?

Bydd nifer o siaradwyr blaenllaw a phanelwyr yn ymuno â ni drwy gydol ein cynhadledd.

Ein siaradwr cyntaf a gyhoeddwyd yw’r Gwir Anrh Stuart Lawrence, fydd yn ymuno â ni ar y diwrnod cyntaf.

Bydd Stuart yn rhannu ei stori ei hun a phrofiad ei deulu o hiliaeth a rhagfarn sefydliadol. Bydd yn trafod sut i fynd i’r afael â realaeth galar a thrawma, yr hyn a ddysgodd am sut i aros yn gydnerth mewn cyfnod anodd, a sut i ddefnyddio’r da ynddoch eich hun ac eraill i greu’r newid rydych eisiau ei weld.

Yr ail siaradwr a gyhoeddwyd gennym yw Heléna Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, fydd yn ymuno â ni ar y diwrnod cyntaf.

Bydd Heléna yn trafod sut y gallwn, fel sector tai, sicrhau y caiff lleisiau pobl hŷn eu clywed ac y gweithredir ar hynny.

Y trydydd prif siaradwr a gyhoeddwyd gennym yw Amanda Newton, prif weithredwr, Rochdale Boroughwide Housing, fydd yn ymuno â ni ar yr ail ddiwrnod.

Bydd Amanda yn trafod pwysigrwydd chwilfrydedd proffesiynol a diwylliannol wrth gyflawni profiad y cwsmer a gwir ddeall pwy sy’n byw yn ein cartrefi.

Y pedwerydd prif siaradwr a gyhoeddwyd yw Dr Gifford Rhamie, sefydlydd a chyfarwyddwr gweithredol Rockstone Consultancy.

Bydd Dr Rhamie yn ymchwilio sut i symud tu hwnt i ddim ond goddef amrywiaeth mewn tai ac yn lle hynny feithrin “sirioldeb” – y grefft o gyd-fyw’n dda. Bydd yn trafod yr heriau a all godi mewn cymdogaethau amrywiol, ond yn bwysicaf, gynnig datrysiadau ymarferol.

Medrwch weld yr agenda drafft yma.